Lluniau'r Steddfod ddydd Sadwrn cyntaf // Saturday's pictures from the Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Rhai o olygfeydd diwrnod agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.

Images from the opening day of the National Eisteddfod in Llanrwst.
You can catch up with the day's news and highlights on our special Eisteddfod website.

Daeth Tomi a Caio, a'u tad Pryderi, o Lwyndyrus ger Pwllheli yn gynnar i gael tocyn i sioe Cyw // Tomi and Caio, with dad Pryderi, from Llwyndyrus near Pwllheli, beat the queues for a ticket to the popular Cyw show

Mae Leusa o Gaernarfon yn brysur: mae'n cystadlu ar yr unawd, yr unawd cerdd dant a'r alaw werin // Leusa from Caernarfon is competing in three competitions

Bore'r bandiau pres yw bore Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod // Brass bands from all over Wales compete on the first day of competitions at the Eisteddfod

Gobeithio nad oes na droseddau celf yn cael eu cyflawni ar y maes... // Just keeping an eye out for any artful dodgers

Mae Gwenlli a Sophie wedi dyfeisio steil gwallt newydd ar gyfer y Steddfod! // Gwenlli and Sophie ar inseparable!

Peidiwch â synnu os gwelwch chi swyddogion pasbort fel Dafydd yn yr Eisteddfod - mae'n rhan o brosiect celf i roi pasbort dinasyddiaeth Bwrdeistref Rydd Llanrwst i eisteddfodwyr // Don't be surprised if you see passport officers like Dafydd at the Eisteddfod - it's part of an art project which gives passports to visitors who want to become citizens of the Free Borough of Llanrwst

Mae Rachel Mason wedi cynhyrfu ar ôl derbyn pasbort newydd! // Rachel Mason is very excited to get her new passport!

Lona a'i mab Elis o Ddyffryn Nantlle yn aros i fynd i mewn i'r Pafiliwn i weld ei mab arall, Sion, yn cystadlu gyda Band Nantlle // Lona and son Elis from Dyffryn Nantlle waiting to watch their local band competing

Mae Susan a Pat yn dod o Loegr yn wreiddiol ac wrth eu bodd yn canu yn Gymraeg gyda Chôr Alaw // Susan and Pat, both from England originally, love singing in Welsh as members of Côr Alaw

Mae merched sir Gâr yn barod i dynnu peint neu ddau yn y bar Syched // Carmarthenshire girls behind the bar

Mae'r artist André Stitt wedi creu gwaith celf gyda chloriau hen recordiau sengl Cymraeg // Artist André Stitt has been inspired by old Welsh records

Ymadrodd fydd i'w glywed fwy nag unwaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod // This work of art depicts a popular local phrase which means 'Wales, England and Llanrwst'

Mae sioe amlgyfrwng arbennig am Orig Williams, y reslar El Bandito, i'w weld yn y Lle Celf // An interactive exhibition in the art pavillion celebrates local wrestler Orig Williams, who was known by his stage name, El Bandito

Fedrwch chi ddyfalu llun pwy mae Aur Bleddyn yn ei dynnu ar gyfer murlun stondin Sain i ddathlu eu hanner canmlwyddiant? // A mural to celebrate 50 years of Welsh record label Sain is being created at their stall this week

Beth yw'r ots am y glaw pan mae pawb wedi cofio dod ag ambarél? // Brollies up! Obviously experienced Eisteddfod-goers!
Hefyd o ddiddordeb: