Yr artist sy'n gwneud hunan-bortread ym mhob llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r arlunydd Seren Morgan Jones yn wreiddiol o Aberystwyth, ond ar ôl cyfnodau yn byw dramor gyda'i theulu, mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Llundain gyda'i gŵr a'i merch ifanc.
Portreadau lliwgar o ferched mae Seren yn eu paentio, gan ddwyn ysbrydoliaeth o hanes Cymru, diwylliant Cymraeg a'r hyn mae hi'n ei weld o'i chwmpas.
'Rhoi paent ar gynfas'
"O'dd e wedi dechre pan o'n i'n byw yn Vienna. O'n i'n medru gweld holl waith Klimt yn y Belvedere am ddim - hwnna 'nath wir setio fi off, dyna lle 'naeth fy mherthynas i efo paentio rili dechrau.
"Nes i radd celf gain yn Llundain ac arbenigo mewn paentio. O'dd y coleg lawr y ffordd o'r National Gallery, y National Portrait Gallery a'r Royal Academy of Arts felly o'n i'n mynd i fan'na ac yn edrych ar yr holl gelf yna.
Fan'na o'n i 'di gweld mai beth o'n i rili eisiau gwneud oedd rhoi paent ar gynfas. Dyna dwi'n ei garu.
"Yr unig beth fi'n ei 'neud yw portreadau - er dy'n nhw ddim yn bortreadau yn yr ystyr traddodiadol. Dy'n nhw ddim o bobl, achos fi'n 'neud lan y wynebau.
"Dwi'n defnyddio lluniau fel reference, ond weithiau bydd wyneb wedi ei greu o sawl reference gwahanol. Weithiau mae 'da fi syniad o pwy yw'r person, a beth yw eu stori nhw, ond weithiau dwi jest yn 'neud y person lan.
Diwylliant y Cymry
"Dwi'n edrych lot ar ddiwylliant Cymreig. Erbyn hyn, dwi wedi byw mas o Gymru am yn hirach na dwi wedi byw yng Nghymru, felly mae lot o fy ngwaith yn edrych ar sut mae pobl o Gymru yn edrych ar eu hunain, a sut mae pobl tu fas i Gymru yn ein gweld ni. Mae hynny wastad yn y gwaith.
"Dwi wedi edrych ar bobl Cymreig drwy hanes. Fe wnes i gasgliad o gwmpas y diwygiad diwydiannol; y glo a'r gwlân.
"Dwi hefyd wedi edrych ar y symudiad suffragists yng Nghymru, achos nes i sylweddoli mod i'n gwybod lot amdano yn Lloegr ond do'n i ddim yn gwybod sut oedd Cymru wedi bwydo mewn i'r adeg yna.
"Ond nawr dwi'n gweithio ar sioe ar gyfer yr haf, yn edrych ar fenywod y Mabinogi. Ddes i lan â'r syniad achos Mam-gu fi yw Margaret Jones, dolen allanol, 'nath 'neud y lluniau i'r llyfr a'r poster Mabinogion enwog.
"Pryd o'n i'n tyfu lan, bob dydd Mawrth ar ôl ysgol, bydden i'n mynd draw i'w thŷ hi. Roedd ganddi stiwdio anhygoel a bydden i'n cael eistedd wrth ei desg hi a byddai hi'n gadael i mi ddefnyddio ei holl baent hi - paent dyfrlliw oedd hi'n ei ddefnyddio.
"Mae'r gwaith 'ma yn y llyfre yn anhygoel, a dwi'n ddigon ffodus i'w gweld nhw yn y cnawd.
"Yn y cyflwyniad i gyfieithiad y Mabinogion gan Sioned Davies, mae'n dweud mai'r holl beth gyda'r chwedlau yma yw eu bod yn cael eu haddasu gan y person sy'n dweud y stori, i adlewyrchu syniadau'r dydd. Dyna pam fod y straeon yn parhau, oherwydd eu bod yn gallu cael eu haddasu.
"'Nes i feddwl 'sa hi'n ddiddorol i weld fel baswn i'n addasu'r menywod 'ma i nawr, a hefyd trio penderfynu pa fath o fenyw y'n nhw, oherwydd mae lot ohonyn nhw ond yn cael tua chwe brawddeg amdanyn nhw yn yr holl beth.
Mae hyn yn fendith ac yn felltith, achos mae yna lot o le i allu rhoi bywyd iddyn nhw, sydd ddim ar y dudalen.
'Dal teimlad y person'
"Dwi ddim ond yn paentio merched. S'dim diddordeb 'da fi mewn gwneud lluniau o ddynion.
"Achos bo' fi wedi cael babi, dwi'n meddwl mod i'n edrych mwy nawr ar sut ydw i. Mae'r merched dwi'n eu gwneud yn heneiddio gyda fi - fi ddim yn gwneud pobl sydd yn llawer iau na llawer hŷn na fi.
"Pan o'n i'n mynd i'r National Gallery, o'n i'n gweld rhai lluniau anhygoel, ond wedyn yn gweld rhai eraill sy'n edrych fel fod yna fywyd yn y llun. Maen nhw wedi dal teimlad y person, fel fod ganddyn nhw ryw fath o fywyd a presence.
"Dyna dwi mo'yn trio'i gael ym mhob llun - y teimlad bod yna berson yna a'u bod nhw ar fin dweud rhywbeth wrthoch chi.
"Fi'n meddwl mai dyna'r rheswm pam fi'n dod nôl o hyd at y menywod, achos dwi jest ddim yn teimlo'r un cysylltiad gyda gwneud llun o ddyn. Gan mod i'n fenyw, dwi'n gallu rhoi fy hun mewn i'r bobl yma mewn ffordd dwi'n gallu ei ddeall yn bersonol.
"Mae 'na wastad elfen o hunan-bortread, beth bynnag yw testun y gwaith. Maen nhw i gyd yn bortreadau o fy hunan, rhyw ffordd neu'i gilydd, achos maen nhw i gyd yn syniadau o fy mhen i."
Hefyd o ddiddordeb: