Oriel luniau: Eisteddfod Ryng-golegol 2019
- Cyhoeddwyd
Cafodd Eisteddfod Ryng-golegol 2019 ei chynnal yn Abertawe dros y penwythnos, gyda chystadlu brwd mewn sawl maes rhwng Prifysgolion Cymru.
Bangor oedd yn fuddugol, wedi i bwyntiau gael eu tynnu oddi ar Prifysgol Aberystwyth.
Dyma rywfaint o'r golygfeydd dros y penwythnos yn Abertawe.
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu eu buddugoliaeth eleni.
Elan Grug Muse o Brifysgol Abertawe oedd enillydd y Gadair eleni.
Alistair O'Mahoney o Brifysgol Bangor gyda Thlws y Cerddor.
Y neuadd ym Mhrifysgol Abertawe lle cafodd y cystadlu ei gynnal.
Enillydd y Fedal Gelf, Manon Wyn Rowlands, Prifysgol Aberystwyth.
Enillydd y Goron, Gruffydd Davies o Brifysgol Aberyswyth.
Digon o emosiwn yn cael ei arddangos gan fyfyrwyr Bangor.
Pawb ar eu traed i weld bechgyn Prifysgol Caerdydd yn perfformio.
Dwylo yn yr awyr! Y gynulleidfa yn dathlu.
Roedd 'na ddigon o liw i'w weld ar y llwyfan.
Enillydd y Fedal Wyddoniaeth, Gwenno Williams o Brifysgol Aberystwyth.
Roedd rhai wedi gwneud ymdrech arbennig gyda'u gwisg ar gyfer yr eisteddfod.
Y beirniaid i'w gweld yn hapus efo'r hyn maent yn ei weld - Sian Thomas, Naomi Griffiths a Rhys Griffiths.
Y cystadlu wedi bod yn ormod i rai o aelodau Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Abertawe.
Crysau llachar pinc Prifysgol Caerdydd i'w gweld yn glir ar y llwyfan.
Twm Ebbsworth o Brifysgol Aberystwyth, enillydd y Fedal Ddrama.