Lluniau: Oes aur chwareli'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Daeth y newyddion heddiw fod Llywodraeth y DU wedi enwebu ardaloedd llechi Gwynedd i fod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Dyma'r unig enwebiad gan y Deyrnas Unedig eleni, ac os bydd yn llwyddiannus, dyma fydd pedwerydd safle UNESCO Cymru, ynghyd â Thraphont Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward y Cyntaf.
Yr ardaloedd penodol sydd wedi eu cynnwys yn yr enwebiad yw:
Chwarel Lechi Penrhyn, tref Bethesda, a Dyffryn Ogwen i Borth Penrhyn;
Tirwedd Chwarel Lechi Dinorwig;
Tirwedd Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle;
Chwareli Llechi Gorseddau a Prince of Wales, Rheilffyrdd a Melin;
Ffestiniog: ei Cheudyllau a Chwareli Llechi, 'prifddinas llechi' a'r rheilffordd i Borthmadog;
Chwarel Lechi Bryneglwys, pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn.
Mae'r llyfr Welsh Slate: Archaeology and History of an Industry gan David Gwyn, archeolegydd diwydiannol o Benygroes, yn olrhain hanes rhai o'r chwareli a'u cymunedau. Yn y gyfrol mae yna luniau trawiadol o'r amodau gwaith yn y chwareli, a gafodd eu cyhoeddi gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Dyma flas o rai o'r lluniau o'r gweithwyr a'r tirwedd:

Naddwr llechi yn Chwarel y Penrhyn

Chwarelwyr Dorothea, Dyffryn Nantlle

Pwyllgor chwarelwyr y Penrhyn: arweinydd yr undeb, W. J. Parry (chwith), yn wynebu'r Arglwydd Penrhyn (dde)

Melin llawr 5 yn chwarel Llechwedd

W. J. Parry yn arwain ymwelwyr enwog o'r mudiad llafur o amgylch chwarel gydweithredol Pant Dreiniog a'i chyfarpar newydd

Melin slabiau Ynys y Pandy gyda chwarel Gorsedda yn y cefndir

Barics y Dre' Newydd yn chwarel Dinorwig

Chwareli Ffestiniog

Chwareli Dyffryn Nantlle

Cafodd y llechi eu cludo i farchnadoedd ar hyd a lled y byd o Gei Caernarfon
Cafodd y lluniau yma eu cyhoeddi gan Cymru Fyw yn wreiddiol mewn erthygl ym mis Mai 2015.
Hefyd o ddiddordeb: