Tu ôl i'r llen yn Amazon
- Cyhoeddwyd
Mae warws Amazon ar gyrion Abertawe yn adeilad sy'n dal sylw, yn bennaf oherwydd ei faint.
Mae'n gyflogwr mawr yn yr ardal ac mae'r adeilad yn dal miliynau o eitemau sy'n cael eu dosbarthu i gwsmeriaid.
Aeth Cymru Fyw i'r stordy i weld yr hyn sy'n digwydd yno.
Mae'r safle Amazon yma'n un o 17 canolfan o'i fath sydd gan y cwmni drwy'r DU.
Cafodd y safle ei agor yn swyddogol ym mis Awst 2007.
Mae'n cael ei alw yn CWL1 gan fod pob safle yn y DU yn cael eu henwi ar ôl y maes awyr rhyngwladol agosaf, ac yn achos Abertawe, Maes Awyr Caerdydd yw hwnnw.
Mae'r safle yn delio gyda'r holl ddillad ac esgidiau mae'r cwmni yn ei ddosbarthu yn y Deyrnas Unedig.
Mae Darren, o Abertawe wedi bod yn gweithio fel 'picker' ers 2009.
Mae gan Amazon 1,200 o staff parhaol yn gweithio yn y safle, gyda thua 2,000 o weithwyr ychwanegol yn cael eu cyflogi dros gyfnod y Nadolig.
Mae'r safle wedi ei rannu i wahanol adrannau, i ddelio gyda nwyddau yn dod i mewn, cael eu prosesu a'u dosbarthu.
Mae Malcolm Rees yn gweithio gyda Amazon ers Tachwedd 2011. Roedd yn arfer gweithio gyda'r British Antarctig Survey.
Aeth Malcolm ar daith i'r Antarctig yn 1980 tan Mai 1981 gyda Robert Swan - y dyn cyntaf i gerdded i Begwn y Gogledd a Phegwn y De.
Mae Amazon yn un o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, ac fe gafodd ei sefydlu yn Seattle yn 1994.
Mae'r safle yn 800,000 troedfedd sgwâr, sydd tua'r un maint ag 11 cae pêl-droed.
Mae rhan arbennig o'r gweithdy ar gyfer lapio ac addurno anrhegion.
Gan fod yr esgidiau'n cael eu storio mor uchel mae weithiau angen defnyddio craen i'w nôl nhw.
O grysau ffurfiol i byjamas, esgidiau pêl-droed i wellingtons, mae pob math o ddillad ac esgidiau ar y safle.
Yr ardal ailgylchu, lle mae hen focsus cardfwrdd yn cael eu casglu a'u cludo i gael eu hailddefnyddio.
Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw: