46 mlynedd o nyrsio plant yn Llangrannog
- Cyhoeddwyd
Mae Gaenor Mai Jones yn wyneb cyfarwydd i genedlaethau o blant Cymru. Bob haf, ers 46 o flynyddoedd, mae wedi bod yn swyddog ac yn nyrsio yng ngwersyll yr Urdd Llangrannog.
Yr wythnos nesa', mae Gaenor yn Llywydd Anrhydeddus yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro, gan gyflwyno'r Goron yn y seremoni ddydd Gwener 31 o Fai, er cof am ei rhieni.
Yma mae'n siarad am ei gwaith o gynnig cysur a gofal i genedlaethau o blant Cymru:
"Es i wersyll yr Urdd Llangrannog gynta' nôl yn 1973 fel swyddog, ac yna am sawl blwyddyn o'n i'n cymryd gwyliau o'n ngwaith i fel nyrs yn Ysbyty'r Brifysgol, yn yr Heath yng Nghaerdydd ac yn mynd yno bob haf.
"Mae gen i atgofion hapus iawn o'r cyfnod hynny. O'n i'n mynd ar ben y'n hunan, heb gwmni, ond oedd yr un criw o swyddogion yn dod nôl blwyddyn ar ôl blwyddyn a 'wi'n dal i'w adnabod nhw nawr."
Wedi hynny, a hithau'n nyrsio yng Nghaerdydd, daeth y cyfle i Gaenor fynd yn ôl i Langrannog fel nyrs, ac yn ei geiriau hi ei hun, "mae'n batrwm bywyd nawr, es i yna unwaith a dwi ddim wedi peidio mynd."
 chymaint o'r plant sy'n mynd ar wyliau i Langrannog wedi eu gwahanu wrth eu teuluoedd am y tro cyntaf, yn ogystal â gofalu bod y plant yn cymryd eu meddyginiaeth arferol, un o brif ddyletswyddau Gaenor fel nyrs y gwersyll ydy eu helpu i ddelio â hiraeth, meddai.
"Rhan fwya' o'r gwaith yw gweithio mas os mai hiraeth sydd ar y plentyn ac nid salwch. Mae salwch yn gallu cael ei ddefnyddio yn esgus i beidio gwneud rhywbeth, felly dyw e ddim yn waith nyrsio arferol, ond gweithio mas beth yw anghenion y plentyn.
"Os oes salwch gwirioneddol, maen nhw'n mynd adre, ond fydda i'n delio gyda manion. Os yw plentyn yn cael dolur, ond hefyd help emosiynol. Mae dod at y nyrs yn gyfle i blentyn fynd mas o'r weithgaredd i gael rhyw fath o dawelwch, a dwi'n eu helpu nhw i sylweddoli bod eisiau bwyta a chysgu i'w helpu nhw i fwynhau."
Ond, y gweithgareddau eu hunain, meddai Gaenor, yw'r moddion gorau, a helpu'r plant i fwynhau cymryd rhan, yw un o'i swyddogaethau.
"Dwi wastod yn dweud, 'sdim eisiau ciw i fynd i weld y nyrs, mae'r gweithgareddau eraill yn well nag aros gyda fi'!
"Unwaith dwi wedi gweithio ma's bod nhw ddim yn sâl, dwi'n meddwl wedyn rhaid bod yn gadarn am y ffordd ymlaen - dim 'dewch nôl i ddweud wrthai shwt chi'n teimlo mewn awr' - dwi'n dweud wrthyn nhw bod y gweithgareddau yn llawer mwy o hwyl, ac os nad ydw i'n eu gweld nhw eto, dwi'n gwybod eu bod nhw'n iawn!"
Y Cymreictod, y teimlad o deulu cytûn, a'r bwrlwm o fod yna sy'n denu Gaenor yn ôl i wersyll Llangrannog blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae boddhad yn dod o'r gwaith hefyd, meddai.
"Roedd un bachgen â hiraeth mawr ac o'n i wedi llwyddo i'w gael i aros. Ar ddiwedd yr wythnos fe ddaeth e i ddiolch i fi am ei helpu fe. O'n i ddim wedi 'neud dim byd - jyst ei berswadio fe - fe oedd wedi neud y gwaith ei hunan. Ond o'dd e'n amlwg wedi gweld gwerth."
Cyflwyno'r goron er cof am ei rhieni
Yr wythnos nesa', mi fydd Gaenor Mai Jones yn ymweld â'r Eisteddfod yr Urdd ym mae Caerdydd. Er cof am ei rhieni, y diweddar Brynmor a Margaret Jones o Aberystwyth, Gaenor sydd yn rhoi y goron i'r Urdd eleni. A hithau'n un o Lywyddion Anrhydeddus yr Ŵyl, mi fydd hi'n cyflwyno'r goron yn seremoni'r coroni ddydd Gwener.
"Fe wnaeth fy mam roi rhodd ariannol i'r Urdd yn ei hewyllys ac o'n i'n meddwl mod i eisiau 'neud rhywbeth, ac o'n i'n gwbod bod yr Eisteddfod yn dod i Gaerdydd, felly penderfynais roi y goron achos wnaeth fy nhad ennill coron yn Eisteddfod Maesteg yn 1953."
Ond pan ddaw'r haf, mi fydd Gaenor Mai Jones yn ôl yn y gwersyll ar arfordir Ceredigion, yn gofalu am rai o'r plant fydd hi'n eu gweld yn crwydro maes yr Urdd yr wythnos nesa'.
"Dwi wedi ymddeol ers naw mlynedd o Ysbyty'r Heath, ond falle fyddan nhw'n rhoi fi mas i bori, fel y ceffylau, cyn i fi ymddeol [o Langrannog]!"
Hefyd o ddiddordeb: