Lluniau: Dydd Llun yn y Sioe Frenhinol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Mae hi'n ddiwrnod agoriadol Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Dyma flas o'r hyn sy'n digwydd ddydd Llun.

Croeso Kwazulu i'r Sioe! Ymweliad yr wythnos hon gan Frenin a Brenhines Talaith y Zulu i nodi 140 mlynedd ers brwydr Rourke'r Drifft yn Ne Affrica

Mae Brenin Goodwill Zwelithini kaBhekuzulu a Brenhines Pumi, pennaeth Talaith y Zulu yn ymweld â maes y Sioe i nodi 140 mlynedd ers Brwydr Rourke'r Drifft yn Ne Affrica.

Arwel a Bethan Edwards

Mi fydd Sioe Frenhinol 2019 yn un hynod gofiadwy i Arwel a Bethan Edwards - llongyfarchiadau mawr!

Fe gyhoeddodd Cymru Fyw erthygl am drefniadau priodas y cwpl nôl ym mis Mai.

Sam Warburton

Cyfle annisgwyl am hunlun gyda chyn-gapten Cymru, Sam Warburton.

Ar y peirianwatih - Ffrindiau, Rhys a Belle o Bontarddulais

Rhys a Belle, ffrindiau o Bontarddulais, yn eistedd ar y peirianwaith.

Abbie Moseley o Knockin ger Croesoswallt yn paratoi ei dafad Charollais ar gyfer y gystadleuaeth

Abbie Moseley o Knockin ger Croesoswallt yn paratoi ei dafad Charollais ar gyfer y gystadleuaeth.

Tywysog Charles

Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw ymhlith yr ymwelwyr â'r Sioe ddydd Llun. Rhan o'u dyletswyddau oedd i agor gardd ryngwladol newydd sydd wedi cael ei chreu yn arbennig ar gyfer nodi 50 mlynedd ers yr Arwisgiad.

Claire Fitch o Ross on Wye ar gefn ei cheffyl Menai Eurostar, a enillodd yn y dosbarth Stallion Ridden horse…

Claire Fitch o Rhosan ar Wy (Ross on Wye) ar gefn ei cheffyl Menai Eurostar, a enillodd yn y dosbarth stallion ridden horse.

Sioe feics acrobataidd yn y prif gylch

Roedd y beiciwr yma'n hedfan drwy'r awyr yn ystod y sioe feiciau acrobataidd yn y prif gylch.

Gof

Gof wrth ei waith; gwaith blinedig a phoeth!

Will Ellis o Fryncrug yn paratoi ei Welsh Black cyn mynd i gystadlu, ac Aled Evans yn dal y pen

Will Ellis o Fryncrug yn paratoi ei Welsh Black cyn mynd i gystadlu.

Teulu o Llanddona, Ynys Môn

Gerwyn o Llanddona, Ynys Môn, efo'i blant Cadi, Caleb a Betsan yn edrych ar y ceiliogod buddugol.

Derek Brockway a Carol Vorderman

Mae Carol Vorderman a Derek Brockway yn darlledu o'r sioe yr wythnos hon ar BBC Radio Wales.

Nancy o Aberystwyth

Mae Nancy fach o Aberystwyth wedi gwneud ffrind newydd yn y sioe.

Sied y defaid

Hwyl am heddiw, o'r sied ddefaid yn Llanelwedd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig