Cymru'r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu

  • Cyhoeddwyd
Aigylchu

Cymru yw'r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, yn ôl adroddiad.

Mae'r adroddiad, sydd wedi cael ei gyhoeddi gan 'Resource', yn gosod Cymru y tu ôl i'r Almaen a Taiwan am ailgylchu trefol.

Mae'r ffigurau chwarter a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn dangos bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU.

Mae Cymru bellach yn ailgylchu ddwywaith cymaint nag yr oedd ddegawd yn ôl ac mae'n parhau i gael ei defnyddio fel enghraifft o arfer da i wledydd eraill y DU.

Dywedodd Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC: ""Mae'n newyddion gwych ein bod ni'n cyrraedd y brig ac yn destament i ymdrechion parhaus Awdurdodau Lleol ac ymrwymiad deiliaid tai i ailgylchu."

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi pwysleisio pwysigrwydd ailgylchu a bydd wyth awdurdod lleol nawr yn derbyn hyd at £3m i helpu ailgylchu mwy o wastraff ac i wella eu dulliau ailgylchu.

Ychwanegodd Ms Griffiths: "Rwy'n falch ein bod yn darparu hyd at £3 miliwn i gefnogi Awdurdodau Lleol i wneud gwelliannau fydd yn helpu i wella cyfraddau ailgylchu ymhellach a chefnogi ein huchelgais i fod y wlad sy'n ailgylchu fwyaf yn y byd."