BAFTA Cymru 2019: Gwobrwyo goreuon byd ffilm a theledu
- Cyhoeddwyd

Mewn digwyddiad llawn rhwysg yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd cafodd goreuon y byd ffilm a theledu eu gwobrwyo yn seremoni BAFTA Cymru 2019.
Eleni ffilm ddogfen sy'n dathlu amrywiaeth cerddoriaeth Gymraeg oedd yn arwain yr enwebiadau.
Cafodd Anorac chwech o enwebiadau a Huw Stephens, cyflwynydd y rhaglen a'r seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd nos Sul, a enillodd y wobr i'r cyflwynydd gorau.
Enillodd y ffilm hon hefyd wobr am ffotograffiaeth, golygu a sain.

Yn Anorac mae Huw Stephens yn mynd ar daith ar draws Cymru gan daflu goleuni ar gantorion a grwpiau dylanwadol
Yr actor o Fôn, Celyn Jones yn rhan y llofrudd Levi Bellfield yn nrama ITV, Manhunt a enillodd y wobr am yr actor gorau.
Roedd nifer o actorion amlwg wedi cyrraedd y rhestrau byrion gan gynnwys Syr Anthony Hopkins, Jodie Whittaker a Michael Sheen.

Syr Anthony Hopkins yn rhan King Lear gyda'r actores Florence Pugh
Enillwyd y wobr am yr actores orau gan Gabrielle Creevey o'r ddrama gomedi In My Skin - comedi sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd.

Hwn oedd y pumed tro i Eiry Thomas gael ei henwebu yn y categori ar gyfer yr actores orau
Fe gafodd, Steffan Cennydd un o sêr Enid a Lucy enwebiad am y wobr Torri Trwodd ynghyd â Seren Jones am y rhaglen ddogfen Zimbabwe, Taid a Fi a fu'n olrhain ei thaith gyntaf erioed i famwlad ei mam ond enillydd y wobr nos Sul oedd Jamie Jones am ei ran yn Obey.
Roedd Fflur Dafydd ar restr fer y wobr ar gyfer awduron am y gyfres 35 Awr, gan ymuno ag Andrew Davies am Les Miserables, Owen Sheers am The NHS: To Provide All People, a Russell T Davies am A Very English Scandal- enillwyd y categori gan Russell T Davies.
Ymysg y rhaglenni Cymraeg eraill a gafodd eu henwebu roedd Cynefin a Drych: Chdi, Fi Ac IVF a chynyrchiadau ar gyfer S4C oedd yr holl enwebiadau yn y categori rhaglen adloniant sef Cân i Gymru: Dathlu 50, Elis James - Cic Lan Yr Archif, Priodas Pum Mil! a Geraint Thomas: Viva Le Tour- yr enillydd nos Sul oedd Priodas Pum Mil!
Roedd enwau enillwyr dwy o wobrau arbennig Bafta Cymru 2019 eisoes wedi eu cyhoeddi.
Ddechrau mis Hydref cyhoeddwyd mai Bethan Jones fydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips am gyfraniad i deledu a ffilm ryngwladol, tra bod Lynwen Brennan yn cael ei anrhydeddu am gyfraniad rhagorol i'r diwydiant.

Cafodd gwobr Siân Phillips ei chyflwyno gan yr actor Iwan Rheon

Lynwen Brennan yn derbyn ei gwobr arbennig nos Sul
Yn ôl cyfarwyddwr BAFTA Cymru, Hannah Raybould mae hi wedi bod yn "flwyddyn wych i gynhyrchu ffilm, teledu a gemau yng Nghymru" gan "arwain at fwy o geisiadau - y nifer fwyaf a gofnodwyd erioed - ar draws ein holl gategorïau crefft, perfformio a chynhyrchu".

Yr enillwyr:
GWOBR SIÂN PHILLIPS - BETHAN JONES
CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU - LYNWEN BRENNAN
RHAGLEN ADLONIANT-PRIODAS PUM MIL
DRAMA DELEDU-IN MY SKIN
NEWYDDION A MATERION CYFOES-THE UNIVERSAL CREDIT CRISIS
FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL- JONI CRAY AND GRUFFYDD DAVIES ar gyfer Anorac
RHAGLEN DDOGFEN SENGL- CRITICAL: INSIDE INTENSIVE CARE
FFILM FER- GIRL
GWOBR TORRI TRWODD- JAMIE JONES ar gyfer Obey
GOLYGU-MADOC ROBERTS ar gyfer Anorac
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL- MEI WILLIAMS ar gyfer The Incurable Optimist
CYFRES FFEITHIOL- VELINDRE - HOSPITAL OF HOPE
SAIN- JULES DAVIES ar gyfer Anorac
CYFLWYNYDD - HUW STEPHENS ar gyfer Anorac
GÊM - TIME CARNAGE VR
COLUR A GWALLT-Claire Williams ar gyfer Apostle
DYLUNIO CYNHYRCHU- CATRIN MEREDYDD ar gyfer Black Mirror: Bandersnatch
FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN - ADAM ETHERINGTON ar gyfer Gwen
CYFARWYDDWR: FFUGLEN-MARC EVANS ar gyfer Manhunt
FFILM NODWEDD/DELEDU-LAST SUMMER
AWDUR- RUSSELL T DAVIES ar gyfer A Very English Scandal
EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL- BAIT STUDIO ar gyfer Apostle
RHAGLEN BLANT- GOING FOR GOLD
DYLUNIO GWISGOEDD-DINAH COLLIN ar gyfer Gwen
ACTORES- GABRIELLE CREEVEY fel Bethan Gwyndaf yn In My Skin
ACTOR- CELYN JONES fel Levi Bellfield yn Manhunt
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd6 Medi 2019