Defnyddio rhoddwr sberm i gael babi
- Cyhoeddwyd
Mae Mari Roberts o Gaerdydd yn fam sengl i fachgen dwy oed, Idris. Daeth Mari yn feichiog gyda Idris drwy ddefnyddio rhoddwr sberm.
Yn siarad ar Raglen Bore Cothi ar Hydref 2, fe esboniodd Mari y broses yr aeth hi drwyddo i feichiogi ei mab.
Mae Idris newydd droi'n ddwy, ac mae'n llawn bywyd. Nes i gael Idris drwy ddefnyddio rhoddwr sberm drwy fynd i glinig.
Roedd e'n rhywbeth oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano ers blynyddoedd i fod onest. O'n i o hyd yn meddwl y bydden i'n ffeindio dyn, ond wnaeth e jest ddim digwydd.
O'n i o hyd yn meddwl mod i eisiau plentyn, a doeddwn i ddim am adael fy hun gyrraedd oedran lle'r oedd e rhy hwyr i mi wneud rhywbeth am y peth.
Pan nes i gyrraedd tua 38 oed nes i ddechrau ymchwilio mewn i'r peth, a sylweddoli bod y driniaeth ar gael ar yr NHS tan fod rhywun yn 40. Felly wnes i gael fy referio i'r Wales Fertility Institute, ac roedd rhaid aros chwe mis cyn cael apwyntiad.
Gall y Gwasanaeth Iechyd ddim gwahaniaethu rhwng menyw sengl sy'n methu cael plant oherwydd bod hi'n sengl, cwpl hoyw sydd methu cael plant oherwydd eu bod yn hoyw, neu gwpl heterorywiol sydd methu cael plant oherwydd rhesymau eraill.
Felly mae'n rhaid iddyn nhw roi'r un cyfle (dau dro o IVF), ac o'n i'n lwcus bod e wedi gweithio. Wrth gwrs mae yna lot o gyplau heterorywiol sy'n gorfod defnyddio rhoddwyr sberm neu roddwyr wyau am fod yna ddiffyg ar eu hwyau neu sberm, felly'r un driniaeth yw hi jest fod gen i ddim partner i fynd drwyddi 'da fi.
Roedd 'na brofion gwaed ac ultrasound, jest i edrych ar y groth a'r ofaris, ac roedd 'na brofion gwaed wedyn i weld beth oedd lefelau ovarian reserves fel maen nhw'n galw nhw. Roedd rhaid i mi wneud un prawf arall i weld os oedd y pibellau ffilopian ar agor. Ar ôl hynna oeddwn i jest yn aros i fod onest, i'r misglwyf ddechrau fel bo' chi'n gallu dechre'r broses.
Emosiynau
O'n i wedi darllen lot o lyfrau am y peth ac wedi edrych ar y we, ac wrth gwrs o'n i wedi siarad. O'n i'n teimlo'n bositif iawn am y peth, a doedd gen i ddim doubt fydda fe'n gweithio a dwi'n meddwl o'n i'n eithaf naïf achos o'n i wedi clywed am lot o bobl efo problemau - felly roeddwn i'n lwcus.
Gan fod e wedi gweithio yn reit gyflym dwi ddim yn teimlo mod i wedi bod drwy lot fawr o broblemau emosiynol. Dwi'n meddwl 'sa hi wedi bod yn sefyllfa wahanol iawn 'sa hi ddim wedi gweithio mor gyflym, a fyswn i wedi gorfod delio efo'r emosiynau o golled mewn ffordd.
Roedd ymateb y teulu a ffrindiau ar y cyfan yn bositif iawn. Roedd Mam yn arbennig yn poeni amdana i a sut fyddwn i'n ymdopi efo pethe - mae pob mam yn poeni dydyn.
Ond eto roeddwn i'n gwybod byddan nhw'n fy nghefnogi i 100% os fyddwn i'n dweud mai hynny oeddwn i eisiau gwneud. Roedden nhw'n bostif iawn ac yn gefnogol ofnadwy.
Dewis rhoddwr sberm
Mae 'na lot fawr o ddewis o ran y sberm sydd ar gael. Es i drwy'r NHS felly o'n i'n gorfod defnyddio'r banc sberm roedd ganddyn nhw gontract 'da. Ond hyd yn oed mewn un banc roedd 'na lwyth o ddewis ar gael, a lot o rinweddau fel taldra, pwysau, lliw gwallt, lliw llygaid - roedd rheiny i gyd ar y wefan.
Rydych yn gallu gwybod am addysg y rhoddwr, beth mae'n wneud fel swydd, beth yw ddiddordebau fe, a hefyd beth oedd ei deulu'n gwneud fel swydd a'u hiechyd nhw - yn amlwg i wneud yn siŵr bod dim byd yn rhedeg yn y teulu.
Ar ddiwedd y dydd nes i jest mynd ar rywfath o gut instinct, ond oedd e'n rhywun o'n i'n teimlo falle 'o swn i'n licio mynd am ddêt efo'r person 'ma'.
Roedd 'da fe'r rhinweddau oedd yn attractive i fi mewn dyn ond doedd e ddim yn rhywun oedd yn edrych yn debyg i fi - mae gan Idris liw gwallt a llygaid hollol wahanol i fi. Ond roedd e'n rhywun efo diddordebau tebyg ac addysg debyg, ac roedd e mewn swydd dda, ac wrth gwrs mewn iechyd da.
Y dewis yn nwylo Idris
Roedd modd hyd yn oed gweld lluniau, os o'n i'n talu'n ychwanegol. 'Nes i brynu'r lluniau unwaith nes i sylweddoli mod i'n disgwyl. Dwi'n cadw ffeil ar y cyfrifiadur o'r holl wybodaeth amdano fe, fel bod Idris yn gallu gweld y lluniau a darllen y wybodaeth pan fydd e ddigon hen i wneud.
Pan fydd Idris yn ddeunaw ac yn oedolyn, wrth gwrs byddwn i'n ei gefnogi e be' bynnag mae eisiau gwneud, os fydda fe eisiau gwybod neu ddim gwybod, cwrdd da fe neu ddim cwrdd e.
Ond yn amlwg mae eisiau bod yn ofalus o ran disgwyliadau hefyd - dyna fysa fy mhoeni i fwy na ddim byd, fydda fe'n cael ei siomi os oedd ganddo fe ryw ddisgwyliadau sydd ddim yn mynd i gael eu cyrraedd.
Hefyd o ddiddordeb: