Lluniau: Seremoni BAFTA Cymru 2019
- Cyhoeddwyd
Casgliad o luniau o sêr BAFTA Cymru ar y carped coch

Trystan Ellis Morris ac Emma Walford, cyflwynwyr cyfres Priodas Pum Mil ar S4C, a enillodd y wobr yn y categori Rhaglen Adloniant

Angharad Mair ar y carped coch

Huw Stephens oedd yn cyflwyno'r seremoni, ac fe enillodd hefyd wobr am y Cyflwynydd gorau am y rhaglen Anorac

Huw 'Ffash' Rees a'r comedïwr a chyflwynydd Tudur Owen - yn canu deuawd?!

Yr actores o Aberystwyth, Gwyneth Keyworth

Andrew Davies, awdur y gyfres deledu Les Misérables

Yr actor Steffan Cennydd a gafodd ei enwebu am ei ran yn y gyfres Enid a Lucy a'r actores Lowri Izzard

Y cyflwynydd Steffan Powell yn cyfweld ag Iwan Rheon, actor Game of Thrones, ef oedd yn cyflwyno Gwobr Siân Phillips i Bethan Jones yn y seremoni

Yr actores Mandip Gill gyda seren Doctor Who, Jodie Whittaker a gafodd ei henwebu yng nghategori yr Actores

Actores Jo Hartley o The Fights ac actor Killing Eve, Edward Bluemel

Y comedïwr a chyflwynydd Elis James

Ruth Jones, crëwr ac actor cyfresi Stella a Gavin and Stacey

Cyflwynwyr Heno, Llinos Lee a Huw Rees

Yr actor a chynhyrchydd Pink Wall, Richard Elis
Hefyd o ddiddordeb:
Fideo: Cipolwg tu ôl i len paratoadau'r BAFTAs efo Elin Fflur
Cipolwg tu ôl i len paratoadau'r BAFTAs efo Elin Fflur