Torri record tymheredd Chwefror unwaith eto ym Mhorthmadog
- Cyhoeddwyd

Pobl yn gwneud y mwyaf o'r tywydd braf ar draeth Y Barri fore Mawrth
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cofnodi tymheredd o 20.8C yng Ngwynedd - y tymheredd uchaf ar gofnod ar gyfer mis Chwefror.
Porthmadog oedd y man poethaf yn y Deyrnas Unedig ddydd Mawrth, yn ôl mesuriadau'r Swyddfa Dywydd.
Dydd Llun oedd y tro cyntaf i dymheredd o dros 20C gael ei gofnodi yn ystod misoedd y gaeaf ym Mhrydain.
Cyrhaeddodd hi uchafbwynt o 20.3C yn Nhrawsgoed, Ceredigion ddydd Llun, gan dorri'r record flaenorol yng Nghymru o 18.6C yn Felindre 29 mlynedd yn ôl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019