Lluniau'r Eisteddfod: Dydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Lluniau dydd Mercher yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst
Gallwch weld y newyddion, canlyniadau, uchafbwyntiau a fideo byw o'r Pafiliwn yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.


Murlun yn stondin Sain - a'r rhai fu'n gyfrifol am ei chreu dros y dyddiau diwethaf - i ddathlu hanner canmlwyddiant y cwmni recordiau

Mae rhai eisteddfotwyr yn cael eu heffeithio gan y gwynt a'r glaw fwy nag eraill

Archdderwydd y dyfodol? Mae'r Maen Llog yn gwneud lle dringo gwych pan nad yw'r Orsedd yn ei defnyddio

Canu, sgwrsio ac wrth gwrs chwerthin ym mhabell Encore wrth i Hywel Gwynfryn a Rhys Meirion drafod y tenor David Lloyd

Byth rhy hen i gartwnau - sesiwn i blant gyda'r cartwynydd Huw Aaron

Cyffro a nerfau gefn llwyfan wrth i Ysgol Dyffryn Conwy baratoi i agor cystadleuaeth y corau ieuenctid

Nage, nid yr orsedd ar ei newydd wedd ond perfformiad gan Theatr Stryd

A chriw arall o berfformwyr yn crwydro'r Maes

Tomos a Caio, o Garndolbenmaen, yn y wisg draddodiadol Eisteddfodol

Dechrau'n gynnar - Wil, sy'n wyth wythnos oed, yn ei steddfod cyntaf gyda'i dad Prys Evans

Pwyll piau hi... Edward Parkes yn gorffen ei gerflun pren o'r arwr rygbi Gareth Edwards

Eisteddfod yr 'hetiau bwced' - gyda gigs Maes B yn dechrau ar ddydd Mercher mae'r pedwar yma o Langefni wedi dod i'r brif faes cyn i'r noson gychwyn

Er gwaetha'r het, fydd Lleucu - nac Elsi - yn mynd i Faes B eleni
Hefyd o ddiddordeb: