Cyhoeddi safonau i herio arferion castio actorion anabl

  • Cyhoeddwyd
Actorion Hijinx ar lwyfanFfynhonnell y llun, Hijinx

Mae cynrychiolwyr o'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru wedi croesawu argymhellion ar gyfer safonau newydd i sicrhau bod cymeriadau sydd ag anableddau dysgu yn cael eu cynrychioli'n deg ar y sgrin.

Mae'r argymhellion, sydd wedi eu llunio gan y cwmni theatr gynhwysol Hijinx, yn cynnwys peidio castio actorion abl i bortreadu cymeriadau ag anableddau, a chreu mwy o straeon sy'n adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas.

Disgrifiad,

Canllawiau i sicrhau tegwch i actorion anabl

Yn ôl prif weithredwr y cwmni, sy'n cynnwys actorion ag anableddau dysgu ymhob un o'i gynhyrchiadau ers dros 20 mlynedd, dylai dewis actor abl yn rhan cymeriad anabl fod yr un mor annerbyniol â dewis actor gwyn i chwarae cymeriad du.

Wrth herio'r diwydiant ledled y byd i fabwysiadu dulliau castio moesegol, mae Clare Williams hefyd yn gobeithio gweld actor niwroamrywiol yn ennill gwobr BAFTA Cymru erbyn 2025, gwobr BAFTA erbyn 2028 ac Oscar erbyn 2030.

Ers seremoni gynta'r Oscars yn 1929, mae 16% o'r gwobrau ar gyfer yr actorion gorau wedi eu cyflwyno am bortreadau o bobl â chyflyrau yn cynnwys awtistiaeth, syndrom Asperger a syndrom Down mewn ffilmiau fel Rain Man, Shine a Forrest Gump.

Y saith argymhelliad

  • Adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas mewn cynyrchiadau ffilm a theledu, gan greu mwy o straeon sy'n cynnwys cymeriadau ag anabledd dysgu;

  • Osgoi stereoteipiau gan ddatblygu cymeriadau realistig;

  • Stopio castio actorion heb anabledd fel cymeriadau gydag anableddau dysgu;

  • Cynnig clyweliadau priodol heb fod yn seiliedig ar sgriptiau i actorion sy'n gweld darllen yn dipyn o her, a chlyweliadau hamddenol i actorion lle mae pwysau amser ac aros yn peri gofid;

  • Gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr yn y maes er mwyn deall a diwallu anghenion actorion ag anableddau dysgu;

  • Buddsoddi mewn hyfforddiant fel bod staff yn gwybod sut i gyfathrebu'n dda gydag actorion a gweithwyr eraill sydd ag anableddau dysgu;

  • Rhoi cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu brofi bywyd ar set.

Ffynhonnell y llun, Hijinx
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Clare Williams (ail o'r dde) bod atebion i bob un o'r heriau sy'n creu rhwystrau i actorion ag anableddau

"Byddai'n syfrdanol gweld actor yn 'ymbardduo' er mwyn chwarae cymeriad tywyll ei groen, a theimlwn yn 2018 ei bod yr un mor annerbyniol i actor heb anabledd dysgu chwarae rhan cymeriad ag anabledd dysgu," dywedodd Ms Williams.

"Mae'r addewid diweddar a wnaethpwyd gan y BBC i ddyblu nifer y bobl anabl sy'n gweithio i'r gorfforaeth erbyn 2020 yn gam mawr ymlaen, ond dim ond mynd â ni hanner y ffordd mae hyn, gan y dylem fod yn adlewyrchu gwir amrywiaeth ein cymdeithas ar ein sgrin hefyd."

Ychwanegodd bod cwmni Hijinx - sy'n rhedeg academi hyfforddi ddi-elw i actorion ac asiantaeth gastio ar gyfer actorion niwroamrywiol - yn gallu cynnig atebion a chefnogaeth mewn cysylltiad â phob un o'r argymhellion.

'Gall Gymru arloesi'

Roedd gwleidyddion a chynrychiolwyr nifer o sefydliadau'r diwydiant ffilm a theledu mewn seminar ym Mae Caerdydd i glywed yr argymhellion yn cael eu cyhoeddi ac i glywed trafodaeth am y camau nesaf i fynd i'r afael â rhwystrau.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Rwy'n edmygu hyfdra galwad Hijinx am weithredu o fewn y diwydiant sgrin ac yn cefnogi'n frwd eu hamcanion sef cyflwyno adlewyrchiad gwirioneddol o'n cymdeithas ar ein sgriniau.

"Rwy'n cael fy nghalonogi gan y niferoedd oedd yn bresennol a'r gefnogaeth o du'r diwydiant sgrin ac rwy'n hyderus y gall Cymru, gyda chefnogaeth sefydliadau sy'n cael eu harwain gan anabledd dysgu, arloesi yn y dasg o newid wyneb y sawl gaiff eu cynrychioli ar y sgrin fach a'r sgrin fawr."

Ffynhonnell y llun, Hijinx
Disgrifiad o’r llun,

Sian Fouladi sy'n chwarae rhan Ceri yng nghyfres Pobol y Cwm

Mae cynhyrchwyr yr opera sebon, Pobol y Cwm wedi cael canmoliaeth am gynnwys cymeriad ag anabledd dysgu, Ceri, fel rhan o stori barhaus, ac am ddewis actor â syndrom Down, Sian Fouladi, i'w phortreadu.

Fe gysylltodd y tîm cynhyrchu â Hijinx yn gynnar yn y broses o greu llinell stori, ac fe gawson nhw help gyda'r trefniadau castio ac ymarfer.

Cafodd yr actores gefnogaeth yn ystod ymarferion ac ar y set gan gynorthwy-ydd Artist Niwroamrywiol o Hijinx.

Ffynhonnell y llun, Hijinx
Disgrifiad o’r llun,

Mewn cyflwyniad wedi'r seminar, roedd yn apêl gan rai o actorion Hijinx am fwy o gyfleoedd

Roedd yna gyflwyniad wedi'r seminar gan rai o actorion Hijinx yn amlinellu'r safonau newydd.

Gofynnodd Danny Mannings, actor ag awtistiaeth, i'r rhai oedd yn bresennol i "roi cyfle i ni fod ar set neu yn y stiwdio, dangoswch i ni sut rydych chi'n gweithio, gadewch inni ddeall eich disgwyliadau".