Merch o Geredigion yn diolch i'w mam am eni ei babi
- Cyhoeddwyd
Yn 16 oed, cafodd Tracey Miles wybod na fyddai hi fyth yn gallu rhoi genedigaeth.
Roedd ganddi gyflwr Mayer-Rokitansky-Küster-Hauser (MRKH).
Mewn geiriau eraill, roedd wedi ei geni heb groth.
"O'dd e'n teimlo fel diwedd y byd," meddai Tracey, sydd nawr yn 32 oed.
"Pwy fydde mo'yn fi nawr? Pwy neith garu fi? [O'n i'n] teimlo ddim good i neb achos o'n i methu rhoi plant i nhw."
Roedd y blynyddoedd wedi'r diagnosis yn rhai tywyll iawn i Tracey.
Bu hi'n mynd i glinig yn Llundain i gwrdd â merched oedd yn dioddef o gyflwr tebyg.
Ond roedd hynny'n gwneud iddi deimlo'n waeth.
Roedd ffurfio unrhyw berthynas yn anodd.
Ond yn 2010, dyma Tracey yn cwrdd ag Adam Smith yng ngwesty Glynhebog yn Llanbedr Pont Steffan, ble'r oedd yn gweithio fel garddwr.
"Ar y dechrau roedd Tracey yn fy ngwthio i ffwrdd," meddai Adam.
"Roedd hi'n dweud na fydde hi'n gallu rhoi i mi'r hyn oeddwn i eisiau.
"Ond nes i ddweud wrthi 'mod i ddim eisiau dim byd ganddi - ro'n i eisiau hi."
Erbyn 2014 roedden nhw mewn perthynas, ac yn raddol fe ddechreuodd y ddau drafod y dyfodol - a'r posibilrwydd o gael plant.
Roedd Adam am iddyn nhw roi cynnig ar driniaeth IVF.
Roedd Tracey yn ansicr, ond yn y pen draw fe lwyddodd Adam i'w pherswadio.
"Nes i ddweud 'beth am i ni weld pa mor bell allwn ni fynd, ac os na allwn ni fynd heibio rhyw bwynt penodol, yna fydden ni o leiaf wedi rhoi cynnig arni'," meddai Adam.
Yn groes i'r disgwyl, fe weithiodd y driniaeth ar y cynnig cyntaf.
Roedd gan Tracey ac Adam saith embryo.
Ond pwy fyddai'n fodlon cario plentyn ar eu rhan?
Paratoi corff i roi genedigaeth i wyres
Byth ers diagnosis ei merch, Tracey, roedd Emma Miles wedi dweud y byddai hi'n helpu mewn unrhyw ffordd pe byddai angen.
Roedd hi hyd yn oed wedi cynnig bod yn fam fenthyg (surrogate) i'w merch.
"O'dd Mam wedi gweud am flynydde' y bydde hi'n cario plentyn i fi ond o'n i ddim wedi cymryd hi'n serious," meddai Tracey.
 hithau'n 55 oed ac wedi mynd trwy'r menopos, byddai hi ddim am fod yn hawdd i Emma.
"Oedd pobl yn dweud 'ti'n rhy hen'... ond chi'n mynd i helpu'ch plentyn 'da beth bynnag sy' isie arnyn nhw.
"Doedd e ddim yn benderfyniad anodd o gwbl - [rhywbeth] hollol naturiol i 'neud," meddai Emma, sy'n dod o ardal Llanwnnen.
Fe adawodd ei swydd yn archfarchnad y Co-op yn Llanbed er mwyn mynd i fyw at Tracey ac Adam ger Coventry yng nghanolbarth Lloegr i gael bod yn agos i ysbyty arbenigol.
Fe gymerodd rai misoedd iddi baratoi'r corff - roedd yn rhaid iddi, er enghraifft, golli chwe stôn.
"'Wedon nhw [y doctoriaid] bod rhaid i fi golli pwyse, which nes i…
"Roedd yn rhaid i fi gael fy BMI lawr - cerdded lot a bod yn fwy iachus a bod yn strict gyda'n hunan."
Roedd y profiad yn un rhyfedd i deulu Emma hefyd.
"Odd e'n bach o sioc i ddechre," meddai ei merch ieuengaf, Nicola.
"Mae e wedi bod yn lot i gymryd mewn. O'n i'n becso lot.
"Y peth cynta' wedes i pan 'wedodd Tracey bod Mam yn mynd i gario drosti oedd bod hyn yn really weird achos dyw e ddim yn rhywbeth chi'n clywed yn aml iawn.
"Nes i feddwl falle cario iddi ar un pryd ond achos bo' fi gyment yn iau na hi do'n i ddim yn meddwl bydden i'n barod.
"O'n i'n eitha' balch bo' Mam wedi cynnig achos 'nath e gymryd y pwyse bant oddi wrtha i!"
Dywedodd Tracey: "O'n i yn poeni achos o'dd hi bach yn henach - o'dd y doctor wedi dweud os bydde hi'n henach na 60 fydde fe wedi dweud 'na'."
 hithau wedi llwyddo i golli'r pwysau, ac wedi ymroi yn llwyr i'r broses, fe gydiodd embryo Tracey ac Adam yng ngroth Emma yn syth.
"Dechreuon ni Ionawr llynedd, erbyn mis Mai gafodd [yr wyau] eu transffyro i fi, a cymerodd hi straight away," meddai Emma.
"Pan ffeindon ni mas... o'dd fi a Tracey yn llefen wrth gwrs - llefen o falchder.
"Bydde rhywun yn naturiol yn gofidio ond diolch i Dduw aeth popeth fel watsh.
"O'n i'n good bob cam trwyddo. Dwi'n meddwl bo' Tracey wedi syffro fwy na nes i - hi oedd yn cael cefne tost a dim fi!
"Mae wedi bod yn brofiad arbennig."
Y frwydr i fod yn rhieni
Ganwyd Evie Siân Emma Smith ar 16 Ionawr 2019 yn pwyso 7 pwys 7 owns.
"A'th y naw mis yn glou," meddai Tracey. "Gafon ni cwpl o scares, ond bob tro aethon ni i'r 'sbyty o'dd popeth yn iawn.
"Roedd diwrnod y geni yn really emosiynol - o'n i ffaelu credu bod y dydd wedi dod. O'n i dros y siop!
"O'n i yn poeni lot am Mam... achos be' o'dd hi'n mynd trwyddo i fi.
"'Sdim y geirie gen i i ddiolch iddi. A 'sa i'n credu mae'n gwybod beth mae hi wedi'i 'neud."
O ystyried cyflwr Tracey, mae'r stori'n un anghyffredin o bersbectif meddygol hefyd.
"Mae'r stori yma'n un hapus iawn, yn un hyfryd dros ben," meddai'r meddyg teulu, Dr Llinos Roberts.
"Mae'n hollol wyrthiol bod hyn wedi gallu digwydd.
"Dyna sy'n wych am feddygaeth ydy ein bod ni bob dydd yn cael ein rhyfeddu gan y datblygiadau newydd yma."
Ond nawr mae 'na frwydr arall yn wynebu'r teulu bach newydd.
Yn ôl y gyfraith, Emma a'i gŵr Robert ydy rhieni Evie.
"Yn anffodus, be' mae'r ddeddf trefniant surrogacy - sy'n hen ffasiwn iawn - yn 1985 yn dd'eud ydy mai'r ddynes sy'n cario'r babi ydy'r fam gyfreithiol," eglurai'r gyfreithwraig Leah Rhydderch.
Y ddau opsiwn i Tracey ac Adam ydy naill ai i wneud cais i'r llys am orchymyn rhieni (parental order), neu i fabwysiadu Evie.
"Mae'n broses anodd ac yn broses ddrud hefyd ac yn aml ella dydi'r bobl yma ddim efo'r pres i wneud hynny," meddai Ms Rhydderch.
Ychwanegodd Dr Roberts: "Mae'n ddeddf hen ffasiwn sydd angen ei diwygio i ddod â'r ddeddf yn unol â barn gymdeithasol ynglŷn â'r broses yma."
Mae'r rhwystredigaeth yn cael ei ategu gan Tracey, sy'n galw'r gyfraith yn "backwards" ac yn "outdated".
Mae Tracey ac Adam eisoes wedi cychwyn ar y broses o wneud cais i'r llys am yr hawl i gael bod yn rhieni cyfreithiol i Evie.
Beth bynnag fydd yn digwydd, bydd Emma yn gefnogol.
"Bydden ni ddim yn teimlo dim agosach [at Evie] os fydde Tracey wedi cario hi ei hunan - ei phlentyn bach hi yw hi yn y lle cynta'.
"Mam-gu ydw i! Cwbl o'n i'n gwneud o'dd cwcan hi!"
Y camau nesaf
Ar 31 Ionawr fe briododd Tracey ac Adam.
Yn ogystal â'r frwydr gyfreithiol sy'n eu hwynebu, mae gan y ddau benderfyniad i'w wneud yn y dyfodol am beth i wneud gyda'r wyau sy'n weddill.
"Mae gen i still chwe embryo yn y rhewgell ond ma' amser gyda ni 'to i feddwl biti 'na," meddai Tracey.
"Ond bydde rhaid i ni chwilio am rywun arall [i gario] ac ma'n gofyn lot i rywun 'neud 'na achos ma' shwt gyment o hospital appointments a gyment i ystyried - ma' fe'n ofyn mawr.
"Ma' Mam wedi gweud fydde hi'n 'neud 'to ond fydden ni ddim yn gofyn iddi hi wneud hynna!
"Roedden ni'n lwcus achos rhoddodd Mam ei bywyd on hold am 20 mis - does dim alla i wneud i ddiolch i Mam ddigon."
Ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol dywedodd llefarydd: "Ry'n am wneud cyfraith mam fenthyg (surrogacy) yn bwrpasol a dyna pam ry'n yn cefnogi adolygiad presennol Comisiwn y Gyfraith.
"Ry'n wedi bod yn gweithio gyda phobl arbenigol o'r byd iechyd er mwyn llunio y canllawiau gorau posib ac ry'n yn annog unrhyw un sy'n ystyried y broses o gael mam fenthyg neu i fod yn fam fenthyg i gael cefnogaeth ac i ddefnyddio'r canllawiau newydd."
Er bod iechyd wedi'i ddatganoli mae cyfreithiau mam fenthyg yn berthnasol i'r DU gyfan.
Gwrandewch ar raglen Cariad Mam nawr ar BBC Sounds
Hefyd ar Cymru Fyw:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018