'Does dim risg' wrth gastio actorion ag anableddau
Mae'r cwmni theatr gynhwysol Hijinx wedi llunio argymhellion ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu i sicrhau bod cymeriadau sydd ag anableddau dysgu yn cael eu cynrychioli'n deg ar y sgrin.
Yn ôl prif weithredwr y cwmni, dylai dewis actor abl yn rhan cymeriad anabl fod yr un mor annerbyniol â dewis actor gwyn i chwarae cymeriad du.
Mae'r canllawiau'n cynnwys anelu at gyflwyno mwy o straeon sy'n cynnwys cymeriadau â chyflyrau fel awtistiaeth a syndrom Down ac osgoi stereoteipiau gan ddatblygu cymeriadau realistig.
Hefyd mae'n galw am glyweliadau mwy hamddenol sy'n llai seiliedig ar sgriptiau a chyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu brofi bywyd ar set.
Un sy'n cefnogi'r alwad yw Alex Harries, sydd wedi ymddangos yn ddiweddar yng nghyfresi teledu Un Bore Mercher ac Y Gwyll.
Mae'n diwtor gydag academi hyfforddi ddi-elw Hijinx gan arbenigo mewn actio ar gyfer y sgrin, ac yn dweud bod yntau wedi dysgu llawer o'r profiad o weithio gydag unigolion ag anghenion arbennig.