Lluniau: Pobl Marchnad Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae marchnad canol Caerdydd yn fan lle mae posib prynu bob math o ddillad, teclynnau trydanol a bwyd, ac mae'r adeilad ei hun yn un trawiadol Fictorianaidd.

Mae'r farchnad ar safle gwreiddiol carchar Caerdydd ac roedd y grocbren wedi ei leoli wrth fynediad Heol Eglwys Fair lle crogwyd Dic Penderyn ar 13 Awst 1831.

Ond pwy yw'r bobl sy'n gweithio yn y farchnad? Dyma gipolwg ar hanes rhai ohonynt.

Cafodd y farchnad yng nghanol Caerdydd ei dylunio gan William Harpur, gan agor yn 1891. Ond roedd marchnad o ryw fath yn y ddinas ers canrifoedd lawer cyn hynny.

Gydag un rhiant o Rwsia a'r llall o Iran, fe wnaeth Kamal Rajabzadeh fyw llawer o'i fywyd yn Azerbaijan. Mae'n byw yn y wlad yma ers 32 mlynedd ac yn rhedeg stondin bwyd ardal Môr y Canoldir, sy'n cynnwys cacennau, cnau, ac olewydd.

Mae gweithwyr y stondin yma'n byw yng Nghaerdydd a Phontypridd, ond yn wreiddiol o Wlad Thai. Mae'n fan poblogaidd i fwyta ymysg y gymuned Thai yng Nghaerdydd ers bron i bum mlynedd.

Stuart Talbot o ardal Grangetown, Caerdydd. Mae'n gwerthu dillad vintage 'Talbots of Cardiff' o'i stondin yn y farchnad ers saith mlynedd.

Un o ddwy stondin hynaf y farchnad - stondin bysgod Ashton's yw'r llall - mae siop ymbarelau yn sefyll yma ers 1891, a Kevin Jones yw'r gŵr sy'n ei rhedeg heddiw.

Cwmni pizza Ffwrnes sydd bellach wedi ymgartrefu ym marchnad y ddinas ers y llynedd.

Yn achlysurol mae Cyngor Caerdydd yn cadw'r farchnad ar agor ar gyfer siopa hwyr, gan gynnwys cyfnod y Nadolig.

"Wnes i orffen ysgol ddydd Gwener a dechrau yma yn y farchnad ar y dydd Llun, a dwi dal yma."

Dechreuodd Mike Crates o Benarth weithio ar stondin bysgod Ashton yn 1972 pan oedd yn 15 oed. Mae stondin bysgod Ashton wedi bod yn gweithredu ers 1866.

Cae Clancy, yn gweithio gyda'i dad ar eu stondin sy'n gwerthu te, perlysiau, sbeisys, a bwydydd llysieuol a fîgan.

Y broses o baratoi a chrasu cacennau cri ar stondin Bakestones.

Luke Trott o ardal Tredelerch, Caerdydd, sydd yn gweithio ar un o stondinau ffrwythau a llysiau'r farchnad gyda'i ewythr.

Mae cloc mawr H. Samuel uwchben y mynediad o Heol y Santes Fair ers 1910. Cafodd y cloc presennol ei osod yno yn 1963 (gan Smith of Derby) ac fe gafodd ei hadfer yn 2011.

Mae sawl caffi o gwmpas y farchnad sy'n fannau i gwrdd a sgwrsio dros baned.

Cacennau cri a bara brith, cynnyrch Cymreig sy'n dal mor boblogaidd ag erioed yn y farchnad.

Karen Hennessey o Gasnewydd, sy'n gwerthu bagiau llaw a phyrsiau yn y farchnad ers 17 mlynedd.

Kelly Flay a Dianne Edwards, wedi bod yn gweithio yn y farchnad ers 24 a 31 o flynyddoedd. Dechreuodd y ddwy gyda'r 'bread stall' pan oeddent yn 14 oed.

Mae Colin Smith o Landaf yn gwerthu llyfrau ail law a chomics yn y farchnad ers 1993.

Mae'r farchnad wedi ei restru gyda statws Gradd II ers 1975.

Mae Kelly's Records, ar lawr uchaf yr adeilad, wedi bod yn fan poblogaidd i brynu finyl ers 50 mlynedd.

Y cigydd Alan Griffiths, a gymerodd gwmni'r teulu drosodd 50 mlynedd yn ôl. Mae'n dweud fod prysurdeb y farchnad wedi gostwng yn sylweddol o'i gymharu â'r 1960au.

Ffynhonnell y llun, EPA

Lynette Ford o ardal y Tyllgoed, Caerdydd sydd yn gwerthu cynnyrch gwau ar ei stondin ers saith mlynedd.

Hefyd o ddiddordeb: