Golwg ar Gymru drwy gartwnau Mumph
- Cyhoeddwyd
Mae cartwnau eiconig y darlunydd Mal Humphreys - neu Mumph - wedi darlunio digwyddiadau gwleidyddol o bwys yng Nghymru ers degawdau.
Bellach, mae ei gasgliad o dros 3,200 o gartwnau yn cael ei brynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'r casgliad yn cael ei brynu drwy Gronfa Gartwnau Mumph. Nod y Llyfrgell yw codi £25,000 er mwyn gwarchod y casgliad, dolen allanol.
Mae Llyfrgell wrthi'n digido'r holl gasgliad ar hyn o bryd, ond mae Cymru Fyw wedi cael cipolwg cynnar ar ambell i gartŵn cofiadwy:
Hawlfraint: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ymddangosodd y cartŵn yma mewn atodiad Ffermio yn y Western Mail yn yr 1990au-2000au.
Meddai Mumph amdano: "Rhyfedd i feddwl bod ailgylchu a'r amgylchedd ar ein meddyliau amser yna hefyd."
Cafodd Mumph ei ysbrydoli i lunio'r cartŵn yma gan brofiad personol: "Dwi'n cofio gwneud penderfyniad i fynd lawr i Gaerdydd i wylio rhyw gêm Pump Gwlad neu falle Chwe Gwlad.
"Mi ffoniais westy yn Cathedral Road, Caerdydd ar brynhawn dydd Sadwrn, jyst fel oedd un o gemau Cymru yn dechrau… ac aelod o staff y gwesty yn ateb y ffôn ac yn cwyno mod i wedi ffonio ar amser anghyfleus iawn!"
Mae'r cartŵn yma'n dychmygu creaduriaid o'r gofod, sy'n siarad iaith y nefoedd wrth gwrs, yn glanio ar y byd a chafodd ei greu ar gyfer cylchgrawn Cymraeg.
Roedd Mumph yn gyfrifol am gyfres o stribedi cartŵn o dan y teitl Just William yn y Western Mail a oedd yn cydfynd â chyfnod William Hague fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1995. Yn y cartŵn yma, mae'n cael hwyl ar draul Rod Richards.
Yn ôl Mumph: "Yma'n amlwg rwy'n rhoi sylw i'r penderfyniad am Dŷ Opera Cymreig wrth danlinellu'r amodau gwael a oedd yn bodoli yn yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys o fewn ysbytai Cymru. Fawr 'di newid yn nagoes."
Un o'r cartwnau golygyddol ar gyfer y Western Mail i gyd-fynd ag etholiad yn yr 1990au-2000au. Yn y gwaith mae Mumph yn cyfeirio at y pryder a oedd yn bodoli yn ystod y cyfnod yma am ddigwyddiadau terfysgol.
Defnyddiwyd y portread yma o Bryn Terfel i greu poster ar gyfer cyngerdd Bryn Terfel, Homecoming, yng Nghastell Caernarfon er mwyn codi arian i elusennau. Cafodd y llun ei gyhoeddi ym mhapur The Daily Post ar ddiwrnod y cyngerdd.
"Os dwi'n cofio'n iawn, erbyn y cyfnod yma, roedd Bryn wedi mabwysiadu designer stubble a dwi'n amau mod i wedi ychwanegu'r blewiach yma i'r llun gafodd ei ddefnyddio i'r poster," meddai Mumph.
Cartŵn golygyddol ar gyfer y Western Mail yn 1995.
Meddai Mumph am y cartŵn yma: "Dyma sylw ar ddiffyg Yr Uwch Bwyllgor Cymreig i greu unrhyw ddeddfwriaethau ar gyfer Cymru. Sylwch fod Prif Weinidog Lloegr - John Major - unwaith eto gyda'r gair olaf ar unrhyw fater."
Ymddangosodd yn y Western Mail ym mis Ebrill 1999. Mae'r gwleidyddion yn cynnwys Alun Michael a Neil Kinnock o'r Blaid Lafur, Mike German a Paddy Ashdown o'r Democratiaid Rhyddfrydol, y Ceidwadwyr Rod Richards a William Hague a Dafydd Wigley o Blaid Cymru.
Dywedodd Mumph am y gwaith: "Yma dwi'n portreadu fod pob un o'r arweinwyr yn dibynnu ar gymeriad o Loegr i gefnogi nhw, ar wahân i Dafydd Wigley sydd yn amlwg yn gefnogol o Alun Michael - neu o leia' yn dibynnu arno am lwyddiant."
Cyfres o stribedi cartŵn â theitl The One Ronnie, a grëwyd ar gyfer y Western Mail, i gyd-fynd â chyfnod Ron Davies fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1997.
Yn y stribed cartŵn gwelwn Ron Davies yn ystyried ceisio am swydd newydd, gyda Peter Hain a Win Griffiths yn ceisio ei berswadio i fynd amdani.
Yn 1998 cynhyrchwyd rhaglen deledu gan S4C am fywyd a gyrfa'r cartwnydd Gerald Scarfe i gydfynd ag arddangosfa yn y National Portrait Gallery, Llundain.
Gofynnwyd i Mumph greu cartŵn yn arddull Scarfe ar gyfer y rhaglen. Yma mae Gerald Scarfe yn cael ei bortreadu yn taflu inc at y cyn Brif Weinidog Margaret Thatcher.
Ymddangosodd y 'stampiau coffa' yma ar gyfer ymgyrch y Cynulliad yn y Western Mail ym mis Mai 1999. Yn y stampiau mae Rod Richards, Dafydd Wigley, Mike German a Ron Davies (ac Alun Michael gyda pharasiwt) yn cael eu portreadu.
Hefyd o ddiddordeb: