Lluniau: Dydd Mercher Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Er ei bod hi'n bwrw glaw, roedd yna ddigon o hwyl i'w gael ar drydydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.

Amelie, pedair oed, a'i brawd bach Seb, dwy oed, o Gaerdydd wedi gwisgo'n addas ar gyfer y glaw

Grŵp sgerbwd hip-hop Ysgol Esgob Morgan, Llanelwy, yn barod i gystadlu yng nghystadleuaeth dawns hip-hop/stryd/disgo blwyddyn 6 ac iau

Roedd Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn yr Eisteddfod heddiw - na, nid i gystadlu - ond yn hytrach i drafod y garfan fydd yn wynebu Croatia a Hwngari

Roedd yna sesiwn holi ac ateb gyda Ryan Giggs, Osian Roberts a Ian Gwyn Hughes ar risiau'r Senedd

Osian Williams, prif leisydd Candelas, yn trafod sut roedd cyfansoddi a chwarae cerddoriaeth yn help iddo ddygymod â marwolaeth ei dad

Gyda glaw yn disgyn drwy gydol y dydd, doedd ond un peth amdani - dysgu sut i forio

Neuadd y Senedd sy'n cael ei defnyddio i arddangos y gwaith o'r cystadlaethau celf a chrefft

... ac roedd oriel o rai o'r darluniau trawiadol uwchben y Siambr

Prif weithredwr Eastside Young Leaders Academy, Ray Lewis gyda Lena, Erun ac Emmanuella. Eleni mae'r Urdd mewn partneriaeth ag academi Eastside yn nwyrain Llundain. Aeth Lena o Wrecsam, ag aelodau eraill o'r Urdd, draw i Lundain i lansio neges Heddwch ac Ewyllys Da blynyddol yr Urdd yn ddiweddar - y tro cyntaf i hynny ddigwydd y tu allan i Gymru

Gwilym Bowen Rhys, un o'r cerddorion a oedd yn perfformio ar y Maes heddiw

Tara Bethan yn cynnal sesiwn ioga gyda BBC Bitesize ym mhabell Tipi Syr Ifanc

Efan a'i gyfnither Marged o Sir Gâr yn mwynhau llywio llong stondin S4C

Doedd y glaw ddim am stopio Elizabeth o Gwm Parc, Rhondda, rhag cael ei chips

Hefyd o ddiddordeb