Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Rhai o'r golygfeydd ar y Maes ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

Hei Mistar Urdd! Disgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd wedi dod i'r maes yn eu coch, gwyn a gwyrdd

Y DJ adnabyddus Huw Stephens oedd Llywydd y Dydd

Dwylo i fyny! Hwyl gyda swigod ar y maes

Rownd a rownd: Elsa o Ruthun yn mwynhau'r ffair

Aelodau grŵp dawnsio amlgyfrwng Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn paratoi i fynd ar lwyfan y Pafiliwn

Y perfformio a'r prysurdeb ger Llwyfan y Lanfa yng Nghanolfan y Mileniwm

Chloe, Eleri a Willow o Aberdâr yn dal tlws y Chwe Gwlad

Laveah, 3 oed, o Gaerdydd yn mwynhau'r bwyd sydd ar gael ar y maes... a digon o sôs coch

Bwyd Indiaidd, pizza, crempog, byrger... mae digonedd o ddewis o fwyd ar y maes (a digonedd o gwsmeriaid am eu blasu!)

Gwern o Machynlleth yn bownsio fry

Mr Phormula yn rhoi sesiwn 'beatboxio' ar y llwyfan lliwgar, gyda Phenarth i'w weld yn y cefndir

James a'i chwaer fach, Lily, o Landaf yn mwynhau hufen iâ yng nghwmni Mam-gu a Tad-cu

Roedd yna dipyn o dorf yn y Pafiliwn ar gyfer prif seremoni y dydd, Medal y Dysgwyr

Roedd hi'n gynnes ac yn braf ar y Maes erbyn diwedd y prynhawn - tywydd sbectol haul go iawn!
Hefyd o ddiddordeb