Lluniau: Sioe Amaethyddol Sir Benfro 2018
- Cyhoeddwyd
Mae'n wythnos y sioeau amaethyddol! Y tro yma, rydym ni'n dod â'r uchafbwyntiau o Sioe Amaethyddol Sir Benfro yn Hwlffordd, sy'n digwydd rhwng 14-16 Awst.
Lleucu Meinir oedd yno ar ein rhan:

Bill Masey - y dyn oedd yn beirniadu'r ceffylau i gyd trwy'r dydd yn y 'Grand Arena'...

...ac roedd y safon yn uchel, fel y gwehyrwch chi!

Stondinwyr yn gwneud hud a lledrith a rhannu rhoddion i ddal sylw y miloedd oedd yn pasio.

Teulu bach bodlon: Er gwaetha'r glaw yn y bore roedd pawb yn mwynhau.

Dau gi yn cyfarch: Chwe mis oed yw'r ci sy'n ceisio dod trwy'r ffens ac mae'n ceisio gwneud ffrind gyda phob ci arall.

Roedd pedwar gafr fach ar y ffordd fewn i'r syrcas yn cael llawer o faldod.

Cyfle i ymarfer mewn sgiliau syrcas a chreu perfformiad pypedau.

Ger yr ardal syrcas a chwarae plant mae modd gweld gwenyn yn creu mêl. Chi'n gallu gweld y frenhines gyda smotyn wen arni?
Mae David Thomas, perchennog rhain, wedi cadw gwenyn ers dros 30 mlynedd. Fe greodd yr observatory yma.

Cyfle i roi traed i fyny mewn steil ar un o stondinau'r sioe.

Mae'r ferch fach yma'n geg agored wrth edrych ar y cywion bach yn mynd o gwmpas eu pethau'n chwilota am fwyd.

Paned dda o flaen y da.

Eliza yn mwynhau peintio'i hwyneb, chwarae gyda'i balŵn a gwylio'r gwartheg.

Isaac yn helpu i gadw'r gwartheg yn daclus yn y sied.

Iechyd da! Ffermwyr ifanc yn cymdeithasu wrth wylio'r gwartheg.

Ymlaciwch a gadewch i Phillips ddelio â'r cyfan.

Mae beirniadu geifr yn gofyn am lawer o waith canolbwyntio.

Camelod yn ymlacio gyda'r gofalwr yn dilyn y rasys camelod.

Merched yn chwerthin wrth wasgu corn y tractor.

Hefyd o ddiddordeb: