O ble daw'r dywediad 'Cymru, Lloegr a Llanrwst'?
- Cyhoeddwyd

Gyda mis i fynd tan Eisteddfod Dyffryn Conwy yn Llanrwst, un o feibion enwog y dref, y Prifardd a'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, sy'n egluro tarddiad y dywediad lleol sydd wedi ei anfarwoli yng nghân Y Cyrff.

'Cymru, Lloegr a Llanrwst'.
Mae gen i gof o'r dywediad hwn yn cael ei ddyfynnu'n aml pan oeddwn i'n blentyn. Roedd mwy nag un dehongliad yn cael ei gynnig, ond yn y pen draw maen nhw i gyd yn ymwneud â bod y dref yn unigryw ac yn llawn ysbryd annibynnol.
Y stori glywais i amlaf yn blentyn yn y dre oedd bod afon Conwy yn ffin rhwng tir y Cymry ym mynyddoedd a chymoedd Eryri a byddin frenhinol Lloegr i'r dwyrain, a bod Llanrwst yn y canol mewn rhyw Dir Neb.
Ond mae mwy iddi na hynny. Mae ymchwil diwyd iawn gan gyn-brifathro o'r dre, Robert Jones, wedi dangos bod sail hanesyddol i'r dywediad a bod yna union ddyddiad y gallwn ni gyfeirio ato.
Yn 1276, mi ddaeth Llanrwst yn ôl i dalaith Llywelyn ap Gruffydd mewn cyfnod pan oedd yr hen farwniaid Normanaidd ac Edward 1af yn mynnu dwyn mwy a mwy o'i diroedd yn nwyrain Cymru.

Er mwyn rheoli'r rhyd pwysig ar afon Conwy a chael troedle ar y lan ddwyreiniol, mi wnaeth Llywelyn gyhoeddi bod Llanrwst yn Fwrdeistref Rydd Gymreig yn y flwyddyn honno.
Hyd yn oed ar ôl cwymp Llywelyn, roedd Llanrwst yn gwrthod ildio i fod dan fawd cestyll ac esgobion Normanaidd.
Ymddangosodd arfbais swyddogol y Dref Rydd am y tro cyntaf yn 1350 - a llewod a lliwiau Llywelyn oedd sail yr arwyddlun.
Parhaodd Llanrwst yn dref rebel - daeth dau o brif gadfridogion Owain Glyndŵr o'r ardal hon: Rhys Gethin a Hywel Coetmor. Yn y derw a'r creigiau o amgylch y dref yr oedd Dafydd ap Siencyn a Herwyr Nant Conwy yn llochesu gan fyw y tu allan i gyfraith y cestyll.
Eto, ar ochr ddwyreiniol yr afon (oherwydd llifogydd y dyffryn) y saif y dref.
Cafodd anthem Y Cyrff, Cymru Lloegr a Llanrwst, ei ganu gan gôr o Lanrwst, Corwst, yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017
Felly tref Gymreig, yn nhir cyfraith Lloegr. Cafodd ei llosgi i'r llawr gan y Normaniaid ar fwy nag un achlysur oherwydd hynny.
Ond daliodd ei thir.
Oherwydd deddfau cosb Lloegr ar y Cymry, ni chaem gynnal marchnad o fewn 10 milltir i'w trefi castellog nhw. Mae Llanrwst 11 milltir o Gonwy - ac i Lanrwst y mae ffermwyr y dyffryn yn dod am eu marchnad erioed.
Mae'r dref wedi gorfod amddiffyn y ffin a gwarchod ei chymeriad - ac mae hi yma o hyd.
Yn 1946, mi wnaeth Cyngor Tref Llanrwst gais am sedd wrth fwrdd y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd gan ei bod yn dref annibynnol - ac mi fu'n rhaid i'r Prif Weinidog Clement Atlee sgwennu llythyr at yr Ysgrifennydd Cyffredinol ar y funud olaf i ddweud y dylai Llanrwst fod dan ymbarél Prydain, yn hytrach na'i bod yn cael statws Tref Rydd!
Cân fawr Y Cyrff sydd wedi poblogeiddio'r dywediad y tu allan i'r dre ac ymysg y cenedlaethau ifanc - ac mae ffrwgwd a ffiniau yn gryf iawn yn y gân honno hefyd. Mae hyn i gyd yn y dywediad yma, yn fy meddwl i.
Mae'r dywediad yn cael ei ddefnyddio wrth i bobl o'r tu allan sylwi ar eiriau a dywediadau sy'n iaith y dref hefyd - mae tafodiaith Gymraeg y dref yn wahanol i ardaloedd eraill, debyg iawn.
Rydan ni'n deud pethau fel 'sbiad' (am edrych), 'ysdol' (am ysgol), 'crigo' (am ddifaru), 'pasa' (am fwriadu); 'mowion' (am forgrug), 'stori bîg' (am stori ddiflas), 'hwrê' (am hwyl fawr) a 'critch-cratch' (am giât mochyn).

A Lla'rŵs ydi enw'r lle, wrth gwrs. O ia, 'Cymru, Lloigar a Lla'rŵs' meddai pobol o'r tu allan wrth glywed pethau fel hyn.
Mae Saesneg y dref yn wahanol i Saesneg pob man arall hefyd. Mae Bangor yn dweud 'yn ai' ond mae rhai yn Llanrwst yn dweud 'yn-ai, yn âi'!
Mae yna lawer o eiriau Cymraeg yn Saesneg y dre hefyd - 'Aia del. Its a pechod about the rain. Aye, yn-ai yn âye!'

Myrddin ap Dafydd yw Archdderwydd Gorsedd y Beirdd
Hefyd o ddiddordeb: