Llyfrgell Genedlaethol yn prynu llun eiconig Salem

  • Cyhoeddwyd
The VosperFfynhonnell y llun, Rogers Jones & Co
Disgrifiad o’r llun,

Hwn yw ail fersiwn Sydney Curnow Vosper o baentiad Salem

Mae un o'r fersiynau gwreiddiol o'r darlun enwog Salem wedi ei werthu trwy gytundeb i'r Llyfrgell Genedlaethol yn hytrach na'i gynnig mewn arwerthiant fel oedd y bwriad gwreiddiol.

Dywedodd cwmni arwerthwyr Rogers Jones & Co fod perchnogion gwreiddiol y darlun yn falch fod Salem i aros yn rhan o gasgliad cyhoeddus.

Mae'r darlun gan Sydney Curnow Vosper o 1901 yn dangos Siân Owen, Tyn-y-Fawnog, yn cyrraedd gwasanaeth yng Nghapel Salem yng Nghefn Cymerau ger Llanbedr yng Ngwynedd.

Y Bwriad gwreiddiol oedd ei werthu mewn ocsiwn yng Nghaerdydd ar 19 Hydref gydag amcan bris wedi ei osod rhwng £40,000 a £60,000.

Dywedodd Ben Rogers Jones ar ran yr arwerthwyr er eu bod wedi bod yn "edrych ymlaen at y cyffro a'r drama o weld y llun yn cael ei werthu mewn arwerthiant rydym yn hynod falch y bydd y darlun yn aros yn rhan o gasgliad cyhoeddus yng Nghymru".

Perchnogion haeddiannol

"Mae'r darlun yn eicon ym maes celfyddyd gain Gymreig ac roedd yn anrhydedd i ddelio gydag ef yn ystod ei gyfnod byr gyda ni," meddai Mr Rogers Jones.

"Fe fydd manylion y cytundeb gyda'r Llyfrgell Genedlaethol yn parhau yn breifat.

"Ni allaf feddwl am berchnogion mwy dynamig, craedigol a haeddiannol na'r Llyfrgell, a byddaf yn bersonol yn edrych ymlaen at weld 'Salem' yn ei gartref newydd yn Aberystwyth.

"Byddwn hefyd am ddiolch i fy nghleient oedd, o'r cychwyn cyntaf, yn gobeithio y byddai'r darlun yn aros yn rhan o gasgliad cyhoeddus."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna fân wahaniaethau rhwng y Salem cyfarwydd ar y chwith, a'r 'ail' Salem ar y dde

Fe werthwyd y llun cyntaf un i William Hesketh Lever, perchennog cwmni Sunlight Soap.

Cafodd y ddelwedd ei mabwysiadu i farchnata'r sebon, ac roedd modd i gwsmeriaid gasglu tocynnau arbennig er mwyn prynu copi o'r darlun gyda'r canlyniad bod y llun i'w gweld mewn cartrefi ar draws Cymru.

Mae yna fân wahaniaethau rhwng y llun cyntaf a'r ail fersiwn a gafodd ei baentio ar gais brawd-yng-nghyfraith yr arlunydd, Frank James.

Roedd Mr James - cyfreithiwr ym Merthyr Tudful - wedi dotio gymaint at y llun, fe ofynnodd i Vosper greu copi manwl ohono.