Lluniau: Y Stadiwm yn dathlu 20 mlwyddiant

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n ugain mlynedd ers agor y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Stadiwm y Mileniwm oedd yr enw gwreiddiol, ond mae bellach yn cael ei alw'n Stadiwm y Principality yn dilyn cytundeb noddi a ddechreuodd ym mis Ionawr 2016.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae'r stadiwm wedi gweld nifer o olygfeydd hanesyddol, gan ddiddanu'r genedl gyda chwaraeon a cherddoriaeth o bob math, gan gynnwys rhai o artistiaid mwya'r byd.

Dyma gasgliad o 20 llun i nodi'r 20 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Y digwyddiad cyntaf yn y stadiwm, gêm rygbi rhwng Cymru a De Affrica. Roedd y stadiwm dal yn cael ei hadeiladu ar y pryd, felly dim ond 27,000 oedd yno i weld y canlyniad hanesyddol, gyda Chymru'n curo'r Springboks am y tro cyntaf erioed o 29-19 - 26 Mehefin, 1999.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o’r llun,

Tina Turner yn perfformio yn y stadiwm fel rhan o'i thaith 'Twenty Four Seven Tour' - 9 Gorffennaf, 2000.

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r canlyniadau mwyaf yn hanes pêl-droed y genedl, Cymru 2-1 Yr Eidal. Roedd tîm Yr Eidal y diwrnod hwnnw yn cynnwys rhai o fawrion y gêm; Gianluigi Buffon, Alessandro Del Piero ac Andrea Pirlo. Simon Davies a Craig Bellamy oedd y sgorwyr i Gymru - 16 Hydref, 2002.

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn y Tsunami anferth a laddodd bron i chwarter miliwn o bobl yn Rhagfyr 2004, roedd cyngerdd arbennig yn y stadiwm i godi arian i elusen. Dyma Jools Holland ac Eric Clapton yn perfformio ar y llwyfan - 22 Ionawr, 2005.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Gavin Henson yn llwyddiannus gyda chic gosb hwyr i roi buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Lloegr o 11-9 - 5 Chwefror, 2005. Wedi'r gêm yma aeth Cymru ymlaen i ennill y Gamp Lawn, y cyntaf ers 1978.

Ffynhonnell y llun, Bryn Lennon
Disgrifiad o’r llun,

Colin McRae yn rasio yn ei gar Skoda yn ystod ail ddiwrnod Rali Cymru GB - 17 Medi, 2005.

Ffynhonnell y llun, Anwar Hussein Collection
Disgrifiad o’r llun,

'Ffeinal Steven Gerrard'. Capten Lerpwl yn codi Cwpan FA Lloegr wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn West Ham - 13 Mai, 2006. Cafodd chwe rownd derfynol Cwpan FA Lloegr eu chwarae yn y stadiwm tra roedd Wembley yn cael ei ailadeiladu.

Ffynhonnell y llun, Christian Liewig - Corbis
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Ffrainc yn dathlu buddugoliaeth 20-18 yn erbyn y Crysau Duon yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd - 6 Hydref, 2007.

Ffynhonnell y llun, John Gichigi
Disgrifiad o’r llun,

Joe Calzaghe yn llorio Mikkel Kessler mewn gornest am bencampwriaeth uwch-ganol y byd - 3 Tachwedd 2007.

Ffynhonnell y llun, Harry Scott
Disgrifiad o’r llun,

Bruce Springsteen a Steven Van Zandt yn perfformio - 14 Mehefin, 2008. Fe berfformiodd Springsteen yno hefyd ym mis Gorffennaf 2013.

Ffynhonnell y llun, Steve Thorne
Disgrifiad o’r llun,

Y band Gwyddelig, U2, yn perfformio ar lwyfan yng nghanol y stadiwm - 22 Awst, 2009.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd sefydlu tîm pêl-droed Olympaidd Prydeinig yn benderfyniad dadleuol i rai, ond fe chwaraeodd bump o chwaraewyr Cymru gyda'r garfan. Dyma Craig Bellamy yn y gêm yn erbyn Uruguay - 1 Awst, 2012.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Wedi buddugoliaeth 30-3 yn erbyn Lloegr fe enillodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013, a hynny wedi iddyn nhw ennill y Gamp Lawn y flwyddyn flaenorol - 16 Mawrth, 2013. Dyma'r dathliadau, gyda'r capten a oedd wedi ei anafu, Ryan Jones, yn codi'r tlws gyda'r capten ar y diwrnod, Gethin Jenkins.

Ffynhonnell y llun, Michael Steele
Disgrifiad o’r llun,

Nid rygbi'r undeb yn unig sydd wedi ei chwarae yn y stadiwm, ond rygbi'r gynghrair hefyd. Dyma Elliot Kear yn cynrychioli Cymru yn erbyn Yr Eidal yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd - 26 Hydref, 2013.

Ffynhonnell y llun, Sportsfile
Disgrifiad o’r llun,

Jonny Wilkinson yn codi Cwpan Ewrop wedi buddugoliaeth Toulon yn erbyn Saracens - 24 Mai 2014. Mae rownd derfynol Cwpan Heineken wedi ei chynnal yn y stadiwm bum gwaith.

Ffynhonnell y llun, Angel Martinez
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn codi Cwpan Cynghrair y Pencampwyr yn ei dref enedigol - 3 Mehefin, 2017. Enillodd Real Madrid 4-1 yn erbyn Juventus i godi'r tlws am y 11eg tro yn eu hanes.

Ffynhonnell y llun, Steve Feeney
Disgrifiad o’r llun,

Bartosz Zmarzlik yn arwain y ras yng nghymal Caerdydd o'r FIM Speedway Grand Prix - 22 Gorffennaf, 2017.

Ffynhonnell y llun, Richard Heathcote
Disgrifiad o’r llun,

Anthony Joshua yn glanio ergyd ar ên Joseph Parker mewn gornest focsio pwysau trwm - 31 Mawrth, 2018. Hon oedd yr ail ornest i Joshua ei chael yng Nghaerdydd - roedd y cyntaf yn erbyn Carlos Takam yn Hydref 2017.

Ffynhonnell y llun, Kevin Mazur
Disgrifiad o’r llun,

Jay-Z a Beyoncé yn perfformio yn ystod perfformiad cyntaf eu taith fyd-eang 'On the Run II' - 6 Mehefin, 2018.

Ffynhonnell y llun, Anwar Hussein
Disgrifiad o’r llun,

The Rolling Stones; Ronnie Wood, Mick Jagger, Charlie Watts a Keith Richards yn diddanu degau o filoedd gyda'u cerddoriaeth - 15 Mehefin, 2018. Dyma'r ail dro i'r Stones berfformio yn y stadiwm - y tro cyntaf oedd yn Awst 2006.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu Camp Lawn rhif 12! Capten Cymru, Alun Wyn Jones yn codi tlws y Chwe Gwlad wedi buddugoliaeth 25-7 yn erbyn Iwerddon - 16 Mawrth, 2019.

Hefyd o ddiddordeb: