Bwyta, cysgu, crio: Sut mae bywyd yn newid ar ôl cael plant?
- Cyhoeddwyd
Ydy, mae magu plant yn gallu bod yn bleser pur ac yn hunllef llwyr. Ac mae 'na bethau sy'n gwneud i chi dynnu eich gwallt o'ch pen.
Dau sy'n hen gyfarwydd â bod i fyny at eu clustiau mewn cewynnau yw'r digrifwr Beth Jones a'r cartŵnydd Siôn Tomos Owen. Ac er gwaetha'r diffyg cwsg, mae'r ddau wedi dod at ei gilydd i greu podlediad newydd arbennig sy'n trin a thrafod yr holl brofiadau boncyrs o fod yn rhieni.
"Mae magu plant yn gallu bod yn amser heriol - ond mae hefyd yn lot o hwyl," meddai Siôn, sy'n jyglo bod yn dad i Eira a Mali gyda'i waith fel cyflwynydd ac artist llawrydd.
Mae bywyd Beth yr un mor brysur. Mae'n fam i Harri (a Pippin y gath) ac yn gweithio i Fenter Caerffili tra hefyd yn teithio Cymru fel digrifwr stand yp.
"Bwriad y pod yw i ni fedru rhannu ein profiadau ni gyda chi," meddai Beth. "Nid canllaw magu plant yw e ond golwg doniol a didwyll ar y profiad o fod yn rhieni - i godi calon ac i'ch atgoffa chi nad y'ch chi ar eich pen eich hun yn hyn i gyd."
Felly sut mae bywyd wedi newid i Beth a Siôn ers cael plant? Gofynnodd Cymru Fyw iddyn nhw esbonio:
(Gwaith celf gan Siôn Tomos Owen)
Maaami!
Beth: "Mam, mam, maaam, mami, mami, mum, mumma." Dyma trac sain newydd fy mywyd.
Hyd yn oed pan dwi'n ateb mae o dal yn dweud "mam" cwpl mwy o weithiau ac yna dweud rhywbeth fel "dau tri chwech" a dwi'n meddwl am eiliad ei fod o'n athrylith yn gallu lluosi - ond just ddim yn gallu cyfri'n iawn mae o!
Yr edrychiad
Siôn: Dwi 'di gorfod perffeithio "yr edrychiad", sef sut i roi stŵr heb eiriau. Un i bob achlysur:
"Esgusodwch fi?"
"Beth yn y byd..?"
"Wyt ti wir yn credu gei di get away 'da hwnna?"
A "Dim siawns, butt."
Fy ffrind gorau
Beth: 'Does dim fawr o gyfle i fod yn spontaneous yn fy mywyd rŵan. Dyddiadur Y Lolfa yw fy ffrind gore'. Mae'n bosib 'neud pethau ar hap efo'r mab munud olaf ar y penwythnos, ond mae'n dal rhaid ystyried amser nap, amser cinio, amser snac…
Ond mae o'n lot haws rŵan fod o'n toddler nag oedd o yn fabi.
Hylif
Siôn: Dros y blynyddoedd dwi 'di arfer 'da pob math o frwntni: mwd a gwaed o chwarae rygbi, chwys o bêl-fasged, dagrau a snot plant ysgol.
Ond doeddwn i ddim wedi paratoi am y cyflymdra mae hylif corfforol babi yn gallu saethu mas o gorff mor fach. Erbyn hyn, mae fel rhyw fedyddiad ar fy marf...
Staens
Beth: Mae pob dilledyn dwi'n ei wisgo efo staen o ryw fath. Tydi bwyd oren byth yn dod allan na chwaith crayon sydd wedi mynd trwy'r golch a staenio'r dillad isaf i gyd.
Ond o leia' dwi'n gallu cael 'get away' hefo staens te neu goffi dwi'n tasgu ar fy hun rŵan - just beio'r mab!
'Run spit!
Siôn: Fy hoff beth yw shwt gymaint ma'ch plant yn troi mas fel chi.
Mae gen i ddwy ferch fach - ac mae gan y ddwy ohonyn nhw gymeriad unigryw. Ond, ma' rhai o'r pethe mae nhw'n 'neud yn fy atgoffa i o fi fy hun. Dwi'n dwli ar y ffaith bod ein merch hynaf yn gwenu, canu, dawnsio, tynnu ystymiau a chwarae dwli - yn union fel fi!
Hefyd o ddiddordeb: