Cyfnewid byd

  • Cyhoeddwyd
coal exchange

Mae un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru wedi ail agor eu drysau.

Mae £40m wedi ei wario ar achub y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd.

Dyma olwg ar hanes cyfoethog yr adeilad a'r bywyd newydd sydd o'i flaen:

Ffynhonnell y llun, Google

Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Caerdydd oedd prif borthladd glo y byd ac oherwydd bod cymaint o fusnes yn mynd drwy'r bae fe agorwyd y Gyfnewidfa Lo yn 1886.

Yma, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, cafodd y cytundeb masnachol cyntaf gwerth £1m ei arwyddo. Roedd y cytundeb yn ymwneud â gwerthu 2,500 o dunelli o lo i gwmni yn Ffrainc.

Roedd 10,000 o bobl y diwrnod yn masnachu yn y gyfnewidfa, ac ar un adeg roedd prisiau glo'r byd yn cael eu dyfarnu yn yr adeilad yma.

Caeodd y Gyfnewidfa Lo yn 1958, gydag allforio glo yn dod i ben yn 1964. Roedd cynlluniau i gartrefu'r Cynulliad Cenedlaethol yma ond fe bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979. Roedd hefyd bwriad i osod pencadlys S4C yma pan sefydlwyd y sianel yn 1983.

Fel rhan o'r gwaith i adnewyddu'r adeilad, bydd ystafell newydd yn cael ei chreu yn agos i'r to a fydd yn dal dros 200 o bobl gyda bar a lle bwyta yno.

Mae'r brif neuadd wedi cynnal nifer o gyngherddau gan enwau mawr fel Manic Street Preachers, Arctic Monkeys, Van Morrison a Biffy Clyro. Mae ffilmiau a rhaglenni teledu wedi'u ffilmio yn yr adeilad hefyd, fel Doctor Who, Sherlock, Stella, Casualty a chystadleuaeth Miss Wales.

Roedd Banc Barclays wedi ei leoli yng nghefn yr adeilad ar un adeg, ac roedd yn cael ei rentu fel swyddfeydd i gwmnïau. Ond dinistriwyd rhan yma'r adeilad mewn tân yn yr 1980au. Mae cynlluniau i leoli un o'r bariau newydd yma wedi i'r gwaith o adnewyddu gael ei gwblhau.

Mae'r cyntedd yn dechrau cymryd siâp. Y cam nesaf fydd adnewyddu'r lloriau.

Mae disgwyl y bydd y datblygwyr newydd yn talu dros £40m i adnewyddu'r adeilad.

Mae rhannau o'r llawr cyntaf yn agos i'w cwblhau.

Bydd 40 o ystafelloedd gwely yn rhan o'r gwesty wedi i'r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau.

Mae disgwyl i'r ystafelloedd gwely gael eu henwi ar ôl enwogion o Gymru, gyda Roald Dahl a Tom Jones wedi eu clustnodi yn barod.

Yn y gorffennol cafodd y llawr isaf ei orchuddio yn dilyn gwaith adnewyddu. Yma bydd y ganolfan dreftadaeth am hanes yr adeilad a'r diwydiannau trwm yng Nghymru yn cael ei leoli.

Y gwaith o ailgynllunio'r fynedfa.

Darlun arlunydd o'r gwaith wedi ei gwblhau.

Mae disgwyl i'r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau erbyn diwedd 2018.