Lluniau: Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2018
- Cyhoeddwyd
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi tyfu'n un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr gerddoriaeth yng Nghymru ers ei sefydlu nôl yn 2003.
Y ffotograffydd Mark Lewis aeth i'r ŵyl ar gyrion Crughywel ym Mhowys eleni ar ran Cymru Fyw.

Un o'r ffyrdd mwyaf hwyliog o deithio o amgylch y lle - cyn belled mai nid chi sy'n gorfod tynnu...

Y gynulleidfa yn mwynhau yn un o'r pebyll mwyaf lliwgar.

Cwpl yn mwynhau'r heulwen (a'r siampên) yn y Jacuzzi.

Gary & Pel o Live Action Cartoon yn diddannu'r torfeydd.

Yr Americanes a'r gantores werin Peggy Seeger, sydd bellach yn 83 oed, mewn sgwrs yn yr ŵyl.

Kelly Jago yn mwynhau mewn lliw.

Y comedïwr Clint Edwards ar lwyfan Last Laugh.

Seibiant yn yr haul...

Prif berfformwyr y nos Sul, y grŵp The War on Drugs.

Peter Mackay-Lewis, a'i fab Leo, sy'n ddwy oed, yn gwneud y mwyaf o'r tywydd sych.

Anna Calvi yn perfformio ar y Mountain Stage ar ddiwrnod olaf yr ŵyl eleni.

Un o'r bandiau Cymraeg oedd yn perfformio eleni oedd Accü o Sir Gaerfyrddin.

Matthew Rees a Danielle Ashburner o Aberdâr yn barod am ddiwrnod o fwynhau.

Y brif lwyfan ar y nos Sul, wrth i flwyddyn arall ddod i ben.

Hefyd o ddiddordeb: