Treorci: Stryd fawr orau'r Deyrnas Unedig
- Cyhoeddwyd
Mae stryd fawr Treorci, y Rhondda, wedi ei henwi fel yr un orau yn y Deyrnas Unedig mewn seremoni wobrwyo yng Nghaeredin.
Ond beth sydd yn ei gwneud hi mor arbennig?
Aeth y ffotograffydd Sioned Birchall draw yno am dro i dynnu lluniau rhai o'r busnesau llewyrchus sydd yno, a sgwrsio â rhai o'r gweithwyr a chwsmeriaid.

Josie Staple yw perchennog siop Cakes by Josie. Roedd ganddi siop yn Nhonpentre am ddwy flynedd, ond ail-leolodd i Dreorci ym mis Gorffennaf ohewydd bod cymaint mwy o bobl yn siopa ar y stryd.


Mae siopau traddodiadol a rhai ychydig mwy newydd i'w gweld ochr-yn-ochr ar hyd y stryd fawr.


Norma Mears gyda Nicola Morris, perchennog siop drin gwallt Naturells. Roedd gwallt newydd Norma yn amlwg yn plesio!


Amy Williams wrthi'n brysur yn goleuo gwallt cwsmer yn Naturells.


Mae siop Maindy Heating wedi bod yn Nhreorci ers 1969, ac ar y safle presennol ers 1973. Allan Jones a'i wraig yw'r perchnogion.


Roedd Allan wrth ei fodd â'r wobr: "Mae'n hollol wych! Mae hi wedi bod yn dref a chymuned lwyddiannus ers amser hir.
"Mae hi'n bwysig i gofio sut mae aelodau hŷn y gymdeithas o fanwerthwyr sydd gennyn ni yma yn Nhreorci wedi helpu i gynnal y dref dros y blynyddoedd."


Newydd-ddyfodiad yw siop Flowers by Kirsty i Dreorci, wedi iddi symud yno o Porth ddwy flynedd yn ôl.
Roedd y perchennog, Kirsty Rees, wedi gwirioni ar ôl clywed y newyddion: "Mae ennill yn golygu popeth, achos mae'n gyhoeddusrwydd grêt i ni, ac mae'n rhoi eich busnes ar y map. Mae 'na rywbeth i bawb yma - gallech chi ddod i siopa yma gyda'ch mam a mam-gu a byddech chi gyd yn dod o hyd i rywbeth!
"Mae gennyn ni deimlad o gymuned rhwng y siopau, hefyd - mae pawb yn edrych ar ôl ei gilydd."


Mae tua 100 o siopau ar y stryd fawr, gyda bron pob un yn annibynnol.


Mae Mrs Ann Barrett wedi byw yn Nhreorci ar hyd ei hoes ac yn Ysgrifennydd Cymdeithas Ddinesig y Rhondda.
Meddai: "Mae'r gymuned yma yn Nhreorci bob amser wedi cefnogi'r siopau lleol. Mae cymdeithas heb ei hail yma. Ry'ch chi bob amser yn gweld rhywun chi'n 'nabod yn y dref.
"Ry'n ni hefyd yn falch iawn bod dal banc yma a swyddfa bost - a deintydd, doctor a dau optegydd... mae'n rhoi mwy nag un rheswm i chi ddod i'r dref. Ac mae'r siopwyr yn gwneud ymdrech arbennig gyda'u ffenestri ar gyfer y Nadolig, Pasg, Calan Gaeaf, sy'n gwneud y lle yn apelgar iawn."


Mae Rosemary Chapman, perchennog siop de ac anrhegion Wonder Stuff, sydd wedi bod ar stryd fawr Treorci ers 20 mlynedd, yn meddwl fod ennill y wobr yn fraint.


Rosemary gyda dau gwsmer ffyddlon, Wendy Williams (canol) a Clare Evans, sydd yn fam a merch.
Meddai Wendy: "Mae Rosemary yn enwog am ei chacennau, ac mae hi'n ffrind da. Mae dod yma yn ddiwrnod mas i'r teulu i ni - ry'n ni'n dod yma bob dydd Sadwrn. Mae cwsmeriaid yn dod yma ac yn gwneud ffrindiau."


Maureen Thomas, sydd wedi gweithio yn Wonder Stuff ers iddo agor.


Roedd Susan Davies a Roy Davies o Ben-y-bont a mam Susan, Merl Dackings o'r Porth, wedi dod draw yn unswydd ar ôl gweld y newyddion am lwyddiant y stryd fawr ar y teledu.
"Daethon ni'n arbennig er mwyn cael edrych o amgylch y lle," meddai Susan. "Dwi'n barod wedi prynu dau grys rygbi Cymru, yn barod ar gyfer y Chwe Gwlad!"


Mae rhai o hen siopau traddodiadol y stryd fawr dal i'w gweld yn Nhreorci, fel siop cigydd C J Morris.


Gweithwyr hapus y siop gigydd deuluol: Jeff Morris, ei dad Cyril Morris, Samantha Maggs a Cori Williams. Mae Cori hefyd yn chwarae pêl-droed i dîm Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: