Oriel: Tafwyl 2019
- Cyhoeddwyd
Roedd tu fewn i furiau Castell Caerdydd yn fwrlwm dros y penwythnos, wrth i ŵyl Tafwyl gael ei chynnal o nos Wener 21 Mehefin i ddydd Sul 23 Mehefin.
Dyma ddetholiad o luniau gan y ffotograffydd Sioned Birchall o'r penwythnos:

Daeth miloedd o bobl i Gastell Caerdydd dros y penwythnos

Roedd Gwenno ymhlith yr artistiaid oedd yn perfformio nos Wener, ar noson agoriadol yr ŵyl

Ymlacio yn yr haul

Roedd y dorf yn mynd yn wyllt i Candelas nos Sadwrn

Band Pres Llareggub yn cloi'r noson, ar nos Sadwrn

Mab o'r ddinas, Huw Stephens, yn ôl eleni eto i fwynhau Tafwyl

Wnaeth y glaw ddim amharu ar hwyl y criw yma

Roedd rhai perfformiadau yn cael eu cynnal yn yr is-grofft yng Nghastell Caerdydd dros y penwythnos. Roedd digon o hwyl yng nghwmni Connie Orff ddydd Sul

Yn mwynhau er gwaetha'r glaw!

MR yn perfformio yn Y Sgubor ddydd Sul

Roedd Caryl Parry Jones a'r band yn perfformio nos Sul, gan gloi Tafwyl eleni

Ffan penna' Caryl?

A dyna hi am flwyddyn arall
Hefyd o ddiddordeb: