Eisteddfod Ryng-golegol: Ymddygiad rhai myfyrwyr yn 'siomedig'

  • Cyhoeddwyd
Y dathlu a'r siom
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr eisteddfod eleni ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe

Bu'n rhaid i drefnwyr yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni dynnu pwyntiau oddi ar un o'r prifysgolion oherwydd ymddygiad rhai o'r myfyrwyr.

Yn ôl llygad dyst, roedd myfyrwyr yn rhegi'n uchel ac yn taflu diodydd o gwmpas nes bu'n rhaid i'r beirniaid adael eu seddi ar fwy nag un achlysur.

Prifysgol Bangor oedd yn fuddugol, a hynny wedi i'r trefnwyr dynnu pwyntiau oddi ar Brifysgol Aberystwyth.

Mae'r steddfod yn un o uchafbwyntiau cymdeithasol a diwylliannol myfyrwyr Cymraeg ac roedd yn cael ei chynnal eleni ym Mhrifysgol Abertawe.

'Ymddygiad siomedig yn drueni'

Dywedodd un o drefnwyr yr eisteddfod wrth Cymru Fyw: "Cafwyd Eisteddfod Ryng-golegol hynod lwyddiannus ym Mhrifysgol Abertawe ddoe, gyda Phrifysgol Bangor yn fuddugol ac yn cadw'r darian am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

"Roedd yr hwyl a'r afiaith i'w deimlo gydol y dydd, er ei bod yn drueni bod ymddygiad siomedig lleiafrif bach, er derbyn sawl rhybudd swyddogol, wedi arwain at dynnu rhywfaint o bwyntiau oddi ar Brifysgol Aberystwyth."

Disgrifiad o’r llun,

Y beirniaid - Siân Thomas, Naomi Griffiths a Rhys Griffiths - wrth eu gwaith

Y digrifwr Noel James a'r cyflwynydd Mari Grug oedd yn annerch yr eisteddfod ddydd Sadwrn, a'r cyflwynydd Siân Thomas oedd meistres y ddefod.

Enillydd y Gadair eleni oedd Elan Grug Muse o Brifysgol Abertawe a Gruffydd Davies o Brifysgol Aberystwyth enillodd y Goron.

Disgrifiad o’r llun,

Elan Grug Muse o Brifysgol Abertawe oedd enillydd y Gadair eleni

Undebau Myfyrwyr y prifysgolion sydd fel arfer yn trefnu'r eisteddfod flynyddol, gyda'r lleoliad yn symud o flwyddyn i flwyddyn.

Ychwanegodd un o'r trefnwyr fod Prifysgol Abertawe yn "falch iawn o ymdrechion swyddogion Undeb Myfyrwyr Abertawe wrth drefnu a chynnal y chwaraeon, yr Eisteddfod a'r gig dilynol".

"[E]drychwn ymlaen yn fawr at groesawu pawb yn ôl yma eto yn y dyfodol agos," meddai.

Ymateb UMCA

Ar ran Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) dywedodd Anna Wyn Jones: "Bu nifer fawr o aelodau UMCA yn gweithio'n galed iawn tuag at yr Eisteddfod hon, ac fe welwyd perfformiadau o safon ar y llwyfan yn ogystal â buddugoliaeth i fyfyrwyr Aber yng nghystadleuaeth y Goron, y Fedal Gelf, y Fedal Wyddoniaeth a'r Fedal Ddrama.

"Roedd yn siom i ni fel undeb felly bod ymddygiad criw bychan wedi arwain at golli pwyntiau i'r mwyafrif o 140 o'n haelodau oedd wedi teithio i Abertawe ar gyfer yr achlysur arbennig yma. Hoffem estyn ein diolch i bawb a weithiodd mor ddiwyd, gan gynnwys y trefnwyr ym Mhrifysgol Abertawe."

Disgrifiad o’r llun,

Myfyrwyr buddugol Prifysgol Bangor