Ailgylchu'r Nadolig: Y ciw hir i gael gwared â gwastraff yr ŵyl
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r rhan fwyaf o bobl fwynhau hoe dros y gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd mae canolfannau ailgylchu Cymru yn wynebu eu cyfnod prysuraf yn y flwyddyn wrth geisio ymdopi gyda'r pethau rydyn ni yn eu taflu o'n tai er mwyn gwneud lle i'r newydd.
Aeth Cymru Fyw i ganolfan Caergylchu ger Caernarfon lle mae nifer y bobl sy'n mynd yno gyda cheir llawn gwastraff yn dyblu yn y dyddiau cyn y Nadolig ac i fewn i ddechrau Ionawr.
Mae dros 500 o geir y dydd yn dod i'r safle dros y cyfnod prysuraf i gael gwared â bocsys, papur lapio, polysteirin a phlastig, addurniadau a hen degannau.
Tua 250 yw'r ffigwr fel arfer.
Cyn y Nadolig, pobl yn clirio eu tai ar gyfer yr ŵyl sy'n mynd yno, gyda llawer yn dod â thegannau plant yno i wneud lle i rai newydd gan Siôn Corn.
Yn helpu pobl i roi pethau yn y lle cywir mae Neil Hallybone o Sir Fôn, sy'n gweithio yma, ym mhob tywydd, ers 10 mlynedd.
Mae Neil yn cofio pobl oedd yn gallu "byw ar y pethau roedd pobl yn eu lluchio i'r sgips" ers talwm, meddai.
"Ond mae byd heddiw yn hollol wahanol: does gan ieuenctid heddiw ddim 'mynadd disgwyl i rywbeth gael ei drin, maen nhw'n ei luchio fo a maen nhw'n cael un arall. Byd felly ydi hi.
"Pan mae gen ti bobl 'fatha Trump yn dweud nad oes na'r fath beth â global warming... dio ddim yn rhoi neges dda allan. Pan mae gen ti foi fel'na sy' all about the business, mae'n gwneud sens i fusnes i bobl luchio pethau yn dydi?
"Wedi deud hynny, mae'r cyngor yn dod ag ysgolion rownd a dangos i'r hogiau ifanc be' sy'n cael ei ailgylchu - y broblem sydd gen ti ydy cael lot o bobl hŷn i ailgylchu, maen nhw 'di arfer rhoi pob peth mewn un bin, a fflich iddo fo."
Mae Neil yn dangos cynhwysydd sy'n llawn setiau teledu ac yn dweud nad oes na fawr yn bod ar y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Mae Kevin Williams yn helpu ar y safle hefyd: "Mae 'na lot o bethau trydanol yn dod i fewn nad oes 'na neb isho nhw - mae elusennau yn gyrru llwyth o bethau fel 'na yma achos na fedran nhw eu PAT-testio nhw," meddai.
"Mae 'na lot o bethau allech chi eu trwsio. Mae pobl isho'r teledu mwyaf newydd - maen nhw'n mynd o 4k i 8k rŵan, so maen nhw'n dod â'r hen rai i fama - faswn i'n deud bod 99% ohonyn nhw'n gweithio.
"Pobl sydd isho keep up with the Joneses - maen nhw isho'r peth mwya' newydd."
Mae'r safle yn cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd mewn partneriaeth gydag Antur Waunfawr, sydd yn trwsio ac ailwerthu pethau sydd mewn cyflwr digon da - fel eitemau trydanol, dodrefn a dillad.
Mae tua 84% o'r pethau sy'n dod i'r safle yn cael eu hailgylchu mewn mis arferol.
Proseswyd 260 tunnell drwy'r safle fis Awst 2018 a chafodd 220 tunnell ei ailgylchu; sy'n golygu bod 40 tunnell wedi mynd i'w dirlenwi neu ei losgi.
Ychydig ddyddiau ar ôl y Nadolig mae ciw hir o drigolion lleol yn aros yn amyneddgar i wagio eu ceir o 'hen' degannau, papur lapio, addurniadau a bocsys.
Fel postmon, mae Carwyn Williams wedi dosbarthu llwyth o barseli dros y Nadolig ond mae o yma heddiw efo llond bŵt o bapur, cardbord a phlastig a 'hen' degannau. Ac mae'n cyfaddef fod gan ei blant rai anrhegion Nadolig heb eu hagor eto.
Gyda babi newydd yn y tŷ mae mae mwy nag arfer o bethau newydd yng nghartref Edwin Lloyd felly mae'n falch o gael lle'r gwastraff Nadolig
Edrychwch ar y plastig oedd yn dal tegannau newydd un o blant Edwin y Nadolig yma!
Mae Gwyn Hughes, sy'n gyfrifol am y safle heddiw, wedi cael hyd i'r pethau rhyfeddaf yn y sgips dros y blynyddoedd - pen nionyn enfawr mewn bag unwaith, yr oedd pawb yn sicr mai pen dynol oedd o - ac mae'n tynnu sylw at y cloc pren hardd sydd ar y silff.
Fe wnaeth ei achub o'r sgip ac mae'n cadw amser yn berffaith, dim ond iddo gael ei weindio.
Mae rhai canolfannau tebyg yn cynnal siopau ar y safle sy'n gwerthu'r pethau sydd mewn cyflwr da sy'n cael eu gadael.
Yn ôl un 'tip shop' yng Nghasnewydd mae'r siopau yma ar gynnydd a nifer y bobl ddaeth drwy'r drws yn 2018 wedi dyblu.
Dydi hynny ddim ar gael yng Nghaernarfon ar y funud ond mae'r gweithwyr yn gadael cornel fach i bobl helpu eu hunain i'r pethau mae pobl wedi eu gadael yno.
Y tu ôl i'r sgipiau at ddefnydd y cyhoedd mae rhan arall Caergylchu sy'n prosesu'r gwastraff sy'n cael ei gasglu gan y cyngor o dai yr ardal.
Yma hefyd mae rhai o weithwyr Antur Waunfawr yn sortio deunyddiau o'r biniau ac yn llarpio papur, sef ei rwygo'n ddarnau mân, i greu byrnau mawr o bapur sydd wedyn yn cael ei werthu i felin bapur sy'n ei ailddefnyddio.
Kelvin Williams ydy goruchwyliwr y rhan yma o'r safle.
"Mae tua un llwyth o wydr yn mynd o 'ma bob wythnos fel arfer, sy'n 25 tunnell; 'neith hwnna ddyblu yn enwedig yn y ddau i dri diwrnod ar ôl y Dolig ac mi fyddan ni'n dal i fod yn brysur am tua pythefnos, dair wythnos, ar ôl Dolig," meddai.
"Mae pawb yn lluchio pob bocs a gwastraff, poteli cwrw, bob dim. Mae'r rhan fwyaf o bethau'n cael eu hailgylchu yma, maen rhaid inni wneud, achos mae gynnon ni dargedau i'w cyrraedd.
"Rydyn ni'n talu ar y funud i gael gwared ar blastig caled am ei fod yn gorfod mynd i Selby (gogledd sir Efrog).
"Mae'n nhw'n prosesu'r plastig da a'i ailwneud yn belets bach crwn."
Mae'r rhain yn gallu cael eu hailddefnyddio i wneud plastig eto.
Mae'r gwastraff cartref nad oes modd ei ailgylchu yn cael ei rannu rhwng tirlenwi ar safle ger Wrecsam a safle yn Widness lle mae'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan.
"Y bwriad ydy rhoi cyn lleied â phosib i mewn i dirlenwi. Mae'r coed yn cael eu hailiwsho, mae'r metel yn cael ei ailgylchu, mae matresi yn mynd i'w hailbrosesu," meddai Kelvin Williams.
Mae gweithio ar y safle wedi bod yn agoriad llygad meddai, mae 'na bobl yn dod â seti car i blant a choetsys babi sy'n edrych yn hollol newydd "y bysa' fy mam i wedi bod wrth ei bodd yn eu cael nhw," meddai.
"Ers talwm, dwi'n cofio bod 'na ddyn yn dod rownd i drwsio'r television ond dyddiau yma mae pobl jyst yn mynd allan a prynu un newydd. Yr un peth efo hwfyrs a washing machines...
"Ond mae'n costio mwy i rywun ddod allan i'w trwsio na phrynu un newydd - dyna ydy'r broblem."
Hefyd o ddiddordeb: