Lluniau dydd Sul o'r Steddfod // Sunday's pictures from the Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Lluniau dydd Sul yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.

Images from the second day of the National Eisteddfod in Llanrwst.

You can catch up with the day's news and highlights on our special Eisteddfod website.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ffion a Rhian o Bethel ger Caernarfon yn cystadlu gyda'u grŵp dawns // Ffion and Rhian from Bethel near Caernarfon were competing with their dance group

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Katie a Rhian i babell Merched y Wawr i roi'r byd yn ei le oherwydd safon y te a'r cacennau // Katie and Rhian decided to catch up at the Merched y Wawr stall because of the standard of tea and cakes

Disgrifiad o’r llun,

Ceri o Rhiwlas ger Bangor yn gwneud yn siŵr nad ydy ei mab Gruffudd yn llosgi yn yr haul rhwng y cawodydd // Ceri from Rhiwlas near Bangor makes sure son Gruffudd has his sun cream on

Disgrifiad o’r llun,

Y darlledwr bytholwyrdd Hywel Gwynfryn heb feicroffon am unwaith wrth iddo grwydro'r Maes // Radio Cymru presenter Hywel Gwynfryn is a veteran of Eisteddfod broadcasting

Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad wedi ei ysbrydoli gan hanes y chwareli gan gast ifanc Cwmni Frân Wen yn y Lle Hanes // Young members of drama company Frân Wen gave a performance about the slate quarries at the history pavilion

Disgrifiad o’r llun,

Daw Tim Hampson ar stondin Cymdeithas y Delyn Deires o Ddyfnaint - mae'n un o'r ychydig bobl sy'n gwneud telynau teires // Tim Hampson from Devon is a harp maker who specialises in making Welsh triple harps

Disgrifiad o’r llun,

Ar goll? Diolch byth am y mapiau mawr sydd o gwmpas y Maes // A handy map if you get lost on the field

Disgrifiad o’r llun,

Lleucu'n arddangos popeth sydd ei angen mewn Steddfod: dillad cyfforddus, welis, bag i ddal pres gwario, bag cefn i ddal yr holl bethau eraill, ac, yn bwysicaf oll, os ydych dan 10, balŵn // From the wellies to the baloon, Lleucu has got it covered

Disgrifiad o’r llun,

...a digon o le i roi'r holl sticeri! // ... and all the freebie stickers she could get!

Disgrifiad o’r llun,

Nid ail-greu'r glaniad cyntaf ar y lleuad ond y teulu Canty o Brestatyn yn trïo gogls adran seicoleg Prifysgol Bangor yn y Pentref Gwyddoniaeth // Not a recreation of the first moon landing but the Canty familly from Prestatyn trying on special distortion goggles at the Science Village

Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Côr Dyffryn Dyfi, Arfon Williams, yn cael un ymarfer olaf mewn pabell ar y Maes cyn mynd ar y llwyfan // Arfon Williams, the conductor of Dyffryn Dyfi Choir, squeezes in a last-minute practice before going on stage

Disgrifiad o’r llun,

Ahoy! i gyflwynwyr Cyw // Presenters from S4C's popular service for children, Cyw

Disgrifiad o’r llun,

O Cyw i'r ciw - yr un i weld cystadleuaeth boblogaidd y corau yn y p'nawn //There were long queues for the popular choir competition in the main Pavilion

Disgrifiad o’r llun,

Hafan i rieni â phlant bach - y Pentref Plant (mae'r bar rownd y gornel) // The Children's Village is a godsend for parents of young children (the bar is just around the corner)

Disgrifiad o’r llun,

Elis o Fangor yn joio ar 'Space Hopper' // Elis from Bangor enjoys the Space Hoppers

Hefyd o ddiddordeb/You may be interested in: