Lluniau: Caffis Eidalaidd Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'n ddiwedd cyfnod yn Nhreorci, wrth i'r caffi Eidalaidd, Station Cafe, gau ei ddrysau am y tro olaf dros y penwythnos.

Ers dros 80 o flynyddoedd, mae'r caffi wedi bod yn un o ffefrynnau trigolion yr ardal, ond oherwydd fod y perchennog, Dom Balestrazzi, yn ymddeol, mae'n rhaid cau caffi'r teulu.

Mae'n batrwm cyson ar draws Cymru. Ar un adeg, roedd dros 300 o gaffis Eidalaidd yn gwasanaethu cymoedd y de, ond dim ond llond llaw o'r rhai gwreiddiol sydd ar ôl heddiw.

O ddiwedd y 19G tan ganol yr 20G daeth miloedd o Eidalwyr i Gymru i agor caffis, parlyrau hufen iâ a siopau sglodion. Ac ymhell cyn dyddiau Nero, Starbucks a Costa, roedd enwau fel Sidoli, Gambarini, Conti a Bracchi yn enwog ar draws ardaloedd diwydiannol y de.

Dyma gofnod, mewn lluniau, o'r bywyd a'r cymeriadau sy'n cadw'r traddodiad hwnnw yn fyw yn rhai o gaffis gwreiddiol Eidalaidd de Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Fe agorwyd Station Cafe yn 1935 yn Nhreorci, Cwm Rhondda gan Yr Eidalwr Joe Balestrazzi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Domenico Balestrazzi, neu 'Dom', wedi bod yn rhedeg Station Cafe ers iddo gymryd yr awenau gan ei dad, Joe, yn 1965.

Disgrifiad o’r llun,

Ymgolli yn newyddion y dydd yn Station Cafe.

Disgrifiad o’r llun,

'British by birth, Welsh by the grace of God' - y neges balch ar y belt.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o'r caffis Eidalaidd gwreiddiol yn gwerthu amrywiaeth o fwyd, diod, sigaréts, losin a hufen iâ. Mae'r traddodiad yma'n parhau yng nghaffi Carpanini's yn Nhreorci.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dodrefn a decor trawiadol Carpanini's yn dod o'r 1960au. Cafodd y caffi ei sefydlu gan Ernesto Carpanini yn 1947 ac mae'n cael ei redeg heddiw gan ei blant - Irene, Pietro, Gianmarco a Francesco.

Disgrifiad o’r llun,

Mae siop sglodion Conti's, Tonypandy yn y teulu ers 1955, a Louis Conti yw'r ail genhedlaeth i'w rhedeg.

Disgrifiad o’r llun,

Y cegin gefn yn Conti's. Yn ôl Louis Conti, mae llai a llai o'r genhedlaeth iau yn dewis rhedeg y caffis teuluol Eidalaidd erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg, roedd 'na dri sefydliad Forte's yn Abertawe, ond erbyn hyn y parlwr hufen iâ yn y Mwmbwls yw'r unig un sydd ar ôl - wedi'i leoli mewn hen garej bren yn edrych allan i'r môr.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd caffi Kardomah yn Abertawe ei fomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe ail-agorodd y caffi yn 1957 mewn lleoliad newydd, a Marcus Luporini yw'r rheolwr heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r caffi Kardomah gwreiddiol yn enwog oherwydd y 'Kardomah Gang' - criw o ffrindiau oedd yn cwrdd yno'n rheolaidd. Roedd Dylan Thomas, Alfred Janes a Vernon Watkins yn rhan o'r 'gang'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r addurniadau'n dod o 1957, o'r cyfnod pan gafodd y caffi ei ail-agor yn ei leoliad presennol ar Stryd Portland.

Disgrifiad o’r llun,

"Ges i fy magu yn ymweld â'r Kardomah". Mae nifer o'r cwsmeriaid yn mwynhau awyrgylch cyfarwydd a chysurus yr hen gaffis Eidalaidd.

Disgrifiad o’r llun,

"Fi yw'r genhedlaeth olaf" - Stella Jenkins sy'n rhedeg siop losin Segadelli's yn Y Creunant, Cwm Dulais. Fe agorodd ei thad, Ernesto Segadelli, y siop yn 1921.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith i'r dyfodol. Mae'r genhedlaeth ifanc yn cymryd yr awenau yng nghaffi Prince's ym Mhontypridd. Dyma William Gambarini, aelod o'r drydedd genhedlaeth i redeg y caffi.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Prince's ei agor yn 1948 gan daid William, Dominic Gambarini a'i wraig Glenys, ac mae'r Art Deco gwreiddiol wedi ei gadw fel yr oedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 'hatch' hen ffasiwn rhwng y gegin a'r lle bwyd hefyd wedi ei gadw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r potyn dŵr poeth copr traddodiadol yn cael lle amlwg yng nghanol y caffi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymweld â chaffi prysur Prince's yn achlysur pwysig i nifer o'r cwsmeriaid ffyddlon.

Cyhoeddwyd y lluniau yma gyntaf ar Cymru Fyw ym mis Tachwedd 2017

Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw: