Oriel: Lluniau Marathon Eryri 2019
- Cyhoeddwyd
Cynhaliwyd Marathon Eryri ddydd Sadwrn, 26 Hydref, lle roedd bron i 2,500 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras a oedd yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa yn Llanberis. Dyma ddetholiad o luniau gan y ffotograffydd Gwynfor James o'r diwrnod:

Yn barod i gychwyn y ras, er gwaetha'r tywydd gwlyb - criw Cronfa Elen a oedd yn rasio fel tîm cyfnewid er budd elusen Rhys Meirion sydd yn codi ymwybyddiaeth ac arian tuag at roi organau

Criw cofrestru Marathon Eryri. Mae nifer o bobl leol yn gwirfoddoli ar y diwrnod

Mae Marathon Eryri yn ras heriol, ond mae'r golygfeydd yn drawiadol iawn. Dyma Callum Rawlinson a dyn lleol, Tom Roberts yn cyrraedd Pen-y-Pas

Pawen Lawen gan gefnogwr ifanc!

Enillydd y ras llynedd, Anna Bracegirdle, yn cyrraedd ar y blaen yn Pen-y-Pas

Er gwaetha'r tirwedd heriol, mae hwyl i'w gael wrth redeg y marathon

Callum Rowlinson o Sale ger Manceinion ddaeth yn gyntaf

Andrea Rowlands oedd enillydd ras y merched

Rhedwyr balch yn cyrraedd y llinell derfyn. Mae'r ras yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa, yna'n arwain rhedwyr i fyny Pen-y-Pas tuag at Feddgelert, ymlaen at Waunfawr cyn troi'n ôl i orffen yn Llanberis

Rhedwr hapus yn chwifio baner Cymru

Mae nifer o'r rhai sy'n cymryd rhan yn rhedeg i godi arian at wahanol elusennau

Gyda'i gilydd hyd y diwedd

Llongyfarchiadau i Andrea Rowlands a Callum Rowlinson, ac i bawb wnaeth gymryd rhan
Hefyd o ddiddordeb: