Fy stafell i: Trysorfa hanes Gari Wyn
- Cyhoeddwyd
Beth sy'n cysylltu John F Kennedy, trôns Rhys Ifans a'r copi cynharaf o gerddi Dafydd ap Gwilym?
Yr ateb ydy'r dyn busnes a'r perchennog garej, Gari Wyn.
Fel cyn athro hanes mae Gari yn angerddol am hanes Cymru ac yn credu bod angen trysori creiriau sy'n adrodd hanes y genedl yn ei holl amrywiaeth.
Mae wedi caniatáu i gamera Cymru Fyw ddod i gael cip ar ei stydi lle mae'n cadw ei gasgliadau o hen lyfrau a chreiriau a gweld y memorabilia Cymreig o bob math sydd ganddo yn ei gartref ger Bangor.
"Hon ydi fy stydi i - fan hyn fydda i'n dod pan fydda i'n gwneud fy mhetha'," meddai Gari, sy'n dod i'r stafell yma i baratoi ar gyfer y rhaglenni mae'n eu cyflwyno ar Radio Cymru a'r sgyrsiau mae'n eu rhoi mewn gwahanol gymdeithasau.
Un o'r pethau mwyaf trawiadol sydd ganddo yn ei gasgliad ydy ffrog a wisgodd Shirley Bassey i gwrdd â'r Arlywydd Kennedy yn 1963.
"Mae JFK wedi rhoi cusan i'r ddynes oedd yn gwisgo'r ffrog yma ddau fis cyn iddo fo farw," meddai.
Mae'n debyg bod y gantores o Gaerdydd wedi canu i'r arlywydd mewn ffrog berfformio sgleiniog ond pan sylweddolodd y byddai'n ei gyfarfod yn y Tŷ Gwyn aeth allan ar frys i brynu ffrog ddydd fwy cynnil.
Fe wnaeth Gari ei phrynu am £3,000 mewn ocsiwn yn Christie's yn Llundain yn 2003 i ddathlu 50 mlynedd Shirley Bassey yn y byd adloniant.
"Aeth rhai ohonyn nhw am £20,000 yr un, gan gynnwys yr un llawn diamwntau roedd hi'n ei gwisgo ar ddiwedd y ffilm Diamonds Are Forever," meddai.
"Aeth yr arian i gyd i elusen. Fel arfer dwi'n prynu pethau mewn ocsiwn at achos da."
Eitem arall brynodd Gari at achos da oedd trôns llwyd roedd Rhys Ifans yn eu gwisgo fel y cymeriad Spike yn y ffilm Notting Hill gyda Hugh Grant a Julia Roberts.
"Trôns Notting Hill 'di hwn efo'r staens i gyd. Hwn ydi'r trôns mae Rhys Ifans yn ei wisgo wrth ateb y drws i'r paparazzi yn y ffilm. Mae wedi sgrifennu 'Ti'n lyfli' arno fo!"
Talodd Gari £420 am y trôns yn fuan wedi i'r ffilm ddod allan i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2001.
Mae ei gasgliadau llyfrau yn cynnwys cyfresi cyflawn o gylchgronau llenyddol y 19fed ganrif fel Y Llenor a Cymru.
Ond y pièce de résistance meddai ydy copi gwreiddiol o'r casgliad cyntaf o weithiau Dafydd ap Gwilym o 1789.
Mae'n llyfr prin iawn ac yn cynnwys cywyddau 'ffug' a oedd mewn gwirionedd wedi eu hysgrifennu gan Iolo Morganwg, un o olygyddion y casgliad.
Un o'r pethau eraill mae Gari yn eu trysori ydy hen arian Cymreig banciau annibynnol Cymru o'r 1820au gan gynnwys Banc Porthmadog, Hwlffordd a Chaerfyrddin.
"Mae'r rhain yn bethau prin iawn, iawn," meddai Gari. "Faswn i ddim yn eu gwerthu nhw taswn i'n cael cwsmer iddyn nhw."
Yn pwyso yn erbyn hen gloc mae ffolder yn dal cofnodion misol y capel sy'n gorwedd dan ddŵr cronfa Llyn Celyn; lle sydd ag arwyddocâd pwerus yn hanes Cymru.
Mewn ffrâm hefyd mae poster bychan ar gyfer opera roc Nia Ben Aur o 1974 sy'n chwedlonol ym myd canu pop Cymraeg.
Wrth eu hymyl mae pâr o esgidiau swêd llychlyd o ddiwedd y chwedegau. Nid rhai glas Elvis ond rhai du oedd yn eiddo i'w gyfaill, Tom Jones.
"Mi ddaru Tom Jones wisgo'r rhain drwy ddau dymor yn Las Vegas yn Caesars Palace," meddai Gari sydd â chofnod swyddogol i brofi o lle daeth pob un o'i femorabilia.
"Hanes Cymru ydi'r cysylltiad rhwng rhain i gyd. Os nag ydi o'n cyfri dros Gymreictod wnâi ddim boddran ei brynu o fel arfer," meddai.
"Mae gen i hefyd hen ddodrefn a lot o lawysgrifau - rhai Gerallt Lloyd Owen er enghraifft."
Eitemau eraill sydd gan Gari yn ei gasgliad yw potel o wisgi Tŷ'r Cyffredin o'r 1980au oedd yn eiddo i Dafydd Wigley, yr Aelod Seneddol dros Arfon cyn iddo ymddeol yn 2001, a choron arian un o eisteddfodau rhanbarthol hynaf Cymru, sef Eisteddfod Powys.
Cafodd ei hennill yn 1958 gan Gerallt Jones.
"Dwi'n un o'r bobl ma' sy'n hooked ar chwilio. Mae'r tŷ yma ei hun yn rhan bwysig o hanes Bangor.
"O fan hyn roedden nhw'n rhannu llefrith Bangor. Roedd dyn o'r enw John Owen sy'n arwr mawr i mi, yn byw ac yn ffermio yma.
"Mae'n un o'r bobl sydd wedi mynd yn angof yn hanes Cymru achos yn fy meddwl i fo oedd un o'r rhyddfrydwyr annibynnol mawr cyntaf oedd yn 'sgrifennu yn Gymraeg ac fe 'sgrifennodd y llyfr cyntaf ar amaethyddiaeth yng Nghymru.
"Cafodd ei hel allan o'r ffarm yn 1868 am bleidleisio yn erbyn y tirfeddiannwr Thomas Assheton Smith o stad y Faenol.
"Becws y gweision oedd y stafell yma. Roedd y lle'n rhacs pan wnes i ei brynu 15 mlynedd yn ôl. Yr unig beth o'n i'n gallu ei adfer o'r popty oedd y drws yma sy'n dod o gyfnod John Owen.
"Dwi'n prynu a gwerthu erioed. Mae'n rhyw afiechyd ges i gan fy nhad. Ond roedd o'n prynu pethau er mwyn eu gwerthu ond dwi 'di tueddu i brynu pethau a'u cadw nhw.
"Ond os nad oes 'na wefr hanesyddol ynddo fo dydi o ddim yn cyfri dim byd.
"Mae'n bwysig bod y pethau yma'n cael eu cadw," meddai Gari cyn cyfaddef nad ydi ei wraig, Modlen, bob amser yn hapus o wybod ei fod wedi ychwanegu eto at ei gasgliad...
Hefyd o ddiddordeb: