Lluniau: Glan môr Cymru yn y gaeaf

  • Cyhoeddwyd

Be' sy'n digwydd i ardaloedd arfordirol Cymru ar ôl i'r ymwelwyr fynd adref? Mae'r traethau'n gwagio a'r busnesau'n tawelu â nifer o'r tai yn sefyll yn wag tan y Pasg, pan mae'r tymor gwyliau yn ailddechrau.

Felly sut brofiad yw byw a rhedeg busnes yno yn y 'tymor tawel'?

Dyma gipolwg unigryw mewn lluniau ar lan môr Cymru yn y gaeaf.

Gogledd Cymru

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Yn Abersoch, mae'r cytiau traeth yn wag yn y gaeaf. Roedd 39% o'r tai a werthwyd yng Ngwynedd llynedd yn dai haf neu'n dai i'w rhentu.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae pentref Abersoch yn dawelach yn y gaeaf, ac yn ôl Awel Lewis, perchennog cwmni Lledar o Borthmadog, "mae'n rhaid rheoli'r nifer o dai haf sydd yn ardal Eryri.

"Mae'n andwyol tu hwnt i gymunedau, busnesau ac yn enwedig yr iaith, os ydy'r bobl ifanc a theuluoedd yn gorfod symud i ffwrdd gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio prynu tai yn lleol. Mae cyfran helaeth o'r tai haf 'ma yn wag hanner y flwyddyn, ac mae hyn yn creu poblogaeth anwadal sy'n cael effaith negyddol ar yr economi leol a'r gwasanaethau sy' ar gael i'r trigolion parhaol."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae tipyn llai o ymwelwyr i'w gweld ar brom Llandudno yn ystod misoedd y gaeaf o'i gymharu â'r haf.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae hi'n wahanol iawn yn Llandudno yn yr haf pan fydd ymwelwyr yn dod ar drip diwrnod neu'n aros yn y gwestai mawr sy'n edrych dros y traeth.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae'r ci yn mwynhau'r traeth yn Rhosneigr, haf neu aeaf.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Yn ôl Dave Buckland, perchennog y siop Fun Sport yn Rhosneigr, "dw i'n meddwl fod y canran o dai haf yn uwch na 40% yn Rhosneigr.

"Tra fod hynny'n anodd i bobl leol, mae'n golygu ein bod yn ffynnu yn yr haf felly mae'n dda i'r pentref yn hynny o beth. Mae'r tymor 'prysur' wedi newid - erbyn hyn mae'n cychwyn yn y Pasg a ddim yn gorffen tan ddiwedd Hydref felly mae chwe mis solid gyda ni.

"Mae'n brysurach rŵan a llawer gwell i bawb yn y pentref."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Mae Aled Backhouse, rheolwr tafarn The Oyster Catcher yn Rhosneigr, yn dweud bod na wahaniaeth mawr i'w fusnes rhwng yr haf a'r gaeaf.

"Gyda'r Pasg a'r haf mae'r busnes yn ofnadwy o brysur am fod pobl yn dod i'r ynys. Ochr arall y geiniog, yn ystod y gaeaf a'r hydref, yw bod busnes yn gostwng yn ofnadwy oherwydd fod y tai yn wag a does neb yn dod draw i'r bwytai. Mae'n effeithio ar y busnes yn fawr iawn."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Dim ond gwylanod ar y pier ym Miwmares, Môn. Roedd 36% o'r tai a werthwyd yn Ynys Môn llynedd yn dai haf neu'n dai i'w rhentu.

Gorllewin Cymru

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Cwm-yr-Eglwys, Sir Benfro. Mae Norman Thomas wedi byw yno ers 1965.

"Pedwar ohonon ni sy' 'ma dros y gaeaf, yn byw mewn tri tŷ mas o 24 o dai felly mae 21 tŷ yn wag rhan fwya' o'r gaeaf, ond am ambell i benwythnos. Mae'n unig ar sbelau.

"Fel arfer mae pobl 'ma unwaith y flwyddyn am bythefnos ond maen nhw'n rhentu'r tai hefyd. Ugain mlynedd yn ôl dechreuodd e newid."

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Maes parcio gwag yng Nghwm-yr-Eglwys. Meddai Norman: "Mae'n nefoedd i fi - gath y plant eu geni 'ma, ond maen nhw gyd bant ac yn dod 'nôl pan maen nhw'n gallu. S'ym gwaith fan hyn iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Arwydd parcio yng Nghwm-yr-Eglwys yn gwahardd parcio yn ystod y cyfnod prysur. Mae digon o le i barcio yno yn ystod tymor tawel y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Mae Llangrannog yn un o draethau poblogaidd gorllewin Cymru yn yr haf ond mae'n newid yn y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Mae llonyddwch i'w gael ar draeth Llangrannog allan o'r tymor gwyliau.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Y fainc yn wag a'r môr yn arw yn Llangrannog yn y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Yn Nhresaith, mae'r stondin fwyd wedi cau.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Mae'r maes carafanau yma yng Ngheredigion wedi cau am y gaeaf.

Efallai o ddiddordeb: