Be' sy'n gwneud i rhywun redeg 26.2 milltir yn Marathon Llundain?
- Cyhoeddwyd
O Gymraes sy'n rhedeg er cof am ei gŵr ac i nodi ei phenblwydd yn 80 oed, i fam wnaeth benderfynu cofrestru tra'n helpu ei mab drwy driniaeth canser - mae pob un sy'n cystadlu yn Marathon Llundain efo'u rheswm personol dros fentro'r 26.2 milltir.
Dyma straeon rhai o'r Cymry fydd ymysg y 40,000 o redwyr yn y ras eiconig - gan ddymuno pob lwc iddyn nhw i gyd.
Margaret Williams, Hen Golwyn
Dwi'n 80 eleni, a heb wneud marathon noddedig ers sbel felly nes i feddwl byddai'n braf gallu gwneud flwyddyn yma a chasglu arian at Hosbis Dewi Sant gan fod fy niweddar ŵr wedi cael therapi yno ac mae'n le sy'n rhoi gofal mawr i bobl.
Dyma fy 15fed marathon Llundain. Nes i un Conwy bedair wythnos yn ôl mewn pum awr a 34 munud.
Nes i ddechrau rhedeg pan oeddwn i'n 47 achos roeddwn i dros fy mhwysau a ddim yn ffit. Roeddwn i'n arfer rhedeg ar ôl iddi dywyllu, ond rŵan dwi'n teimlo mor dda dwi mor falch mod i wedi dechrau.
Roedden ni mewn archfarchnad ar ôl teithio lawr i Lundain i'r ras ac roedd dyn yn siopa yno ac fe wnaeth fy merch ofyn 'ydy chi'n rhedeg dydd Sul?'
Ddywedodd o 'na - ydych chi?' a ddywedodd fy merch 'Nac ydw, ond mae fy mam yn' - ac fe drodd i edrych arna i eto.
Gwennan Jones, Llangybi, Pwllheli
Fe gafodd ein mab diagnosis leukemia llynedd ac felly dwi'n hel pres i elusen Clic Sargent, maen nhw'n rhoi nyrs i chi sydd efo chi drwy'r siwrnai wedyn.
Roedd Caio yn cael triniaeth mor ddwys yn Alder Hey doedde ni ond yn gallu dod adra am gyfnodau byr. Mewn chwe mis dim ond am 14 diwrnod roedden ni adra.
Ond oni bai am Kelly, ein nyrs ni efo Clic Sargent, fydda fo ddim wedi bod yn bosib i ni ddod adra am hyd yn oed yr amser byr hynny felly dwi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw. Roedden nhw mor gefnogol drwy'r siwrnai - ac yn dal i fod.
Nes i benderfynu yn ystod y driniaeth mod i am redeg y marathon - a nes i roi fy enw lawr tra yn Ysbyty Alder Hey. Nes i ddechrau ymarfer tua diwedd mis Medi ar ôl i ni ddod adra ac mae o wedi bod yn help mawr i gael mynd allan a chanolbwyntio ar rywbeth arall.
Dwi'n stryglo efo fy mhen glin braidd ers dechrau'r flwyddyn - ond dwi'n benderfynol o orffen y ras, hyd yn oed os dwi'n gorfod cropian dros y llinell.
Enlli Parri, Caerdydd
Mae mam wedi rhedeg cwpl o Marathons Llundain yn y gorffennol a dwi wedi bod lan yn gweld hi ers i fi fod yn fach felly o'n i moyn rhedeg ers blynyddoedd. Llynedd ges i le trwy elusen ac wedyn wythnos ar ôl dod dros y ras ro'n i eisiau gwneud e gyd eto, felly dwi'n rhedeg eleni i MS UK.
Mae'n elusen sydd efo helpline a llythyr wythnosol ac ati i helpu pobl efo MS ac yn eu helpu i wneud y gorau o fywyd. Mae hanes MS yn fy nheulu i felly roedd e'n gwneud synnwyr mod i'n dewis yr elusen.
Mae'r awyrgylch ar y dydd yn anhygoel - mae'r holl redwyr yno ac mae'r strydoedd yn llawn, efo pobl ym mhobman ar hyd yr holl filltiroedd yn annog chi i gario mlaen. Ac os ydych chi'n mynd i Lundain fel tourist chi'n gweld Big Ben a Tower Bridge ac ati - ond i gael rhedeg dros Tower Bridge mae'n anhygoel.
O ni mor emosiynol llynedd, nes i bennu a roedd rhaid i fi eistedd ar ochr y pafin i jest llefen.
Gwydion ap Wynn, Pentrefelin, Porthmadog
Dwi wedi bod yn aelod o Redwyr Hebog ers tair blynedd a bob blwyddyn mae'r clwb yn derbyn un lle ar gyfer Marathon Llundain.
Yn y parti 'Dolig mae pawb sydd efo diddordeb yn rhoi eu henw mewn het ac mae'r person redodd flwyddyn ddiwethaf yn tynnu enw'r enillydd allan. Nes i daflu fy enw i mewn yn meddwl "dwi byth yn ennill dim" - a ddaeth fy enw i allan.
Dwi erioed wedi gwneud marathon o'r blaen - dwi ddim yn nerfus achos dwi'n neud be dwi'n caru gwneud sef rhedeg, ond dwi'n nerfus o fod yng nghanol gymaint â hynny o bobl - achos rhedeg mynydd dwi'n ei wneud.
Dwi'n casglu arian i Gafael Llaw - elusen sy'n cefnogi plant efo canser. Dwi'n gwybod am yr elusen ers sbel a dwi efo plant fy hun - ac mae'n bwysig cefnogi nhw.
Dwi'n mynd i'w fwynhau o a pheidio poeni gormod am amser.
Emyr Gibson, Caernarfon
Os ti angen cael dy hun allan i redeg ar ôl 'Dolig mae gaddo hel arian i elusen yn help mawr - felly mae'n win win achos mae'n help i dy gael di allan yn y tywydd garw a ti'n hel arian at achos da.
Dwi'n casglu i Ymchwil Canser Gogledd Orllewin - achos mae canser yn ein gwynebau ni bob dydd, a ddes i 'nabod Irfon Williams a gweld ei daith ddewr o, ac mae ffrindiau a theulu wedi diodde' o ganser.
Dwi'n edrych ymlaen - dyma fy nhrydydd Marathon Llundain, ac wythfed marathon i gyd ac mae rhywun o leia'n gwybod be' i ddisgwyl.
Gan fod gen i ddwy o ferched bach dwi heb ymarfer cymaint â'r arfer - all hynny fynd un o ddwy ffordd. Ella wnâi rili mwynhau heb boeni am amser, neu fyddai'n neud o a meddwl 'o na, roedd angen trainio mwy'.
Gellir noddi'r rhedwyr ar eu tudalen personol ar Just Giving, dolen allanol neu Virgin Money Giving, dolen allanol