O dywydd Siberia i dywydd Sbaen: Dau Chwefror dra wahanol
- Cyhoeddwyd
Roedd hufen iâ a throwsusau byr i'w gweld ar hyd a lled Cymru ddoe wrth i'r Swyddfa Dywydd gofnodi'r tymheredd uchaf ar gofnod ar gyfer mis Chwefror.
Ond flwyddyn union yn ôl, slediau a sgarffiau oedd ym mhobman wrth i dywydd oer o'r dwyrain ddod a rhew ac eira i Gymru gyfan. Fel mae'r lluniau yma'n eu dangos, roedd 2018 yn wahanol iawn i 2019.
Doedd neb yn gwisgo trowsus byr nac yn bwydo hwyaid ar ddiwedd Chwefror llynedd - er mawr siom i drigolion Llyn Padarn.
Parc chwarae dros dro'r llynedd yn 'fwrdd bwyd' eleni ym Mrynrefail, ger Caernarfon.
Hyd yn oed petai'r Afon Taf wedi rhewi unwaith eto eleni, byddai awyrgylch tanbaid Stadiwm Principality ddydd Sadwrn wedi ei ddadmer erbyn heddiw.
Roedd yn brafiach hwylio ar y Fenai ar Chwefror 26 eleni, na Chwefror 26 y llynedd.
Dim ond person dewr fyddai wedi mynd ar hyd Stryd Fawr Llanberis ar gefn beic flwyddyn yn ôl - a hynny mewn crys T.
Llun o Ddolgellau yng nghanol gaeaf a llun o'r dref yn croesawu'r gwanwyn - ond y ddau wedi eu tynnu ar Chwefror 26.
Ac yn olaf, dydy'r newid tywydd yn ddim byd newydd i'r Wyddfa a'i chriw...
Hefyd o ddiddordeb: