Sul y Mamau: Yn fy mhen v Go iawn

  • Cyhoeddwyd
Rhiannon BoyleFfynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon Boyle wedi cynhyrfu at Sul y Mamau - ond a fydd y diwrnod mor sbesial ag y mae wedi ei obeithio?

Mae Rhiannon Boyle yn caru ei phlant a'i theulu gymaint mae'n ysgrifennu amdanyn nhw yn gyson mewn blog, dolen allanol ac ar Instagram, dolen allanol dan y teitl the Daily Boyle. Ond dydi'r freuddwyd o fod yn fam ddim bob amser yn cyd-fynd â'r realiti, fel mae hi'n ei rannu gyda Cymru Fyw ar Sul y Mamau.

Gallai'r diwrnod arbennig fynd un o ddwy ffordd...

Yn fy mhen...

Mae'r plant yn cysgu tan wyth. Ar ddeffro ma' nhw'n sleifio lawr i'r gegin efo Dad i baratoi brecwast o grempogau efo bacwn a maple syrup i mi fwynhau yn y gwely.

Go iawn...

Fydd y bychan 'di deffro am chwech yn deud 'i bod hi "Isho pŵ". Er iddi fod bron yn bump oed fydd hi dal yn mynnu mod i'n sychu 'i phen ôl. Mae hyn yn rhoi fi off fy mrecwast rhywsut.

Ffynhonnell y llun, LightFieldStudios
Disgrifiad o’r llun,

Yn anffodus, dydi merch Rhiannon ddim wedi cael y memo

Yn fy mhen...

Bydd y plant yn swatio mewn dan y cwrlid ac yn rhoi'r cardiau ciwt i mi maen nhw 'di creu yn ysgol. Bydd Dad yn rhoi tusw o flodau hardd ger fy mron a voucher i gael full body massage mewn rhyw spa drud, moethus yn y ddinas.

Go iawn...

Ma' nhw 'di anghofio'r cardiau yn yr ysgol ac felly ma' nhw 'di ypsetio'n lân. Ma' Dad 'di prynu cerdyn rili rybish i mi o siop gardiau rhad a gan fod 'na 'mond un, ma'r angylion bach yn dadlau am bwy sy'n mynd i roi o yn llaw Mam. Mae Dad 'di prynu mop newydd i mi a bocs o ddisinffectant gan mod i'n "Hoffi Mrs Hinch gymaint dyddia 'ma." Dwi'n gwglo - "Is Mrs Hintch bad for feminism?" ac ar ôl darllen be' sgin y we i ddeud, dwi'n gwylio hi'n ll'nau llawr y bathrwm am ugain munud ar storis Instagram.

Ffynhonnell y llun, Epiximages
Disgrifiad o’r llun,

Y ddelfryd...

Yn fy mhen...

Dwi'n ca'l fy nhrin fatha brenhines drwy'r dydd. Tydi Dad ddim yn gadael i mi godi bys. Mae o'n rhedeg y sioe fel cloc - yn glanhau, coginio a thendio at y plant. Aaaaaaaa. Am ddiwrnod ymlaciol, braf.

Go iawn...

Mae pawb 'di anghofio bod hi'n Sul y Mamau o fewn tua awr a dwi'n ffeindio'n hun yn stacio'r dishwasher, rhoi golch ymlaen a chodi cachu ci oddi ar y lawnt yn fy slipers, a hynny oll cyn wyth o'r gloch. Dwi 'di blino a dwi'n flin… jest fel bob diwrnod arall rili.

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Y realiti...

Yn fy mhen...

'Da ni'n mynd allan am fwyd i fy hoff fwyty. Ma'r bwyd yn flasus, a'r teulu oll yn hapus a dedwydd. Wel am ddiwrnod i'r brenin.

Go iawn...

Ma'r bwyty'n orlawn ac felly ma'r bwyd yn sub-standard a'r gweini'n ofnadwy. Ma'r plant yn ffraeo achos 'da ni 'di anghofio pacio'r lliwio felly'r unig beth neith stopio nhw rhag strancio 'di chwara kick the buddy ar ffôn Dad. Dwi'n teimlo fatha bod pobl yn edrych. Neith y bychan ddim bwyta dim achos ma'r moron yn rhy feddal, y sglods yn rhy galed a'r chicken yn rhy sych. Dio ddim yn rhad felly dwi'n teimlo fatha sticio fo i fyny'i blydi thintws hi.

Ffynhonnell y llun, praetorianphoto
Disgrifiad o’r llun,

Fel hyn roedd pethau i fod...

Yn fy mhen...

Ar ddiwedd y dydd ma'r plant yn cwtsio mewn yn dawel i gael stori fach hyfryd. "Wyt ti wedi cael Sul y Mamau neis Mami?" ma' nhw'n gofyn, eu hwynebau hardd yn llawn cariad pur. "Do," dwi'n sibrwd yn dyner. "Y gora erioed." Ac ar hynny maen nhw'n syrthio i gysgu'n syth i freuddwydio am eu mam berffaith, hapus.

Go iawn...

Ma' nhw'n hyper - fel ma' nhw bob nos amsar mynd i gwely. Dwi di 'laru gofyn iddyn nhw wisgo'u pyjamas a brwsio'u dannedd. Dwi ar fin colli'r blydi plot. Pan ma' nhw yn mynd lawr o'r diwedd, ma' na o leia' awr o "dwisho wi", "dwi methu cysgu", "dwisho crîm ar fy mhen ôl achos ma'n cosi", "dwisho dŵr" ayyb.

Maen nhw'n cysgu am tua hanner awr 'di wyth, ond wedyn ma' angen gneud y bocsys bwyd, y bagiau ymarfer corff, darllen cylchlythyr yr ysgol, talu am y trip/gwersi hwn-a'r-llall a smwddio'r wisg ysgol… ok ma' hynny'n gelwydd. Dwi byth yn smwddio, dwi jest yn ysgwyd nhw a rhoi nhw ar y radiator. Ond ma' dal yn boen tydi?

So dyna ni, ma' Sul y Mamau jest yn ddiwrnod arall rili tydi?

Ffynhonnell y llun, Rhiannon Boyle
Disgrifiad o’r llun,

Sul y Mamau: jest fel pob diwrnod arall

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw