Sioe gynradd Steddfod yr Urdd: Tu ôl i'r llen
- Cyhoeddwyd
Nos Fawrth 28 Mai, bydd disgyblion o 19 ysgol gynradd o ardal Caerdydd a'r Fro yn dod ynghyd i berfformio'r sioe arbennig Troi Heddiw'n Ddoe.
Mae'r sioe wreiddiol, gan Anwen Carlisle a Dyfan Jones, yn adrodd stori Deio a Sara, sy'n dod i ddociau Caerdydd i weithio, a'r holl ddatblygiadau a fu i'r ardal, ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Dyma benllanw misoedd o ymarfer. Aeth y ffotograffydd, Sioned Birchall, draw i Ganolfan y Mileniwm i gael cip ar y paratoadau munud olaf.

Mae digon o gyfle i ganu, actio a dawnsio (a chael hwyl!) yn y sioe yma

Mae'r sioe wedi bod yn gyfle i wneud ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol

Yn y sioe, daw Sara i weithio fel nyrs yn Ysbyty Hamadryad - sydd wedi rhoi ei enw i ysgol gynradd Gymraeg ieuengaf Caerdydd, Ysgol Hamadryad

Ffredi sy'n actio Deio, sydd wedi dod i ddociau Caerdydd i weithio ar y llongau

Beth sydd wedi digwydd fan'na?

Pawb 'da'i gilydd, nawr...

Oes gen ti ddigon o hetiau?!

Cyfle bythgofiadwy i gael perfformio o flaen cynulleidfa enfawr yn Theatr Donald Gordon

Seren ac Asia gyda'u props hanfodol

Elan Isaac, brodor o'r ardal, yw coreograffydd y sioe

Pawb dal i fwynhau, er yr holl waith caled

Mae gan Ifan, Owen a Twm job bwysig

Diolch byth fod Mr Aled Williams o Ysgol y Wern wrth law i roi trefn ar y plant (ac i gasglu'r sbwriel)

Gwen yn y golau

Gruff a Hannah yn ymarfer eu llinellau

Pob lwc i bawb!
Hefyd o ddiddordeb: