Dod i adnabod rhai o gymeriadau Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Wrth i Lanrwst baratoi i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol, Cymru Fyw fu draw i holi'r bobl sy'n byw a gweithio yno am eu barn am y dref, yr Eisteddfod a'u hatgofion o'r tro diwethaf fu'r Brifwyl yno.

Wyn a Paula Williams, siop sglodion a thŷ bwyta Tir a Môr

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Wyn: "Os ti'n edrych ar ôl Llanrwst, wnaiff Llanrwst edrych ar dy ôl di - dyna dwi bob tro'n ddweud.

"'Da ni'n falch iawn bod yr Eisteddfod yn dod yma - nid jest fel busnes, ond fel Cymry.

"Fydd bron iawn pawb sy'n gweithio fan hyn yn cystadlu efo'r corau ar y dydd Sul cynta' felly 'da ni'n gorfod cau'r tŷ bwyta achos allwn ni ddim ond staffio'r takeaway.

"Tyda ni byth yn cau - mae'n rhaid bod yn rhywbeth serious iawn i ni gau, ond fydda ni ddim am fethu hwn. 'Da ni'n dau efo CôRwst ac mae'r tair o'n genod ni a rhai o'r staff eraill efo côr Cantilena.

"Fydda ni'n cystadlu yn erbyn ein gilydd ac wedyn mynd i'r bar efo'n gilydd a chael hwyl. Chawn ni ddim cyfle fel hyn eto."

Ian Jenkins, Cynghorydd

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

"Mae'r lle fel Marmite - 'da chi unai yn caru'r lle ac wrth eich bodd yma neu 'da chi ddim. Dwn im be' ydi o am y lle ond unwaith mae Llanrwst yn cael gafael arnoch chi wnaiff o ddim gadael fynd.

"Dwi wedi byw yng Nghanada ac yn Devon ac yn ôl yn fama ers y 70au.

"I fi mae o fel Disney World. Ewch am dro trwy'r goedwig, mae yna gymaint o lwybrau - allwch chi fod yn California, Estonia neu Nant Bwlch yr Haearn. Y llonyddwch, yr hen fwyngloddiau, y llynnoedd, mae'n lle i gael ysbrydoliaeth.

"Fydd Eisteddfod eleni yn wahanol - tro yma mae bar ar y maes, felly eleni fydd o ddim mor brysur o ran y tafarndai ag oedd o yn '89 - ond mae cymaint o bethau eraill cyffrous yn digwydd yn y dref."

Bryn Davies, arwerthwr

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

"Dwi'n cofio'r Steddfod ddiwetha' - ro'n i'n 21. Roedd y tafarnau'n llawn a dwi'n cofio mynd lawr Stryd Dinbych a'r gwydrau plastig yn bob man - a rhai pobol yn cwyno.

"Roedd y tafarndai wedi rhedeg allan o gwrw a dwi'n cofio rhai o'r hogia'n mynd i siop Spar Conwy dwi'n meddwl - dwi'n siŵr bod un Betws-y-Coed wedi ei wagio - efo trailer neu pick up a chlirio fo allan o ganiau cwrw a wedyn dod nôl a'u gwerthu nhw i bawb am rhywbeth fel 50c y can."

Manon Dafydd, athrawes, a Nel a Cari, blwyddyn 5, Ysgol Bro Gwydir

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Manon: "Mae 'ngŵr i o Sir Fôn a dwi'n cofio fo'n dweud bod o 'di clywed nad ydi pobl Llanrwst eisiau symud o'r dref. Nes i ddweud 'na, dwi ddim fel yna' - ond pan mae'n dod i'r crunch...

"Mae gen i fabi ar y ffordd sydd fod i landio bythefnos cyn y 'Steddfod. Ond fyddai'n mynd hyd 'noed os fydd rhaid iddyn nhw fynd a fi yno mewn cadair olwyn.

"Mae gen i hogyn bach, Iago, sy'n 22 mis a fydd o eisiau mynd i weld Cyw ar y Maes. Tro diwetha' roedd y Steddfod yma roeddwn i'r un oed ag o, ac mae 'na lun ohono i mewn coets ar y Maes. Difyr ffordd mae'r olwyn yn troi!"

Cari: "Dwi'n hoffi Llanrwst. Mae lot o lefydd i fynd am dro, fel Coedwig Gwydir - lot o goed a llynnoedd. A'r bont. Dwi'n meddwl bod y bont yn rhan o Lanrwst. Does na ddim un arall fel yna yn unlle."

Nel: "Os mae'n braf 'da ni'n mynd o dan y bont i chwarae - ond dim os mae'n bwrw oherwydd llifogydd. Dwi'n hoffi'r becws. Mae 'na gacennau neis yna - yr iced bun ydi'r gorau."

Raj a Shorifa Rahman, bwyty Tŷ Asha

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Raj: "Doedd yna ddim pobl o leiafrifoedd ethnig yma cyn i ni ddod yma 20 mlynedd yn ôl.

"Roedd un teulu o Dde Affrica ac ella un neu ddau arall. Pan ddaethom ni yma fe wnaethom ni drio cymysgu ac integreiddio ond doedd o ddim yn hawdd. Mae'n gymuned glos felly'n anodd i rywun o'r tu allan, ond unwaith ti'n cael dy dderbyn a ti'n rhan o'r gymuned, mae nhw fel teulu. Tasa rhywbeth yn digwydd, byddai gen i lwyth o bobl tu ôl i mi."

Shorifa: "Roedd y plant yn help. Y nhw ydi'r rhai cynta' o'n teulu i gael eu geni yng Nghymru. Aethon nhw i Ysgol Bro Gwydir, ac maen nhw'n siarad Cymraeg yn rhugl."

Raj: "Mae'n fy atgoffa o adra - Bangladesh. Y gymuned agos, pawb yn adnabod pawb, y ffordd 'da ni'n magu plant, a'r diwylliant - sut mae'r bobl yn dysgu mamiaith i'w plant."

Shorifa: "'Da ni'n wir edrych ymlaen at y Steddfod. Mae 'na deimlad cyffrous bod rhywbeth gwahanol yn digwydd. Mae o fel pan mae Cwpan y Byd ymlaen, mae'n gyffrous hyd 'noed os ti ddim yn hoffi pêl-droed."

Gwilym Rhos

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

"Un o'r mynyddoedd ydw i - Capel Curig - a dwi'n adnabod pob carreg ar y mynyddoedd ar ôl bod yn hel defaid. Dwi'n byw yn Llanrwst rŵan a ddyweda i hyn - chewch chi unlle gwell i gynnal Eisteddfod na Llanrwst a Dyffryn Conwy - fydd hi'n Eisteddfod wych.

"Un peth dwi'n ddweud - efo'r unawdau, peidiwch â chanu caneuon Eidalaidd sydd wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Canwch ganeuon Cymraeg.

"Mae digon o gyfoeth yng Nghymru. Maen nhw'n sôn am test piece ond pa well test piece i denor na Arafa Don, neu Mab y Môr?

"Fyddai ddim yn gallu mynd i'r Eisteddfod - dwi'n cael trafferth cerdded y dyddiau yma, ond fyddai'n gwylio bob dydd. Wnâi ddim mynd allan o gwbl na symud i ffwrdd o'r teledu drwy'r wythnos."

Anna Edwards a'i chwaer Lene Hampson, Caffi Contessa

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Anna: "Dwi'n dod o Ddenmarc ac wedi dod drosodd i Gymru yn 1991.

"Nes i gyfarfod fy ngŵr yn Capel Curig. Aetho ni 'nôl i Ddenmarc ac wedyn penderfynu dod 'nôl a dod i Lanrwst gan ei fod yn dref, ond heb ormod o ymwelwyr. Dim Betws-y-Coed ydi fan yma.

"Dwi'n caru'r bobl yma - maen nhw'n wahanol, maen nhw'n glên ac eisiau gwybod popeth ac mae'r tirwedd yma yn brydferth.

"Dwi'n meddwl bod yr Eisteddfod yn grêt i'r dref ac yn gyfle mawr i ddangos beth sydd yma."

Elystan Metcalfe, cigydd

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

"Dwi'n rhedeg y siop yma ers 35 mlynedd. Nes i gychwyn o'r cychwyn efo'r busnes. Doedd o ddim yn hawdd ond ro'n i'n ifanc ac yn byw adra, fasa'n dipyn anoddach fel arall.

"Tro diwetha' roedd y 'Steddfod yn Llanrwst roedd busnesau'r dre yn dawel iawn. Roedd y Maes yn agosach i'r dref adeg hynny ond roedd yr Eisteddfod lot llai. Gobeithio fydd pethau'n well eleni achos mae mwy o bethau i ddenu pobl i ganol y dre.

"Dwi'n edrych ymlaen - fydd cyffro yma. Dwi'n byw tri hyd cae i ffwrdd o Faes B, fel mae'r fran yn hedfan, felly fyddai'n clywed y bandiau i gyd a fydd 'na gynnwrf. Fydda i ddim yn ym mynd i Faes B - ond fydd y ddau hogyn acw yn mynd."

Gweithwyr canolfan newydd Menter Iaith Conwy

Ffynhonnell y llun, ffotoNant

Meirion Davies, prif swyddog Menter Iaith Conwy: "Un o'r rhesymau ddes i weithio yma yn y lle cynta' oedd Y Cyrff. Roedd yn cael ei ystyried yn dipyn o glod i ddod o Lanrwst oherwydd y band.

"'Da ni'n gobeithio wnaiff y Steddfod gael effaith ieithyddol ac economaidd yma a 'da ni wedi bod yn cydlynu i wneud yn siŵr bod pobl yn dod i'r dref yn ystod wythnos Steddfod.

"'Da ni eisiau iddo gael effaith ar y patrwm - fel pobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg ond ddim bob tro'n gwneud. 'Da ni eisiau normaleiddio defnyddio'r iaith.

"Mae rhai'n siarad Saesneg efo pobl er eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg. Ella wnaiff nhw siarad Cymraeg efo rhai pobl, efo fi efallai, ond ddim efo'i gilydd.

"Gobeithio bydd Cymraeg yn cael ei weld fel rhywbeth sy'n dda i'r dref."

Pynciau cysylltiedig