Ar daith i Hwngari

  • Cyhoeddwyd
HwngariFfynhonnell y llun, Julian Finney

Wedi i Gymru golli o 2 - 1 yn Croatia brynhawn Sadwrn, mae bechgyn Ryan Giggs yn teithio ymlaen i brifddinas Hwngari ar gyfer ail gêm oddi cartref y garfan o fewn 3 diwrnod.

Ond sut le ydy Hwngari, a beth yw ei hanes? Dyma 'chydig o ffeithiau difyr am wrthwynebwyr Cymru.

Maint

Mae Hwngari yn 93,030 km2 (35,920 m2) mewn arwynebedd. Gyda Chymru'n 20,779 km2 (8,023 m2) o faint mae'n golygu bod Hwngari tua pedair gwaith a hanner maint Cymru.

Poblogaeth

Mae 9.7m o bobl yn byw yn Hwngari, ond mae poblogaeth y wlad wedi bod yn gostwng ers dechrau'r 1980au. Mae arbenigwyr yn dweud os fydd y gostyngiad yn parhau gall y boblogaeth fynd lawr i 6m erbyn 2070. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio, y gyfradd geni yn mynd yn is, a llawer o bobl ifanc yn mynd dramor i weithio wedi iddynt raddio o'r brifysgol.

Budapest, y brifddinas, yw'r ddinas fwyaf gyda 1.8m yn byw yno, a 3.3m yn y rhanbarth ehangach. Yn dilyn Budapest, y dinasoedd mwyaf yw Debrecen, Szeged, Miskolc a Pécs.

Magyarország

Magyarország yw enw'r wlad yn yr iaith Hwngareg, ac Magyar Nyelv yw'r enw ar yr iaith. Mae Hwngareg yn cael ei hystyried gan lawer fel iaith gymharol anodd i'w dysgu, ac nid yw'n debyg i ieithoedd y gwledydd sy'n amgylchynu'r wlad, ond yn hytrach i ieithoedd y Ffindir ac Estonia.

Disgrifiad o’r llun,

Baner swyddogol Hwngari

Yr wyddor

Mae yna 44 llythyren yn y wyddor Hwngareg, gan gynnwys pedair fersiwn o'r llythyren "O".

Arian

Yr arian sy'n cael ei ddefnyddio yn Hwngari yw'r Forint, gyda 100 Fillér mewn un Forint. Ar hyn o bryd gall £1 brynu tua 362 Forint.

Gwersyll yr Urdd

Mae gan yr Urdd ganolfan breswyl wedi ei lleoli yn ngogledd orllewin Hwngari.

Derbyniodd yr Urdd dŷ Kisbodak Házfel, fel rhodd gan ddyn o'r enw Michael Makin yn 2013. Roedd yn chwilio am sefydliad ieuenctid fyddai â diddordeb derbyn adeilad yn Hwngari ar yr amod y byddai'n cael ei ddefnyddio fel adnodd i bobl ifanc gael profiad o'r wlad.

Does gan Michael Makin ddim cyswllt penodol â Chymru, ond fe dreuliodd amser yn ardal Llangollen pan yn iau, gan gael ei gyfareddu gan harddwch yr ardal, y diwylliant a'r iaith Gymraeg.

Mae'r tŷ wedi cael ei adnewyddu a'i addasu i groesawu grwpiau o bobl ifanc o'r Urdd.

Lan môr

Na, does gan Hwngari ddim arfordir, ond dydi hynny ddim yn ei stopio rhag cael gwersylloedd 'lan môr'. Llyn Balaton yw'r llyn mwyaf yng nghanolbarth Ewrop, yn 48 milltir ar ei hiraf ac 8.7 milltir ar ei letaf.

Ar lannau Llyn Balaton mae pentrefi gwyliau a chartrefi moethus, a hefyd nifer o winllannoedd sy'n cynhyrchu gwinoedd enwocaf Hwngari.

Ffynhonnell y llun, Loop Images
Disgrifiad o’r llun,

Llyn Balaton, sydd ag arwynebedd o 598 km2 (231 m2).

Barddoniaeth am Gymru

Mae llawer o blant ysgol yn Hwngari yn ymwybodol o Gymru, nid oherwydd pêl-droed neu rygbi, ond oherwydd gwaith un o'u beirdd enwocaf, János Arany. Ysgrifennodd Arany gerdd o'r enw A walesi bárdok (Beirdd Cymru) yn 1857.

Daeth gorchymyn i feirdd Hwngari ysgrifennu cerddi i nodi ymweliad yr Ymerawdwr Franz Joseph I o Awstria. Ond fe benderfynodd Arany ysgrifennu cerdd am hanes 500 o feirdd Cymreig a gafodd eu lladd gan y Saeson yng Nghastell Trefaldwyn dan orchymyn Edward I yn 1283, blwyddyn wedi llofruddiaeth Llywelyn ap Gruffudd.

Roedd symbolaeth y gerdd yn cyfeirio at y driniaeth oedd yr Hwngariaid yn ei derbyn gan yr Awstriaid, ac yn ffurf o brotest gan Arany yn erbyn yr awdurdodau yn Fienna.

Ciwb Rubik a dyfeisiadau eraill

Cafodd y Ciwb Rubik ei ddyfeisio gan Ernő Rubik, gŵr o Budapest, yn 1974.

Mae dyfeisiadau eraill o Hwngari yn cynnwys y beiro pêlbwynt, hologramau, camerâu thermographig, cyfrifiaduron digidol a'r binoculars.

Ffynhonnell y llun, Andrew Spencer
Disgrifiad o’r llun,

Y Ciwb Rubik; tegan syml sydd wedi diddanu miliynau o bobl ledled y byd ers 45 mlynedd

Baddondai

Mae Hwngari yn cymryd mantais o'r ffaith bod gymaint o ffynhonnau cynnes yn y wlad ac mae 450 o spas a baddondai cyhoeddus ledled y wlad.

Mae'r baddondai yno ers dyddiau'r Rhufeiniaid, ac yn ôl yr Hwngariaid dyma'r ffordd orau i ddod dros hangover!

Ffynhonnell y llun, Loop Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn ymlacio ym Mathondy Szechenyi yn Budapest

Goulash

Mae goulash (Gulyás yn Hwngareg) yn symbol cenedlaethol, ac mae wedi cael ei fwyta yno ers y nawfed ganrif, gan fugeiliaid yn wreiddiol. Mae'n fath o stiw sy'n gallu cynnwys nifer o bethau fel cig, llysiau, nwdls, tatws ac un peth allweddol... paprika.

Mae bwydydd eraill cenedlaethol yn cynnwys paprikás cyw iâr, stiw gyda gwreiddiau Iddewig o'r enw sólet, halászlé (cawl gyda physgodyn carp), y gacen somlói galuska a'r ddiod feddwol pálinka.

Disgrifiad o’r llun,

Gulyás, testun braint mawr i'r Hwngariaid sydd wedi cael ei fwyta yn y wlad ers dros fil o flynyddoedd

Y tîm pêl-droed cenedlaethol

Roedd yna rai blynyddoedd lle'r oedd Hwngari yn un o dimau pêl-droed gorau'r byd. Rhwng 1950 ac 1956 fe enillodd y tîm 42 gwaith, cael saith gêm gyfartal a cholli dim ond un gêm (rownd derfynol Cwpan y Byd yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn 1954).

Mae Hwngari wedi cyrraedd ffeinal Cwpan y Byd ddwywaith (1938 ac 1954), a'r chwarteri dair gwaith (1934, 1962 ac 1966). Mae'r tîm hefyd wedi ennill y fedal aur yn y Gemau Olympaidd dair gwaith (1952, 1964 ac 1968).

Mae Ferenc Puskás yn cael ei gydnabod fel un o'r chwaraewyr pêl-droed gorau yn hanes y gêm - enillodd 85 cap dros Hwngari, gan sgorio 84 gôl.

Dydi'r tîm cenedlaethol heb fod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd diweddar, ac mae'n debyg mai'r chwaraewr gorau yn ddiweddar oedd Zoltán Gera a ymddeolodd o chwarae dros ei wlad y llynedd.

Mae record Cymru yn erbyn Hwngari yn dda, gan ennill pum gêm, colli tair a chael dwy gêm gyfartal. 2005 oedd y tro diwethaf i'r timau wynebu ei gilydd, ac fe enillodd Cymru 2-0, gyda Craig Bellamy'n sgorio'r ddwy gôl.

Ffynhonnell y llun, Central Press
Disgrifiad o’r llun,

Seren Hwngari a Real Madird, Ferenc Puskás, yn cymryd ergyd mewn gêm yn 1963

Enwogion

Ymysg rai o enwogion Hwngari mae'r cyfansoddwr Franz Liszt, László Bíró (a ddyfeisiodd y feiro) a Joseph Petzval (dyfeisydd y binoculars).

Mae yna lawer iawn o enwogion yn y byd adloniant sydd o dras Hwngaraidd, fel Tony Curtis, Drew Barrymore, Harry Houdini, Paul Simon, Gene Simmons o'r band KISS, Alanis Morissette ac Zsa Zsa Gabor a enillodd goron Miss Hwngari yn 1936.

Hefyd o ddiddordeb: