Lluniau: Dydd Mawrth yn y Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae ail ddiwrnod y Sioe yn Llanelwedd wedi dod â'r haul a gwres tanbaid.
Beth oedd i'w weld yno Ddydd Mawrth?

Roedd Fletcher o Dreorci yn y Rhondda wrth ei fodd â'i bicnic ger y cylch ceffylau.

Mae bod yn fwyellwr yn waith caled pan fo'r tymheredd yn agos at 30C...

...ac nid yw hi'n hawdd i ddod â'r defaid i'r cylch cystadlu yn y gwres yma chwaith!

Mae 'na fwyd at ddant pawb yn y Sioe Fawr... hyd yn oed y dant melysaf.

Er y gwres, roedd maes y Sioe yn orlawn heddiw wrth i'r torfeydd ddod yn eu miloedd.

Does yna ddim rhaid i Matthew a Pippa, o Lincolnshire, gerdded pan mae gan Mam droli!

Tra bod rhai yn cael reid mewn math wahanol o drol...

Roedd 'na dipyn o steil wrth i'r coets fawr yma amgylchynu'r prif gylch.

Y Cymro Nick Brookes oedd yn fuddugol yn y cymal yma o ddringo fyny'r polyn yn erbyn Kylian Schmidt o'r Swistr.

"Haia, Thea ydw i - pwy wyt ti?"

Roedd yna ddigon o fwrlwm yn y sied gneifio.

Noah o Leyland, Swydd Gaerhirfryn, yn mwynhau ar gefn ei geffyl.

Ar ddiwrnod poeth, braf oedd cael mynd mewn canŵ ar y llyn!

Ceffyl wedi'i wneud o hen bedolau yn cadw golwg ar y ceffylau byw yn y prif gylch.
Hefyd o ddiddordeb: