Y Wal Goch yn mwynhau i'r eithaf er gwaetha'r sgôr
- Cyhoeddwyd
Efallai nad oedd yr hyn ddigwyddodd ar y cae yn plesio, ond wnaeth hynny ddim amharu ar y mwynhad oddi ar y cae...
Ers blynyddoedd bu cefnogwyr Cymru yn dilyn y tîm pêl-droed i bob math o wledydd ar draws y byd, ac ers llwyddiant diweddar y tîm cenedlaethol mae'r Wal Goch wedi tyfu.
Tocyn neu beidio, fe heidiodd y Cymry draw yn eu miloedd i Groatia a Hwngari i fwynhau'r profiad a phrofi bod mwy i bêl-droed na phêl-droed.

Pawb yn gwenu cyn y gêm - cefnogwyr Cymru gyda chefnogwyr Croatia ar y ffordd i'r stadiwm



Roedd rhai o faddondai Budapest yn boblogaidd gyda chefnogwyr Cymru yn yr haul crasboeth...

...ac roedd mwy nag un ffordd i osgoi gorboethi

Budapest yn troi'n goch

Efallai bod mwy o siawns ennill mewn gêm pêl-droed bwrdd - cefnogwyr Cymru yn erbyn cefnogwyr Hwngari cyn mynd draw i'r gêm go iawn yn y stadiwm

Hunlun gyda un o chwaraewyr gorau'r byd - capten Croatia, Luka Modrić



Un o draddodiadau gemau i ffwrdd Cymru - tîm cefnogwyr Cymru yn chwarae yn erbyn tîm lleol, y tro yma 1908 SZAC Budapest

"Ni'n Bale-io nawr..." - y Welsh Whisperer gyda Ynyr Roberts (chwith), o'r band Brigyn, yn Budapest

Un o gefnogwyr Cymru ar ben y byd...


Y cefnogwyr oedd digon ffodus i gael tocyn i'r gêm yn erbyn Croatia yn Osijek...

...a'r rhai heb docynnau dridiau yn ddiweddarach mewn bar yn Budapest yn gwylio'r gêm yn erbyn Hwngari


Tan tro nesa'...
Hefyd o ddiddordeb: