Emosiwn Euro 2016 - oriel luniau i godi gwên
- Cyhoeddwyd
Fuodd yna erioed gyfnod pan fu cymaint o Gymry yn dathlu, gwenu a gorfoleddu?
Wrth i dîm Ryan Giggs baratoi at eu gêm gyntaf yng ngemau rhagbrofol Euro 2020, mae Cymru Fyw wedi bod drwy'r archif i'n hatgoffa pam bod gêm dydd Sul - a gweddill yr ymgyrch - mor bwysig.
Yn Bordeaux, Lens, Toulouse, Paris, Lille, Lyon ac ar hyd a lled Cymru - roedd Mehefin 2016 yn fis llawn emosiwn.
Mwynhewch yr atgofion a chroeswch eich bysedd am fwy.
Hefyd o ddiddordeb: