Cymru'n dychwelyd i'r Cae Ras
- Cyhoeddwyd

David Cotterill yn chwarae yn y gêm yn erbyn Norwy ar y Cae Ras ar 6 Chwefror, 2008
Ar nos Fercher, 20 Mawrth bydd pêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd i'r Cae Ras yn Wrecsam wrth i Gymru herio Trinidad a Tobago.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru chwarae yno ers y fuddugoliaeth yn erbyn Norwy yn Chwefror 2008.
Ond mae gan y stadiwm, a Wrecsam ei hun, rôl hynod o bwysig i'w chwarae yn hanes pêl-droed Cymru.
"Cafodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei sefydlu yn Wrecsam, felly Wrecsam yw man geni pêl-droed yng Nghymru," meddai Spencer Harris, un o gyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam, wrth Cymru Fyw.
"Chwaraeodd Cymru eu gêm gartref gyntaf yn Wrecsam yn erbyn yr Alban 1877, a'r Cae Ras yw'r stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd sydd dal yn cael ei ddefnyddio."

Mae Spencer Harris yn un o gyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam, ac mae dros 4,000 o gefnogwyr yn rhannol berchen ar y clwb
"Mae'n wych gweld pêl-droed rhyngwladol yn ôl yn y gogledd, a nôl ar y Cae Ras.
"Mae'n rhaid i ni wneud mwy o hyn yn y dyfodol ond mae yna newidiadau sydd eu hangen ar y Cae Ras i sicrhau bod hyn yn digwydd."
Y tro diwethaf i Gymru chwarae ar y Cae Ras, fe enillodd Cymru 3-0 gyda dwy gôl i Jason Koumas ac un i Carl Fletcher.
Gôl 'arbennig' Hughes
"Mae Cymru wedi chwarae 93 o weithiau ar y Cae Ras, sydd yn fwy nag unrhyw stadiwm arall," meddai Mr Harris.
"Dwi'n cofio gweld Cymru'n curo Sbaen 3-0 yma gyda'r gôl arbennig yna gan Mark Hughes.
"Roedd chwaraewyr Cymru eisiau dod i'r Cae Ras oherwydd bod gennym ni record mor dda yma."

Mark Hughes a'i gôl enwog yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras ar 30 Ebrill, 1985
Y dorf fwyaf erioed ar y Cae Ras yn ôl y sôn oedd yn y gêm rhwng Wrecsam a Manchester United yn 1957, pan oedd bron i 35,000 yno.
"Y peth am y Cae Ras ydi ei fod yn strategic asset i Gymru," meddai Spencer Harris.
"Does yna ddim stadiwm i gynnal gemau rhyngwladol yng Nghymru i'r gogledd o'r coridor M4. Dydi hynny ddim yn deg i'r bron miliwn o bobl sy'n byw o Fachynlleth i fyny i Ynys Môn, ac ar draws yr arfordir i Bae Colwyn a Wrecsam."
Mae rhai gwelliannau wedi eu gwneud i'r cyfleusterau yn y Cae Ras eisoes ac mae Llywodraeth Cymru, y Gymdeithas Bêl-droed a Chyngor Wrecsam wedi bod yn trafod ailddatblygu'r stadiwm ers rhai blynyddoedd.
Mae Spencer Harris yn credu ei bod yn bwysig i'r buddsoddiad yma ddigwydd yn y gogledd.
"Fe ddylai'r Llywodraeth helpu'r gogledd i wneud yn siŵr bod y Cae Ras yn strategic asset a buddsoddi yn y stadiwm i sicrhau bod gemau rygbi neu bêl-droed rhyngwladol yn gallu cael eu cynnal yn y gogledd," meddai.
"Mae hyn yn bwysig er mwyn gwasanaethu Cymru gyfan, yn hytrach na dim ond de Cymru."

Y Cae Ras o'r awyr, gydag eisteddle Ffordd y Wyddgrug a gafodd ei adeiladu yn 1999
Mae sôn wedi bod yn y gorffennol am sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Pêl-droed Cymru yn rhan o gynlluniau i ail-ddatblygu'r Kop yn y Cae Ras.
"Gawn ni weld os ddaw'r amgueddfa genedlaethol bêl-droed i Wrecsam, efallai daw i'r Cae Ras. Ond os ddaw'r amgueddfa i'r Cae Ras neu ddim, mae yna gyfle bellach gan fod y tîm rhyngwladol wedi dychwelyd yma," meddai Spencer Harris.
Mwy o gemau yn y gogledd
"Fe allen ni ail-wneud y Cae Ras a gwneud yn siŵr bod gan y stadiwm ddigon o seddi i gynnal gemau o safon. Mae'r niferoedd yma - roedd tocynnau ar gyfer y gêm yma (Trinidad a Tobago) wedi mynd mewn oriau, a dim ond gêm gyfeillgar ydy hi.
"Mae 'na fwy o bobl yn byw yn y de, ac mae pawb yn y gogledd yn gwybod hynny. Ond mae yna rai gemau, efallai yn erbyn timau llai, sydd yn bosib eu chwarae yn y gogledd, ac mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod gemau rhagbrofol yn dod i bob cwr o Gymru - pam lai? Ond, mae yna bethau ymarferol sydd angen ei gwneud i'r Cae Ras yn gyntaf."

Roedd Craig Bellamy ymysg y sgorwyr pan enillodd Cymru 4-0 yn erbyn Liechtenstein ar y Cae Ras ar 14 Tachwedd, 2006
Mae nifer o chwaraewyr ifanc Cymru yn dod o'r gogledd-ddwyrain, fel Tom Lawrence, Harry Wilson a Danny Ward.
"Yndi mae hynny'n bwysig," meddai Spencer Harris, "ond yn bwysicach na hynny yw cefnogwyr y dyfodol.
"Mae 'na gefnogwyr Cymru, plant efallai, sydd erioed wedi gweld Cymru'n chwarae, dim ond ar y teledu.
"Os 'da chi'n deulu o bedwar ac eisiau gyrru lawr i'r de neu mynd ar y trên a phrynu tocynnau i weld gêm, mae'n rhy ddrud i rhai bobl wneud hynny. Ond os fydd gemau yn cael eu cynnal yn Wrecsam mae'n rhoi cyfle i gefnogwyr y gogledd.
"Dydi hyn ddim i'w wneud â Chlwb Pêl-droed Wrecsam, mae i'w wneud a phêl-droed Cymru fel gwlad - mae Wrecsam yn gefnogol o unrhywbeth i bêl-droed Cymru, ac i bobl y gogledd.
"Mae'r Kop yn eyesore i'r dref i ddweud y gwir, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth amdano er mwyn gwella delwedd Wrecsam gan ei fod ar y brif ffordd i fewn i'r dref.
"Mae'n bwysig i Gymru ein bod yn gallu ail-wneud yr eisteddle hefyd achos os 'nawn ni hynny bydd lot gwell siawns o gynnal mwy o gemau rhyngwladol yno yn y dyfodol."

David Cotterill yn chwarae yn y gêm yn erbyn Norwy ar y Cae Ras ar 6 Chwefror, 2008
Bydd sylwebaeth fyw o gêm Cymru yn erbyn Trinidad a Tobago ar BBC Radio Cymru nos Fercher, rhwng 19:00 a 22:00.
Hefyd o ddiddordeb: