Atgofion Mei Gwynedd o gystadlu yn yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Mei Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerddor Mei Gwynedd wedi bod yn aelod o'r bandiau Sibrydion, Big Leaves a Beganîfs - a dechreuodd y cyfan yn Eisteddfod yr Urdd!

Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd 2019, mae'r gân Hei Mistar Urdd yn cael ei hailwampio gan y cerddor Mei Gwynedd a 1,500 o blant ysgol.

Mae hi wedi bod yn gân gyfarwydd i aelodau'r Urdd ers degawdau ond beth am brofiadau Mei ei hun o gystadlu yn eisteddfodau'r Urdd?

Yn ôl yn 1990, roedd y Meilir Gwynedd ifanc yn cystadlu yn yr ŵyl ieuenctid gyda'i fand, Beganifs.

"Dw i'n cofio oedd gyno ni un gân a roedden ni'n defnyddio bins fel dryms," meddai wrth hel atgofion gyda BBC Cymru Fyw.

"Dw i'n cofio mynd rownd maes Steddfod yr Urdd a dwyn y dryms mawr plastig 'ma a'u defnyddio nhw ar y llwyfan.

"Roedd yn brofiad arall i gael chwarae ar lwyfan a perfformio, a hefyd i gael adborth gan bobl."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mei Gwynedd (trydydd o'r dde) yn aelod o'r band ysgol, Beganifs

Pan sgwrsiodd Cymru Fyw efo Mei 'roedd yn digwydd bod adref ym mro ei febyd, Y Waunfawr yng Ngwynedd.

Tra 'roedd yno fe ddaeth o hyd i hen feirniadaethau o'r gystadleuaeth Cyfansoddi a Pherfformio Cân.

Geraint Lovgreen a Robat Arwyn oedd y beirniaid ac roedd ganddyn nhw bethau cadarnhaol iawn i ddweud am y band a fyddai yn y pen draw yn ennill llu o ffans dan yr enw Big Leaves.

"Mae 'na feirniadaethau gwahanol dal gen i," meddai Mei "dyma un... 'Sŵn da ac adleisiau o'r chwedegau… solo gitâr yn hyfryd'.

"Oedd Eisteddfod yr Urdd yn gyfle i droi fyny a chwarae, felly oeddan ni'n cymryd mantais ohono fo.

"Mae'r Urdd yn agoriad rili da i blant ifanc drïo gwahanol bethau a gallu perfformio. Mae o'n beth mawr, dydy, sefyll ar flaen llwyfan ac adrodd neu ganu neu berfformio. Mae beth da i hyder rhywun.

"Dydy o ddim i bawb, ella, ond dw i'n meddwl ei fod yn rhywbeth mae lot o Gymry yn ei wneud. Mae rhai wedi mynd ymlaen i wneud pethau lot mwy wedyn hefyd. Mae'n gyfle rili gwych, dw i'n meddwl."

Ail-wampio Hei Mr Urdd

Cafodd anthem y mudiad cenedlaethol, Hei Mistar Urdd, ei sgrifennu yn wreiddiol gan Geraint Davies ac roedd yn dathlu ei 40 mlwyddiant yn 2017.

Mae'r fersiwn newydd ychydig yn wahanol meddai Mei Gwynedd.

"Fersiwn pync-roc o Hei Mistar Urdd efo 1,500 o blant ydy hi. Dw i' 'di tyfu i fyny efo'r gân er bod y wreiddiol wedi'i gwneud tua pryd ges i ngeni.

"Roedd 'na dros 100 o ysgolion wedi trïo i gael bod yn rhan o'r prosiect, wedyn oedd yr Urdd yn gorfod dewis 20 ohonyn nhw allan o het.

"Peth braf hefyd oedd cael mynd i ysgolion di-Gymraeg oedd yn awyddus i fod yn rhan o'r gân.

"Roedd yn gyfle da i ledaenu'r gair i blant oedd ella ddim yn gwybod rhyw lawer am yr Urdd."

Disgrifiad,

Bu Mei Gwynedd yn ysgolion Caerdydd a'r Fro i greu fersiwn newydd o glasur yr Urdd

Diolch i'r Urdd am rannu'r fideo o'r broses o greu'r fersiwn newydd.

Hefyd o ddiddordeb: