20 mlynedd ers agor Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Undeb Rygbi Cymru yn nodi 20 mlynedd ers adeiladu'r stadiwm cenedlaethol yng nghanol Caerdydd ddydd Mercher.
Ers agor Stadiwm y Mileniwm ym mis Mehefin 1999, mae'r safle, sy'n dal 73,931 o bobl, wedi denu dros 1.3 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Yn ogystal â chael ei adnabod fel cartref tîm rygbi Cymru, mae'r safle hefyd wedi denu cyngherddau amrywiol, rasys a rhai o ddigwyddiadau mwyaf y byd chwaraeon.
Dywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies bod adeiladu'r stadiwm ar y safle yma yn "benderfyniad dewr iawn" ar y pryd, ond bod y dewrder hynny wedi cael ei gyfiawnhau.
Stadiwm Prinicipality oedd y stadiwm cyntaf yn y DU i fod â tho sy'n gallu agor a chau.
Mae'r to yn un o'r nodweddion sy'n gwneud y stadiwm cenedlaethol yn addas ar gyfer cymaint o wahanol ddigwyddiadau ond mae hefyd yn gallu ychwanegu at yr awyrgylch unigryw.
Mae cau'r to neu beidio yn bwnc sydd wedi achosi cryn ddadlau dros y blynyddoedd - boed hynny cyn gemau Chwe Gwlad neu gyngherddau.
Roedd dadl rhwng timau hyfforddi Cymru ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y llynedd, ar ôl i'r Gwyddelod fynnu eu bod am weld y to yn parhau ar agor.
Dywedodd Paul Sergeant, prif weithredwr y stadiwm rhwng 2003 a 2006, bod "nifer o bobl yn feirniadol o'r to yn y dyddiau cynnar".
"Roedd y penderfyniad i gau yn ddibynnol ar sawl ffactor, ond yn bennaf ar y tywydd," meddai.
"Roedd yn rhaid amddiffyn y cae a'r cefnogwyr, ond a dweud gwir roedd pobl yn cwyno naill ffordd neu'r llall!"
'Dynion yn eu dagrau'
Mae Catrin Rees yn gweithio fel tywysydd rhan amser yn Stadiwm Principality ers tair blynedd - profiad y mae hi'n ei ddisgrifio fel un "hynod o werthfawr".
"Mae pobl yn ymweld â'r stadiwm am bob math o resymau. Fi wedi cwrdd â phobl o ar draws y byd," meddai.
"Wrth gwrs mae'r stadiwm yn boblogaidd gyda chefnogwyr rygbi, a dwi wedi siarad 'da sawl cefnogwr o Seland Newydd sydd wedi dod yr holl ffordd er mwyn gweld, beth maen nhw'n ei ddisgrifio fel 'calon rygbi rhyngwladol'.
"Ma' fe wir yn brofiad emosiynol i rai. Fi 'di gweld dynion yn eu dagrau sawl tro. Fi'n cofio un Archentwr yn cerdded mas o'r twnnel ac yn dechrau beichio crio."
Dywedodd Ms Rees ei bod hi wedi dechrau'r swydd am ei fod yn gyfle i gyfuno ei "hobsesiwn â rygbi" a'i diddordeb mewn hanes.
"Mae'n wych cael dangos ochr arall o'r stadiwm i bobl pan ma' fe'n wag. Ac wrth gwrs ma' pobl yn dod i ymweld am bob math o resymau, dim jest rygbi," meddai.
Dywedodd fod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y Sbaenwyr sy'n ymweld â'r safle ers i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gael ei chynnal yno yn 2017.
Rhai digwyddiadau arwyddocaol
Cynnal rhai o gemau Cwpan Rygbi'r Byd 1999;
Ffrainc yn trechu Cymru yn y gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i gael ei chynnal yno ym mis Chwefror 2000;
Ryan Giggs yn sgorio'r gôl gyntaf i dîm pêl-droed Cymru yn y stadiwm newydd yn ystod colled o 2-1 yn erbyn Y Ffindir yn haf 2000;
Rownd derfynol Cwpan FA 2001 rhwng Arsenal a Lerpwl - y gyntaf i gael ei chynnal tu allan i Loegr;
Cymru'n ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf mewn 27 mlynedd ar ôl trechu Iwerddon yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005;
Y bocsiwr Joe Calzaghe yn curo Mikkel Kessler i uno pencampwriaethau byd ym mis Hydref 2007;
Cynnal chwe gêm yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn 2015;
Rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Real Madrid a Juventus yn 2017.
Ychwanegodd Mr Davies: "Dros hanner canrif fi 'di gweld y stadiwm yn datblygu o Barc yr Arfau i'r stadiwm cenedlaethol a'r cam mwyaf wrth gwrs, sef adeiladu Stadiwm y Mileniwm 20 mlynedd yn ôl.
"Roedd y cynlluniau'n uchelgeisiol iawn, o safbwynt gorfod 'neud e mewn dwy flynedd a gyda'r broblem o fod â'r afon ar un ochr a Stryd Westgate yr ochr arall.
"Doedd e ddim yn brosiect hawdd, a phob clod i'r bobl ar y pryd am fod â'r dewrder i gyflawni'r dasg."
Yn ôl Mr Davies, mae dau brif beth sy'n gwneud y stadiwm yn unigryw: "Y lleoliad - y ffaith bo' chi reit yng nghanol y ddinas - a'r problemau o orfod adeiladu mewn lleoliad eithaf cyfyng.
"Achos bod pethau mor agos at ei gilydd dwi'n meddwl bod hynny'n rhan o'r rheswm pam bod yr awyrgylch mor drydanol.
"Os ewch chi Twickenham neu Wembley, maen nhw'n arbennig fel lleoliad ond efallai bod yr awyrgylch ddim cweit 'na."
'Cyfrannu 2.75bn i'r economi'
Yn ôl adroddiad newydd mae Stadiwm Principality wedi cyfrannu £2.75bn i'r economi ers iddo agor.
Dywedodd adroddiad Econactive, gafodd ei gwblhau ar ran Undeb Rygbi Cymru, bod y stadiwm wedi cefnogi tua 2,500 o swyddi bob blwyddyn ers cynnal ei ddigwyddiad cyntaf ar 26 Mehefin 1999.
Ers hynny mae'r stadiwm wedi denu rhai o sêr mwya'r byd, gan gynnwys Beyoncé, Ed Sheeran, The Rolling Stones a Madonna.
Mae'r adroddiad yn nodi hefyd bod y stadiwm yn cefnogi tua un o bob 10 swydd yn ymwneud â thwristiaeth.
Dywedodd yr Athro Calvin Jones o Econactive: "Mae'n rhan bwysig iawn o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru ac economi twristiaeth Caerdydd... ond bydd yn rhaid iddo fuddsoddi ac addasu i'r newidiadau mewn marchnad hynod o gystadleuol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd8 Medi 2015
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2017