Lluniau: Dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Roedd digon i'w weld yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd ar ddiwrnod y coroni.

Roedd Shane Williams draw yn y Bae heddiw, i lansio Cwpan Criced y Byd

Yr artist goluro, Siân Grigg yw Llywydd y Dydd heddiw, ac mae hi hefyd yn beirniadu'r cystadlaethau harddwch. Dyma gystadlaethau y byddai hi wedi bod wrth ei bodd yn cystadlu ynddyn nhw pan oedd hi'n ifanc, meddai

Rhaid edrych eich gorau i ddod i'r Steddfod - jest gofynnwch i Dobby

Mae Meinir o Bentreuchaf yma gyda'i rheini i gefnogi ei chwaer fawr sydd yn cystadlu heddiw

Thema Carnifal Brasil sydd i'r colur mae Jessica yn ei roi ar Ashley o Ysgol Bro Edern ar gyfer y gystadleuaeth harddwch

Amy ac Elin yn cael ychydig o ymarfer munud olaf, ac wedi dewis piano mewn lliw priodol...

Sam Duggan ac Evan Mosey ("Dosey") o'r Cardiff Devils

Mae Maia a'i mam wedi dod draw o Lanelli i fwynhau am y dydd - ac wedi cael bod ar antur ar 'rollercoaster' rhithwir ym mhabell S4C!

Gaenor Mai Jones sydd yn cyflwyno'r Goron eleni, er cof am ei rhieni

Pan ti'n clywed fod dy ferch di wedi cael llwyfan (ac mae angen dad-bacio'r delyn eto)

Ffion, Aisha a Leo, tri o gyflwynwyr newydd Ymbarél ar S4C - cyfres newydd i bobl ifanc sy'n dathlu amrywiaeth LHDT a hunaniaeth

Enlli wrth ei bodd â'r llun mae Dad wedi ei dynnu ohoni hi â'i harwr, Mistar Urdd

Rajasthan Heritage Brass Band yn diddanu'r picnicwyr sy'n eistedd ar risiau'r Senedd

Mae'r holl gynnwrf wedi bod yn ormod i Emlyn druan
Hefyd o ddiddordeb