Lluniau: Y bobl tu ôl i 'Stryd Fawr orau Prydain'
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar cyhoeddwyd bod tref Crug Hywel ym Mhowys wedi ennill gwobr Brydeinig yn dathlu'r stryd fawr.
Ymysg cystadleuaeth ffyrnig rhwng strydoedd dros y Deyrnas Unedig, enillodd y dref oherwydd ei gymysgedd unigryw o siopau annibynnol a'r amrywiaeth o fusnesau sydd ar gael.
Ond wrth gwrs, tu ôl i bob busnes bach llwyddiannus mae pobl, a dyma rai o'r bobl sydd yn gyfrifol am lwyddiant Crug Hywel.
Mae Emma Corfield-Walters yn greadur prin iawn erbyn hyn, hi yw perchennog siop lyfrau annibynnol Bookish. Mae hi hefyd wedi ennill gwobr Arwres y Stryd Fawr, gwobr ychwanegol i'r brif wobr, am ei chyfraniad unigol at lwyddiant y dref
Mae Bex a Lucy'n hapus yn eu gwaith ym mhobydd teuluol Askew's, a pha ryfedd...
Paj, chef gwesty'r Bear ar sgwâr Crug Hywel, yn arbrofi gyda danteithion arbennig ar gyfer dathliadau nos Galan y gwesty
"Beth gymerwch chi?" Ai dyna mae Steve, sy'n gweithio tu ôl i far y Bear, yn ei ddweud yn ei gwsg bellach?
Busnes teulu yw siop adrannol Nicholls a ddechreuodd yn y dref yn 1925 yn gwerthu nwyddau amaethyddol. Ers hynny mae wedi datblygu i fod yn fusnes llwyddiannus a phrysur, fel mae Karen yn medru tystio...
... tra bod Brenda'n edrych ar ôl y cwsmeriaid ar lawr y siop
Mae Andrew Roberts yn ffotograffydd lleol sy'n gwerthu ei luniau yng nghyntedd yr hen neuadd farchnad... ond mae'n waith oer
Mae Crug Hywel yn ffodus i gael nid dim ond un, ond dwy siop adrannol deuluol. Dechreuodd Herbert Webb fusnes Webbs yn 1936 yn gwerthu paraffin o gefn fan. Benthycodd £10 oddi wrth ei fam i gychwyn y busnes, fe dalodd y swm yn ôl iddi o fewn wythnos, ac mae'r gweddill yn hanes
Heddiw mae teulu Herbert dal yn cadw'r fflam ynghyn. Dyma Mike Webb, un o feibion Herbert ar y ffôn yn trefnu...
... tra fod John, un o feibion eraill Herbert, yn adeilad arall siop Webbs. Dyma hen storfa ŷd sy'n dyddio o'r flwyddyn 1650 ond bellach yn gartref da i welyau Crug Hywel
Mae siop cigydd Cashells wedi bod ar y stryd fawr ers dros 35 o flynyddoedd
Maen nhw'n arbenigo mewn cynnyrch ffermydd lleol, gan gynnwys fferm Neuadd Fawr sy'n perthyn i'r teulu Rees, perchnogion Cashells
Llongyfarchiadau i holl staff a pherchnogion busnesau bach Crug Hywel sydd wedi llwyddo i ddringo'r llethrau serth, a ffynnu. Hir oes i'r stryd fawr!
Lluniau: Kevin Davies
Hefyd ar Cymru Fyw: